Neidio i’r prif gynnwys

Diolch

Gwych, rydyn ni wedi cael eich gwybodaeth – diolch am gymryd yr amser i'w hanfon aton ni.

Mae pob adroddiad rydyn ni’n ei gael yn ein helpu i gymryd camau yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol am negeseuon ebost sbam. Os cewch chi ragor o negeseuon ebost sbam, dewch yn ôl a rhowch wybod inni amdanyn nhw.

Beth rydyn ni’n ei wneud â’r wybodaeth?

Rydyn ni’n defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei hanfon atom i'n helpu i adnabod sefydliadau sy'n peri pryder ichi, ymchwilio iddyn nhw a chymryd camau yn eu herbyn. I wneud hyn, rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â rheoleiddwyr eraill. Dydyn ni ddim yn ymateb i bryderon yn unigol.

Pa gamau sydd wedi’u cymryd gan yr ICO eisoes?

Gallwch ddarllen am y camau rydyn ni wedi’u cymryd yn erbyn cwmnïau sydd wedi torri’r gyfraith ynglŷn â negeseuon e-bost sbam, a chyfreithiau eraill ar hawliau gwybodaeth.

Beth arall alla i ei wneud?

I ganfod sut i atal negeseuon ebost sbam, a beth arall y gallwch ei wneud, darllenwch ein canllawiau ar negeseuon ebost sbam a diogelwch ar-lein.

Dywedwch wrthym am eich profiad

Rydyn ni'n gobeithio gwella'r broses gwyno. Cymerwch bum munud i gwblhau’n harolwg i roi gwybod inni am eich profiad chi: arolwg ffurflen gwyno(yn agor mewn ffenestr newydd).