Neidio i’r prif gynnwys

Blog: Yr Etholiadau a'm data personol i – beth ddylwn i ei ddisgwyl?

  • Dyddiad 10 Ebrill 2026
  • Math Newyddion

""Gydag etholiadau Seneddol yng Nghymru a’r Alban ac etholiadau lleol ledled Lloegr am gael eu cynnal ym mis Mai 2026, rydyn ni’n gwybod bod gan lawer o bobl gwestiynau ynglŷn â sut y gall eu data gael ei ddefnyddio. Mae gwybodaeth bersonol yn rhan bwysig o ymgyrchu gwleidyddol. Mae'n caniatáu i bleidiau gwleidyddol anfon negeseuon hanfodol at bleidleiswyr ac yn eu helpu i ddeall y materion sy’n holl-bwysig i wahanol bobl.

Rydyn ni’n gwybod ei bod yn bwysig bod pobl yn gallu ymddiried yn sut mae eu gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn ystod etholiadau. Dyna pam rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda rheoleiddwyr eraill, a gyda'r sefydliadau a'r unigolion a fydd yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn ystod yr ymgyrch etholiadol sydd i ddod, i sicrhau bod pawb yn deall eu cyfrifoldebau cyfreithiol.

Mae John Edwards, y Comisiynydd Gwybodaeth, hefyd wedi ysgrifennu at y pleidiau gwleidyddol i'w hatgoffa am eu dyletswyddau diogelu data.

Isod rydyn ni wedi nodi atebion i rai o'r cwestiynau cyffredin a all fod gan bobl am eu data ac etholiadau.

Beth ddylwn i ei ddisgwyl?

Disgwyliwch wybodaeth glir am breifatrwydd

Fe ddylai fod yn glir ichi o'r cychwyn cyntaf sut mae plaid wleidyddol yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol ac fe ddylai'r wybodaeth fod yn hawdd ei deall.

Er enghraifft, os bydd plaid wleidyddol yn anfon ffurflen atoch fel y gallwch gofrestru ar gyfer pleidlais drwy’r post yna fe ddylai fod yn glir sut y bydd y blaid wleidyddol yn defnyddio’ch gwybodaeth. Ddylech chi ddim cael eich synnu bod y data hwnnw'n cael ei ddefnyddio fel rhan o ymgyrch etholiadol. Darllenwch ragor am eich hawl i gael eich hysbysu

Disgwyliwch gael gwybod a yw plaid wleidyddol yn defnyddio technegau proffilio

Mae gan bleidiau gwleidyddol hawl i gael copi o'r gofrestr etholiadol lawn, ac mae hon yn cynnwys gwybodaeth fel eich enw, eich cyfeiriad a’ch cenedligrwydd. Mae pleidiau gwleidyddol yn adeiladu ar yr wybodaeth yma gyda chyfweliadau uniongyrchol ag aelodau o'r cyhoedd, data sydd ar gael yn gyhoeddus fel data’r cyfrifiad, a thrwy brynu data gan gwmnïau brocera data.

Os yw plaid wleidyddol yn cyfuno gwybodaeth amdanoch chi o sawl ffynhonnell wahanol, yr enw ar hyn yw proffilio. Mae pleidiau gwleidyddol yn defnyddio'r dechneg yma i ddysgu mwy am bleidleiswyr ac i anfon deunydd marchnata sydd wedi'i dargedu.

Os yw plaid wleidyddol yn defnyddio technegau proffilio, dylai hyn fod yn glir ichi a dylech chi gael cyfle i wrthwynebu.

Disgwyliwch wybodaeth glir am hysbysebion yn y cyfryngau cymdeithasol

Mae hysbysebion yn y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio gan bob plaid i hybu eu gwaith, ond mae'n bwysig ei bod yn glir i bobl a ydyn nhw’n cael eu targedu. Dylai pleidiau gwleidyddol ei gwneud yn glir y bydd gwybodaeth bersonol pobl yn cael ei defnyddio i anfon hysbysebion penodol yn y cyfryngau cymdeithasol atyn nhw.

Disgwyliwch gael gwybod sut y bydd gwybodaeth o ddeiseb neu arolwg yn cael ei defnyddio

Os bydd plaid wleidyddol yn gofyn ichi lenwi arolwg neu ddeiseb, fe ddylen nhw fod yn glir sut y bydd y data hwnnw'n cael ei ddefnyddio. Mewn llawer o achosion, fydd hi ddim yn briodol i blaid neu ymgeisydd sydd wedi casglu gwybodaeth ar gyfer deiseb neu arolwg penodol ail-bwrpasu'r wybodaeth honno ar gyfer ymgyrchu gwleidyddol.

