Neidio i’r prif gynnwys

Gwnewch cwyn ynghylch sut mae sefydliad wedi defnyddio eich gwybodaeth personol

Gofyn am eglurder gan y sefydliad

Ran amlaf, dylai sefydliadau esbonio'n glir pam maen nhw’n defnyddio data yn y ffordd maen nhw'n gwneud.

Os yw'r sefydliad yn ymateb i'ch cwyn mewn ffordd nad ydych yn ei deall, dylech ofyn am eglurhad.

Gallwch ddefnyddio'r templed isod i ebostio neu ysgrifennu at y sefydliad i helpu i ofyn am eglurder.

Dylai sefydliadau ymateb ichi o fewn mis.

Rydyn ni’n disgwyl i unigolion ofyn am ymateb llawn a therfynol gan sefydliad cyn cwyno i ni. Os nad ydych wedi gofyn am eglurder cyn cyflwyno cwyn, efallai y byddwn yn gofyn ichi wneud hynny a bydd hyn yn gohirio cynnydd eich cwyn.

[Eich cyfeiriad llawn]
[Eich rhif ffon]
[Y dyddiad]

[Enw a chyfeiriad y sefydliad]
[Rhif cyfeirnod (os cafodd un ei roi yn yr ymateb cychwynnol)]

Annwyl [Syr neu Madam/enw’r person rydych wedi bod mewn cysylltiad ag ef]

Cwyn hawliau gwybodaeth.

[Eich enw a'ch cyfeiriad llawn ac unrhyw fanylion eraill i helpu i'ch adnabod, er enghraifft rhif cyfrif.]

Rwy'n ysgrifennu yn ychwanegol at eich llythyr/neges ebost chi yn ddiweddar ynghylch fy nghwyn hawliau gwybodaeth gan yr hoffwn i gael rhagor o eglurhad.

Mae rhwymedigaeth gyda sefydliadau i roi egluriad clir o pam ydyn nhw'n defnyddio data yn y ffordd maen nhw yn, neu pam ydyn nhw wedi gwrthod cais. Gosodwch hyn allan o ddan yr egwyddor atebolrwydd GDPR'r DU.

Atebolrwydd yw un o'r egwyddorion allweddol yn y gyfraith diogelu data – mae'n peri bod sefydliadau’n gyfrifol am gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ac yn dweud bod rhaid iddyn nhw allu dangos eu bod yn cydymffurfio.

Hoffwn gael rhagor o eglurhad am

[Rhowch fanylion yr hyn nad ydych yn ei ddeall. Dylech gyfeirio'n benodol at yr ymateb rydych chi wedi’i gael yn barod lle bo'n briodol

Cyn imi roi gwybod am fy nghwyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth, dwi’n deall y dylwn i roi cyfle ichi roi esboniad llawn.

Ar ôl imi gael eich ymateb, os byddwn i’n dal yn hoffi rhoi gwybod am fy nghwyn, byddaf yn rhoi copi iddyn nhw o'ch ymateb chi i'w ystyried.

Gallwch weld canllawiau ar eich rhwymedigaethau o dan y ddeddfwriaeth ar hawliau gwybodaeth ar wefan yr ICO (www.ico.org.uk) yn ogystal â gwybodaeth am eu pwerau rheoleiddio nhw a’r camau y gallant eu cymryd.

Byddwch cystal ag anfon ymateb llawn o fewn un mis calendr. Os na allwch ymateb o fewn yr amserlen honno, rhowch wybod imi pa bryd y byddwch yn gallu ymateb.

Os oes unrhyw beth yr hoffech ei drafod, cysylltwch â mi ar y rhif canlynol [Rhif ffôn].

Yn gywir
[llofnod]