Cwynwch amdanon ni
Diweddaraf
24 Mai 2024- Rydyn ni wedi diweddaru ein cyfeiriad ac y datganiad o fewn y ffurflen 'Cwyno i'r ICO'
Os ydych chi am wneud cwyn am ein gwasanaeth, yna fe ddylech chi wneud hynny o fewn tri mis. Gall aros yn hirach na hynny effeithio ar ein gallu i ymchwilio i'ch cwyn. Mewn rhai achosion, bydd oedi hir yn golygu na fyddwn yn ystyried y mater o gwbl.
Byddwn yn cydnabod cwyn am wasanaeth o fewn 14 diwrnod calendr a gan amlaf byddwn yn ceisio ymateb yn llawn o fewn 30 diwrnod calendr.
Pan fo'r gwyn yn gymhleth, yn aneglur a/neu pan fo nifer o faterion wedi'u codi, efallai y byddwn ni'n gofyn i'r achwynydd gytuno ar rychwant y gwyn. Ar ôl cael datganiad cytûn ar y gwyn, byddwn ni'n ymateb i'r gwyn am y gwasanaeth o fewn 30 diwrnod calendr. Gall cwynion cymhleth gymryd mwy o amser i ymchwilio iddyn nhw.
Os na allwn ni roi ymateb o fewn 30 diwrnod calendr, byddwn ni'n rhoi diweddariadau cyson a dyddiad targed pryd rydyn ni'n anelu at roi'r ymateb. Oni bai bod rhesymau dilys dros ymestyn y cyfnod ymchwilio ar gyfer achosion cymhleth, dylai ymateb gael ei roi ar gyfer achosion cymhleth o fewn chwe wythnos.
Cwynion am ein penderfyniadau
Os yw'ch cwyn yn ymwneud â phenderfyniad rheoleiddio y mae'r ICO wedi'i wneud, mae sianeli deddfwriaethol neu ffurfiol penodol y mae'n rhaid ichi eu dilyn.
Diogelu data
Os ydych yn anghytuno â'r canlyniad a gafwyd yn dilyn cwyn ynglŷn â diogelu data, dylech gysylltu â ni o fewn tri mis er mwyn cael eich ystyried o dan ein proses adolygu achosion. Gall aros yn hirach na hynny effeithio ar ein gallu i ymchwilio i'ch cwyn. Mewn rhai achosion, bydd oedi hir yn golygu na fyddwn yn ystyried y mater o gwbl.
Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 14 diwrnod calendr a gan amlaf byddwn yn ceisio ymateb yn llawn o fewn 30 diwrnod calendr.
Pan fo'r gŵyn yn gymhleth, yn aneglur a/neu pan fo nifer o faterion wedi'u codi, efallai y byddwn yn gofyn ichi gytuno ar rychwant y gŵyn. Ar ôl cael datganiad y cytunwyd arno ynglŷn â’r gŵyn, byddwn yn ymateb i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod calendr. Gall cwynion cymhleth gymryd mwy o amser i ymchwilio iddynt.
Os na allwn roi ymateb o fewn 30 diwrnod calendr, byddwn yn rhoi diweddariadau cyson a dyddiad targed ar gyfer rhoi'r ymateb. Oni bai bod rhesymau dilys dros ymestyn cyfnod yr ymchwiliad ar gyfer achosion cymhleth, fe ddylai ymateb ar gyfer achosion cymhleth gael ei roi o fewn chwe wythnos.
I gael gwybodaeth am yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud â data personol polisi preifatrwydd.
Mae hefyd ar gael yn yWelsh language / Cymraeg (pdf)
- Trwy ebost:Os yw’ch tystiolaeth ategol i gyd ar gael yn electronig, gallwch anfon eich ffurflen drwy e-bost drwy gymryd y camau a ganlyn. Rydym yn defnyddio Diogelwch Haenau Cludiant (TLS) i amgryptio a diogelu traffig e-bost. Os nad yw’ch gweinydd post chi’n cefnogi TLS, dylech fod yn ymwybodol efallai na fydd unrhyw negeseuon e-bost a anfonwch atom yn cael eu diogelu wrth gael eu trosglwyddo.
