Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Gwiriwch a yw eich cwyn yn gymwys i ddod i’r ICO neu i weld a oes mwy o gamau y mae angen ichi eu cymryd cyn y gallwch gwyno i ni. Er enghraifft, efallai y bydd angen ichi fod wedi gofyn am adolygiad mewnol cyn y gallwch wneud cwyn.

Os gallwch chi gwyno i ni, bydd arnoch chi angen yr wybodaeth a ganlyn:

  • copïau o unrhyw lythyrau neu negeseuon ebost am eich cwyn, rhyngoch chi a'r sefydliad; a
  • copi o'ch cais am adolygiad mewnol (lle bo'n briodol);
  • llythyr o gydsyniad gan yr unigolyn rydych chi’n cwyno ar ei ran, os ydych chi’n cwyno ar ran rhywun arall; neu
  • tystiolaeth arall o'ch pryder.

Os na fyddwch yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, mae'n bosibl na fyddwn yn derbyn eich cwyn.

Dylech hefyd ddarllen am beth i'w ddisgwyl gan yr ICO pan fyddwch chi'n gwneud cwyn . Mae hyn yn dweud pa mor hir y mae’n proses gwyno’n para gan roi enghreifftiau o ganlyniadau tebygol.

Bydd hyn yn cymryd 5 munud

Dechrau nawr