ICO consultation on draft complaints guidance for organisations
- Dyddiad cychwyn 21 Awst 2025
- Dyddiad cau 19 Hydref 2025
- Math Rhanddeiliaid
- Statws Agor
Rhagymadrodd
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn ymgynghori ar ganllawiau drafft i sefydliadau sy'n delio â chwynion diogelu data..
Mae'r Ddeddf Data (Defnyddio a Mynediad) yn mewnosod Adran 164A yn Neddf Diogelu Data 2018 sy'n golygu bod rhaid i sefydliadau:
- rhoi ffordd i bobl wneud cwynion ichi ynghylch diogelu data;
- cydnabod bod cwynion wedi dod i law o fewn 30 diwrnod ar ôl iddyn nhw ddod i law;
- heb oedi amhriodol, cymryd camau priodol i ymateb i gwynion, gan gynnwys gwneud ymholiadau priodol, a rhoi gwybodaeth i bobl yn gyson; a
- heb oedi amhriodol, dweud wrth bobl beth yw canlyniad eu cwyn.
Nod y canllawiau yw tywys sefydliadau trwy'r gofynion newydd a'u hysbysu am yr hyn mae'n rhaid i sefydliadau ei wneud, yr hyn y dylen nhw ei wneud a’r hyn maen nhw’n cael ei wneud er mwyn cydymffurfio. Mae’r canllawiau'n cynnwys awgrymiadau defnyddiol a chyngor ymarferol ar gyfer pob cam yn y broses.
Bydd eich ymatebion yn ein helpu i sefydlu a allwn ni roi eglurder ychwanegol yn y canllawiau cyn i'r fersiwn terfynol gael ei gyhoeddi.Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad trwy ein harolwg ar Citizen Space..
Rydym yn croesawu’ch adborth i'r cwestiynau a nodir yn yr arolwg yma. Maen nhw wedi'u rhannu o dan yr adrannau canlynol:
- Adran 1: Amdanoch chi a'ch sefydliad.
- Adran 2: Eich barn ar ein canllawiau.
- Adran 3: Sut y bydd ein canllawiau yn effeithio arnoch chi/ar eich sefydliad.
- Adran 4: Unrhyw sylwadau ychwanegol am y canllawiau.
Bydd yr ymgynghoriad yn aros yn agored tan 23:59 ar dydd Sul 19 Hydref 2025. Efallai na fyddwn yn ystyried ymatebion sy’n dod i law ar ôl y dyddiad cau yma.
Datganiad preifatrwydd
Ar gyfer yr ymgynghoriad ma, gallwn gyhoeddi'r ymatebion sy’n dod i law oddi wrth sefydliadau yn llawn neu grynodeb o'r ymatebion. Os byddwn ni’n cyhoeddi unrhyw ymatebion, byddwn yn tynnu unrhyw wybodaeth bersonol, cyfeiriadau ebost a rhifau ffôn o'r ymatebion ma. Peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth yn eich ymateb na fyddech chi’n fodlon inni drefnu ei bod ar gael i'r cyhoedd.
Os cawn ni gais Rhyddid Gwybodaeth am eich ymateb, byddwn bob amser yn ceisio ymgynghori â chi am eich barn ar ddatgelu'r wybodaeth yma cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydyn ni’n ei wneud gyda gwybodaeth bersonol, gweler ein polisi preifatrwydda'r adran ar ymateb i'n hymgyngoriadau a'n harolygon..
Sylwch ein bod yn defnyddio platfform Citizen Space i gasglu'r wybodaeth yma ar ein rhan. Darperir Citizen Space gan Delib. Gallwch ddarllen polisi preifatrwydd Delib yma.