Gwnewch cwyn ynghylch sut mae sefydliad wedi defnyddio eich gwybodaeth personol
-
1. Beth yw pwnc eich cwyn chi?
Sut mae sefydliad yn defnyddio gwybodaeth bersonol
-
2. Is your concern about how an organisation has used yours, or another living person's data?
Ydy - fy nata i
-
3. Ydych chi wedi cwyno i'r sefydliad yn uniongyrchol?
Nac ydw
Gwneud cwyn i'r ICO
Dylech chi roi cyfle i'r sefydliad rydych chi'n anfodlon arno ddatrys pethau cyn cwyno i ninnau.
Gall llawer o gwynion diogelu data gael eu datrys yn gyflym ac yn hawdd yn uniongyrchol gyda'r sefydliad.
Rydym yn argymell y dylech chi ysgrifennu at y sefydliad, neu anfon neges ebost ato cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio'r templed isod
[Eich enw llawn]
[Rhif ffôn]
[Y dyddiad]
[Enw a chyfeiriad y sefydliad]
[Rhif cyfeirnod (os cafodd un ei roi yn yr ymateb cychwynnol)]
Annwyl [Syr neu Madam/enw’r person rydych wedi bod mewn cysylltiad ag ef]
Pryder ynglŷn a hawliau gwybodaeth
[Eich enw a’ch cyfeiriad llawn ac unrhyw fanylion eraill, fel rhif cyfrif, i helpu i ddangos pwy ydych chi]
Rwy'n pryderu nad ydych chi wedi trin gwybodaeth bersonol yn iawn.
[Rhowch fanylion eich pryder, gan esbonio’n glir a syml beth sydd wedi digwydd a, lle bo’n briodol, yr effaith a gafodd hynny arnoch chi.]
Cyn imi roi gwybod am fy mhryder i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) rwy’n deall y dylwn i roi cyfle i chi ddelio ag ef.
Ar ôl cael eich ymateb, os byddaf yn dal yn dymuno rhoi gwybod i’r ICO am fy mhryder, fe roddaf gopi o’ch ymateb iddyn nhw i gael ei ystyried.
Gallwch weld canllawiau ar eich rhwymedigaethau o dan y ddeddfwriaeth ar hawliau gwybodaeth ar wefan yr ICO (www.ico.org.uk) yn ogystal â gwybodaeth am eu pwerau rheoleiddio nhw a’r camau y gallant eu cymryd.
Byddwch cystal ag anfon ymateb llawn o fewn un mis calendr. Os na allwch ymateb o fewn yr amserlen honno, rhowch wybod imi pa bryd y byddwch yn gallu ymateb.
Os oes unrhyw beth yr hoffech ei drafod, cysylltwch â mi ar y rhif canlynol [Rhif ffôn].
Yn gywir
[Llofnod]