1. Llenwch y ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.
2. Agorwch neges ebost newydd, â 'Cwyn i’r ICO' yn y llinell pwnc.
3. Atodwch y ffurflen yma ac unrhyw ddogfennau eraill yr hoffech eu hanfon aton ni. Gwnewch yn siŵr nad yw'ch atodiadau ebost cyfunol yn fwy na 10 MB mewn un neges ebost. Gallwch anfon atodiadau dros sawl neges ebost, ond nodwch hyn yn y llinell bwnc.
4. Danfon i [email protected] - Trwy'r post:Os copi caled yw’ch tystiolaeth ategol, gallwch argraffu'r ffurflen a'i phostio aton ni gyda'ch tystiolaeth ategol.
Anfon i:
Cyngor Cyhoeddus a Gwasanaeth Cwnyion Diogelu Data
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
Os ydych yn anghytuno a hysbysiad penderfynu yr ydyn ni wedi’i roi ynghylch eich cwyn ynglŷn â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, nid yw’r gyfraith yn caniatáu inni adolygu’n penderfyniad. Yn hytrach, rydych yn cael apelio i Dribiwnlys yr haen Gyntaf (Hawliau Gwybodaeth).
First-tier Tribunal (Information Rights)
GRC & GRP Tribunals,
PO Box 9300,
Leicester,
LE1 8DJ
Ffôn: 0300 1234505
Ffacs: 0116 249 4253
Ebost:[email protected]
Oni bai bod amgylchiadau arbennig yn gymwys, rhaid i hysbysiad ynglŷn ag apêl gael ei gyflwyno i’r Tribiwnlys o fewn 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd yr hysbysiad penderfynu ei gyflwyno neu ei roi ichi.
Sylwch nad yw’r Tribiwnlys yn ystyried cwynion am benderfyniadau a wnaethom o dan y Ddeddf Diogelu Data na’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig.
Ceisiadau i’r SCG o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
Os gwnaethoch gais i'r ICO o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am wybodaeth y gallwn ei chadw, a hoffech i ni adolygu ein hymateb, gweler ein polisi adolygu mewnol.
Mynd â’ch cwyn ymhellach
Ar ôl dihysbyddu’n gweithdrefn gwyno am wasanaeth, os ydych yn dal yn anfodlon ar unrhyw agwedd ar unrhyw wasanaeth a gawsoch gennym neu'n credu ein bod ni heb weithredu'n iawn neu'n deg, gallwch fynd â'r mater i Ombwdsmon y Senedd a'r Gwasanaeth Iechyd.
Rhaid i gwynion i'r Ombwdsmon gael eu gwneud drwy eich Aelod Seneddol. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth yr Ombwdsmon, ewch i'w gwefan (www.ombudsman.org) neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 0345 015 4033.
Os yw'ch cwyn yn ymwneud â'r ffordd rydyn ni wedi dehongli'r gyfraith, ni all yr Ombwdsmon eich helpu. Os ydych am herio'n penderfyniadau, gallech wneud cais i'r Uchel Lys am ganiatâd i gyflwyno hawliad am adolygiad barnwrol. Mae adolygiad barnwrol yn fath o achos llys lle mae barnwr yn adolygu cyfreithlondeb penderfyniad neu weithred gan gorff cyhoeddus ac mae'n ymwneud yn bennaf â'r cwestiwn a gafodd y sail gyfreithlon gywir ei defnyddio i wneud penderfyniad, ac nid a oedd y penderfyniad ei hun yn gywir. Gall y broses yma fod yn gymhleth ac yn ddrud, felly mae'n bwysig cael cyngor cyfreithiol gan weithiwr proffesiynol cymwysedig. O dan yRheolau Trefniadaeth Sifil, mae'n rhaid i geisiadau am adolygiad barnwrol gael eu cyflwyno'n brydlon a beth bynnag heb fod yn fwy na 3 mis ar ôl i'r seiliau dros wneud hawliad godi am y tro cyntaf.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddiProtocol ar gyfer Adolygiad Barnwrol cyn yr Achos(Cymru a Lloegr) sy'n nodi cod arferion da a'r camau y dylai pobl eu dilyn cyn gwneud hawliad am adolygiad barnwrol.
Er hynny, os ydych chi am herio'r weithdrefnau ar gyfer ymdrin â'ch cwyn trwy ofyn am orchymyn i fwrw ymlaen â'ch cwyn, cewch ffeilio cais o dan adran 166 o Ddeddf Diogelu Data 2018 gyda'r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) o fewn 28 diwrnod.