Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Os ydych chi am wneud cwyn am ein gwasanaeth, yna fe ddylech chi wneud hynny o fewn tri mis. Gall aros yn hirach na hynny effeithio ar ein gallu i ymchwilio i'ch cwyn. Mewn rhai achosion, bydd oedi hir yn golygu na fyddwn yn ystyried y mater o gwbl.

Byddwn yn cydnabod cwyn am wasanaeth o fewn 14 diwrnod calendr a gan amlaf byddwn yn ceisio ymateb yn llawn o fewn 30 diwrnod calendr.

Pan fo'r gŵyn yn gymhleth, yn aneglur a/neu pan fo nifer o faterion wedi'u codi, efallai y byddwn yn gofyn i'r achwynydd gytuno ar rychwant y gŵyn. Ar ôl cael datganiad y cytunwyd arno ynglŷn â’r gŵyn, byddwn yn ymateb i gŵyn am wasanaeth o fewn 30 diwrnod calendr. Gall cwynion cymhleth gymryd mwy o amser i ymchwilio iddynt.

Os na allwn roi ymateb o fewn 30 diwrnod calendr, byddwn yn rhoi diweddariadau cyson a dyddiad targed ar gyfer rhoi'r ymateb. Oni bai bod rhesymau dilys dros ymestyn cyfnod yr ymchwiliad ar gyfer achosion cymhleth, fe ddylai ymateb ar gyfer achosion cymhleth gael ei roi o fewn chwe wythnos.

Cwynion am ein penderfyniadau

Os yw'ch cwyn yn ymwneud â phenderfyniad rheoleiddio y mae'r ICO wedi'i wneud, mae sianeli deddfwriaethol neu ffurfiol penodol y mae'n rhaid ichi eu dilyn.

Diogelu data

Os ydych yn anghytuno â'r canlyniad a gafwyd yn dilyn cwyn ynglŷn â diogelu data, dylech gysylltu â ni o fewn tri mis er mwyn cael eich ystyried o dan ein proses adolygu achosion. Gall aros yn hirach na hynny effeithio ar ein gallu i ymchwilio i'ch cwyn. Mewn rhai achosion, bydd oedi hir yn golygu na fyddwn yn ystyried y mater o gwbl.

Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 14 diwrnod calendr a gan amlaf byddwn yn ceisio ymateb yn llawn o fewn 30 diwrnod calendr.

Pan fo'r gŵyn yn gymhleth, yn aneglur a/neu pan fo nifer o faterion wedi'u codi, efallai y byddwn yn gofyn ichi gytuno ar rychwant y gŵyn. Ar ôl cael datganiad y cytunwyd arno ynglŷn â’r gŵyn, byddwn yn ymateb i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod calendr. Gall cwynion cymhleth gymryd mwy o amser i ymchwilio iddynt.

Os na allwn roi ymateb o fewn 30 diwrnod calendr, byddwn yn rhoi diweddariadau cyson a dyddiad targed ar gyfer rhoi'r ymateb. Oni bai bod rhesymau dilys dros ymestyn cyfnod yr ymchwiliad ar gyfer achosion cymhleth, fe ddylai ymateb ar gyfer achosion cymhleth gael ei roi o fewn chwe wythnos.

I gael gwybodaeth am yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud â data personol polisi preifatrwydd.

Mae hefyd ar gael yn y Gymraeg (pdf)

  • Trwy ebost: Os yw’ch tystiolaeth ategol i gyd ar gael yn electronig, gallwch anfon eich ffurflen drwy e-bost drwy gymryd y camau a ganlyn. Rydym yn defnyddio Diogelwch Haenau Cludiant (TLS) i amgryptio a diogelu traffig e-bost. Os nad yw’ch gweinydd post chi’n cefnogi TLS, dylech fod yn ymwybodol efallai na fydd unrhyw negeseuon e-bost a anfonwch atom yn cael eu diogelu wrth gael eu trosglwyddo.
  • Trwy'r post: Os copi caled yw’ch tystiolaeth ategol, gallwch argraffu'r ffurflen a'i phostio aton ni gyda'ch tystiolaeth ategol.

Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Os ydych yn anghytuno a hysbysiad penderfynu yr ydyn ni wedi’i roi ynghylch eich cwyn ynglŷn â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, nid yw’r gyfraith yn caniatáu inni adolygu’n penderfyniad. Yn hytrach, rydych yn cael apelio i Dribiwnlys yr haen Gyntaf (Hawliau Gwybodaeth).

First-tier Tribunal (Information Rights)
GRC & GRP Tribunals,
PO Box 9300,
Leicester,
LE1 8DJ
Ffôn: 0300 1234505
Ffacs: 0116 249 4253

Ebost: [email protected]

Oni bai bod amgylchiadau arbennig yn gymwys, rhaid i hysbysiad ynglŷn ag apêl gael ei gyflwyno i’r Tribiwnlys o fewn 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd yr hysbysiad penderfynu ei gyflwyno neu ei roi ichi.

Sylwch nad yw’r Tribiwnlys yn ystyried cwynion am benderfyniadau a wnaethom o dan y Ddeddf Diogelu Data na’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig.

Ceisiadau i’r SCG o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Os gwnaethoch gais i'r ICO o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am wybodaeth y gallwn ei chadw, a hoffech i ni adolygu ein hymateb, gweler ein polisi adolygu mewnol.

Mynd â’ch cwyn ymhellach

Ar ôl dihysbyddu’n gweithdrefn gwyno am wasanaeth, os ydych yn dal yn anfodlon ar unrhyw agwedd ar unrhyw wasanaeth a gawsoch gennym neu'n credu ein bod ni heb weithredu'n iawn neu'n deg, gallwch fynd â'r mater i Ombwdsmon y Senedd a'r Gwasanaeth Iechyd.

Rhaid i gwynion i'r Ombwdsmon gael eu gwneud drwy eich Aelod Seneddol. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth yr Ombwdsmon, ewch i'w gwefan (www.ombudsman.org) neu ffoniwch eu llinell gymorth at 0345 015 4033.

Os yw’ch cwyn yn ymwneud â'r ffordd rydyn ni wedi dehongli'r gyfraith, all yr Ombwdsmon mo’ch helpu. Os hoffech chi herio’n dehongliad o'r gyfraith, dylech ystyried gofyn am gyngor cyfreithiol.

Os oes gennych nam ac efallai y bydd angen addasiad gwasanaeth arnoch, rhowch wybod i ni.