Os ydych chi'n poeni am sut mae’ch gwybodaeth yn cael ei defnyddio, gallwch arfer eich hawl i wrthwynebu..

Sut mae gwybodaeth am y pleidleiswyr ieuengaf yn cael ei diogelu?

Yn etholiadau Senedd Cymru a Senedd yr Alban yr oedran pleidleisio yw un ar bymtheg oed ar ddyddiad yr etholiad. Mae’n rhaid i’r fersiynau o'r gofrestr etholiadol a ddarperir i bleidiau ac ymgeiswyr beidio â chynnwys dyddiadau geni, nac unrhyw wybodaeth arall a fyddai'n adnabod pleidleisiwr o dan un ar bymtheg oed.

Mae canllawiau manylach i Swyddogion Cofrestru Etholiadol wedi’u darparu gan y Comisiwn Etholiadol ar eu gwefan.

A fydd angen imi ddangos ID i bleidleisio?

Yn Lloegr, bydd angen i bleidleiswyr ddangos math o ID â ffotograff. Dim ond i staff yr orsaf bleidleisio y bydd angen ichi ddangos eich ID, a gallwch ofyn iddo gael ei wirio'n breifat. Mae hyn ar waith ers yr Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf 2024. Os nad oes gennych chi ID derbyniol â ffotograff, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim. I gael rhagor o wybodaeth gallwch edrych ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Does dim gofynion adnabod ar gyfer pleidleiswyr yn etholiadau Senedd Cymru na Senedd yr Alban.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n poeni am sut mae fy nata i’n cael ei ddefnyddio?

Mae gennych chi hawl i fod yn hyderus bod pleidiau gwleidyddol yn trin eich gwybodaeth bersonol yn gyfrifol ac yn unol ag arferion da. Os ydych chi'n anfodlon ar sut mae’ch data’n cael ei ddefnyddio, mae gennyn ni ganllawiau i'ch helpu i godi pryder.

Beth sy'n digwydd i unrhyw waith achos etholaeth agored sydd gen i gyda fy nghynrychiolydd etholedig presennol?

Cyn etholiad, efallai y bydd eich cynrychiolydd etholedig yn cysylltu â chi i ofyn beth hoffech ei weld yn digwydd i unrhyw waith achos sydd ar ei hanner os na chân nhw eu hailethol. Y dewis diofyn yw y bydd eich gwybodaeth bersonol a'ch cofnodion gwaith achos yn cael eu dinistrio'n ddiogel. Ond, mae’n bosibl y cewch chi’r opsiwn o basio’ch achos i'r cynrychiolydd sy'n dod i mewn neu i gael eich gwybodaeth wedi’i dychwelyd ichi.

Beth galla i ei ddisgwyl gan yr ICO?

Disgwyliwch adnoddau i'ch cadw chi’n wybodus. Rydyn ni wedi creu adnoddau i bleidleiswyr ddysgu rhagor am eu hawliau gwybodaeth yn ystod yr ymgyrch etholiadol..

Disgwyliwch inni gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyn yr etholiad

Fel llawer o sefydliadau cyhoeddus eraill, mae gennyn ni rwymedigaethau cyn yr etholiad ac efallai y byddwn ni’n gohirio rhai cyhoeddiadau tan ar ôl diwrnod y bleidlais, a hynny er mwyn sicrhau ein bod yn gwbl ddiduedd ac nad ydyn ni’n tynnu sylw oddi wrth yr ymgyrch ehangach nac yn cael unrhyw ddylanwad arno.

Byddwn yn parhau i gyflawni’n swyddogaeth reoleiddio ym mhob ffordd arall. Gallwch gysylltu â ni fel arfer o hyd. Os oes gennych chi gŵyn yn ystod y cyfnod yma, gallwch ei chyflwyno inni o hyd.

Mae gennych chi hawl i fod yn hyderus bod pleidiau gwleidyddol yn trin eich gwybodaeth bersonol yn gyfrifol ac yn unol ag arferion da. Os ydych chi'n anfodlon ar sut mae’ch data’n cael ei ddefnyddio, mae gennyn ni ganllawiau i'ch helpu i godi pryder.