Gwnewch cwyn ynghylch sut mae sefydliad wedi defnyddio eich gwybodaeth personol
-
1. Beth yw pwnc eich cwyn chi?
Cael mynediad at wybodaeth bersonol gan sefydliad.
-
2. Ydy'r wybodaeth yr hoffech ei gweld yn ymwneud â chi neu berson byw arall?
Yes - it's about me or another living person
-
3. Beth yw manylion eich cwyn?
Cafodd yr holl wybodaeth y gofynnais amdani ei anfon ata i ond cymerodd y sefydliad rhy hir
-
4. Ydych chi wedi cwyno i'r sefydliad yn uniongyrchol?
Nac ydw
Gwneud cwyn i'r ICO
Dylech chi roi cyfle i'r sefydliad rydych chi'n anfodlon arno esbonio pam mae eu hymateb i'ch cais yn hwyr.
You can use the template below to email or write to the organisation to complain. Organisations should respond to you within a month.
Sylwch: Fel arfer mae gan sefydliadau 30 diwrnod calendri brosesu’ch cais, gan ddechrau o'r diwrnod y cawson nhw’r cais. Os oes ar y sefydliad angen rhywbeth oddi wrthoch chi er mwyn gallu delio â'ch cais (e.e. dogfennau adnabod), bydd y terfyn amser yn dechrau eto unwaith y byddan nhw wedi’i gael.
Os yw’ch cais yn gymhleth neu os ydych chi’n gwneud mwy nag un cais, efallai y bydd sefydliadau'n cael cymryd hyd at dri mis calendr, gan ddechrau o'r diwrnod y daethon nhw i law.
[Eich enw llawn]
[Rhif ffôn]
[Y dyddiad]
[Enw a chyfeiriad y sefydliad]
[Rhif cyfeirnod (os cafodd un ei roi yn yr ymateb cychwynnol)]
Annwyl [Syr neu Madam/enw’r person rydych wedi bod mewn cysylltiad ag ef]
Pryder ynglŷn a hawliau gwybodaeth
[Eich enw a’ch cyfeiriad llawn ac unrhyw fanylion eraill, fel rhif cyfrif, i helpu i ddangos pwy ydych chi]
Rwy’n pryderu nad ydych wedi ymdrin â’m gwybodaeth bersonol i yn gywir.
[Rhowch fanylion eich pryder, gan esbonio’n glir a syml beth sydd wedi digwydd a, lle bo’n briodol, yr effaith a gafodd hynny arnoch chi.]
Cyn imi roi gwybod am fy mhryder i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) rwy’n deall y dylwn i roi cyfle i chi ddelio ag ef.
Ar ôl cael eich ymateb, os byddaf yn dal yn dymuno rhoi gwybod i’r ICO am fy mhryder, fe roddaf gopi o’ch ymateb iddyn nhw i gael ei ystyried.
Gallwch weld canllawiau ar eich rhwymedigaethau o dan y ddeddfwriaeth ar hawliau gwybodaeth ar wefan yr ICO (www.ico.org.uk) yn ogystal â gwybodaeth am eu pwerau rheoleiddio nhw a’r camau y gallant eu cymryd.
Byddwch cystal ag anfon ymateb llawn o fewn un mis calendr. Os na allwch ymateb o fewn yr amserlen honno, rhowch wybod imi pa bryd y byddwch yn gallu ymateb.
Os oes unrhyw beth yr hoffech ei drafod, cysylltwch â mi ar y rhif canlynol [Rhif ffôn].
Yn gywir
[Llofnod]