Neidio i’r prif gynnwys

Hunanasesiad ffioedd diogelu data

14. Ydych chi'n prosesu gwybodaeth bersonol am unrhyw reswm heblaw'r rhai a restrir isod?

  • Gweinyddiaeth staff

Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau y mae angen ichi eu gwneud i reoli cyflogaeth eich staff neu'ch gwirfoddolwyr, megis rheoli cyflogres, recriwtio, neu berfformiad.

  • Cyfrifau a recordiau

Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau y mae angen ichi eu gwneud i gadw cyfrifon neu gofnodion ar gyfer eich sefydliad. Er enghraifft, prosesu anfonebau neu fanylion talu cwsmeriaid neu gyflenwyr blaenorol neu bresennol, a allai gynnwys eu henwau, eu cyfeiriadau a manylion eu cerdyn credyd.

Dydy hyn ddim yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi'i brosesu neu casglu gan asiantaethau cyfeirnod credyd.

  • Hysbysebu, marchnata neu cysylltiadau cyhoeddus

Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau i hybu'ch sefydliad eich hun, fel anfon negeseuon ebost marchnata neu gynnal gweithgareddau'r cyfryngau cymdeithasol. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys defnyddio enw, manylion cysylltu, neu wybodaeth adnabod arall i ddweud wrthyn nhw am eich nwyddau a'ch gwasanaethau.

Nid yw hyn yn cynnwys marchnata cynhyrchion a gwasanaethau trydydd partïon. Dim ond eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau chi'ch hun y cewch chi eu hysbysebu neu eu marchnata.