Neidio i’r prif gynnwys

Gwnewch cwyn ynghylch sut mae sefydliad wedi defnyddio eich gwybodaeth personol

Rhoi gwybod am eich pryder

Llenwch y ffurflen

Ffurflen pryderon canlyniadau chwiliad rhyngrwyd - Cymraeg (pdf)

2. Anfonwch y ffurflen aton ni

Trwy’r ebost: Os yw'ch holl dystiolaeth ategol ar gael yn electronig, gallwch anfon eich ffurflen drwy’r ebost.

1. Cadwch y ffurflen yma ar eich cyfrifiadur.
2. Llenwch y ffurflen a'i chadw eto. Gall ffurflenni gyrraedd yn wag os nad ydyn nhw wedi cael eu cadw ar eich cyfrifiadur cyn ichi eu hanfon nhw aton ni.
3. Agorwch neges ebost newydd, gyda 'Rhoi gwybod am bryder' yn y llinell bwnc.
4. Atodwch y ffurflen yma ac unrhyw ddogfennau eraill yr hoffech eu hanfon aton ni. Gofalwch nad yw'ch atodiadau ebost yn fwy na 10 MB gyda’i gilydd mewn un neges ebost. Gallwch anfon atodiadau dros sawl ebost, ond nodwch hyn yn y llinell bwnc.
5. Anfon i [email protected]

Rydym yn defnyddio Diogelwch Haenau Trawsyrru (TLS) i amgryptio a diogelu traffig e-bost. Os nad yw’ch gweinydd post chi yn cynnal TLS, dylech fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl na fydd unrhyw negeseuon ebost y byddwch yn eu hanfon atom yn cael eu diogelu wrth eu trawsyrru.

Drwy'r post: Os yw'ch tystiolaeth ategol ar ffurf copi caled, gallwch argraffu'r ffurflen a'i phostio (gyda'ch tystiolaeth ategol) i:

Cyswllt cwsmer
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF

I gael gwybodaeth am yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud â data personolpolisi preifatrwydd.

I gael gwybodaeth am yr hyn y byddwn ni’n ei ystyried wrth adolygu pryderon, ewch i'n tudalen ni arcanlyniadau chwilio'r rhyngrwyd.