Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Am y sefydliad

Y sefydliad rydych chi'n gwneud eich cais iddo, e.e. ABC Cyf
Sydd i’w gael fel arfer yn hysbysiad preifatrwydd y sefydliad

Eich cais chi

Byddwch yn benodol iawn, e.e. 'Fy ffeil cyflogai’; neu 'Negeseuon ebost sy'n cynnwys fy enw i ac a gafodd eu hanfon rhwng 'person A' a 'person B'; neu 'Fy nghofnod meddygol i sy’n cael ei gadw gan 'Dr C' yn 'ysbyty D'. Mae hyn yn eich helpu i gael yr union wybodaeth y mae arnoch ei hangen
Rhowch ystod o ddyddiadau ar gyfer yr wybodaeth rydych chi’n gofyn amdani, e.e. 'O 1 Ebrill 2022 hyd at 31 Mawrth 2023'. Rhowch amserau os ydyn nhw’n berthnasol, e.e. 2-3pm ar gyfer lluniau CCTV, neu dywedwch pa bryd y dechreuodd yr alwad os ydych chi’n gofyn am drawsgrifiad o alwad ffôn
Does dim rhaid ichi gynnwys hyn, ond fe allai helpu'r sefydliad i ddod o hyd i'r wybodaeth y mae arnoch ei hangen mewn gwirionedd a gall eich helpu i gael ymateb gwell, cyflymach.
Manylion am ble y gallai'r sefydliad ddod o hyd i'r wybodaeth neu'r hyn sydd dan sylw ynddi, e.e. cais am gredyd, hawliad yswiriant, gweithdrefn feddygol
Ticiwch y blwch yma os ydych chi'n gwneud y cais yma ar ran rhywun arall e.e. plentyn, perthynas, ffrind, neu gleient.

Amdanoch chi

Er enghraifft, 10 3 1989. Mae’n cael ei ddefnyddio i helpu'r sefydliad i ddod o hyd i'r wybodaeth
Er mwyn i'r sefydliad ymateb ichi. Byddwn ninnau hefyd yn defnyddio'r cyfeiriad yma i anfon copi o'ch cais atoch.
Yn cael ei ddefnyddio i helpu’r sefydliad i ddod o hyd i’r wybodaeth
Rhag ofn bod angen i'r sefydliad eich ffonio i gael eglurhad ar y cais yma
Eich rhif cwsmer neu’ch rhif cyfeirnod arall gyda'r sefydliad, e.e. eich rhif cyfeirnod GIG. Bydd hyn yn eu helpu i'ch adnabod chi

Prawf adnabod a phrawf o gyfeiriad

Darparwch ffotograff neu gopi wedi'i sganio o'ch tystysgrif eni, eich trwydded yrru, neu'ch pasbort. Gall hyn helpu'r sefydliadau i gadarnhau mai chi yw pwy rydych chi'n ei ddweud.
Darparwch ffotograff, fersiwn ddigidol wreiddiol, neu gopi wedi'i sganio o gyfriflen banc, bil cyfleustodau, bil treth gyngor ney drwydded deledu.