Neidio i’r prif gynnwys

Hunanasesiad ffioedd diogelu data

7. Ydy’ch sefydliad yn awdurdod cyhoeddus?

Mae awdurdod cyhoeddus yn sefydliad y mae ei swyddogaeth o natur gyhoeddus. Er enghraifft:

  • adrannau'r llywodraeth, cyrff deddfwriaethol a'r lluoedd arfog;
  • llywodraeth leol;
  • Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) gan gynnwys ymddiriedolaethau, byrddau iechyd lleol a grwpiau comisiynu clinigol;
  • ysgolion a gynhelir, ysgolion academi a sefydliadau addysg bellach ac uwch;
  • heddlu;
  • prif gynghorau;
  • cynghorau plwyf;
  • awdurdodau tân ac achub; a
  • gweithredwyr trafnidiaeth teithwyr.