Yn cymryd tua 5 munud
Rhoi gwybod am negeseuon testun sbam a galwadau gwerthu niwsans
Gallwch roi gwybod i’r ICO am alwadau niwsans a negeseuon testun sbam yma.
Rhowch wybod inni am negeseuon testun sbam neu alwadau digymell – gan lais wedi’i recordio neu berson go iawn – i’n helpu i stopio negeseuon marchnata niwsans.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i'n helpu i ymchwilio a chymryd camau yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol. Nid ydym yn ymateb i gwynion yn unigol.
Does dim rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau sydd ar fin cael eu gofyn, ond rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch. Mwyaf i gyd o dystiolaeth y gallwn ei chasglu, mwyaf i gyd o rym sydd gennym i gymryd camau yn erbyn y rhai sy’n gwneud galwadau niwsans neu’n anfon negeseuon testun sbam.
I gael gwybodaeth am yr hyn rydyn ni’n ei wneud â data personol, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Os oes gennych nam ac efallai y bydd angen addasiad gwasanaeth arnoch, rhowch wybod i ni.