Neidio i’r prif gynnwys

Newid neu ddiweddaru eich manylion

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddiweddaru'r manylion sydd gennym yn gyflym ynglŷn â'ch cofrestriad.

I gael gwybodaeth am yr hyn rydyn ni’n ei wneud â data personol, gweler einpolisi preifatrwydd.

Gallwch ddiweddaru neu ychwanegu eich:

  • cyfeiriad y sefydliad;
  • manylion cysylltu (enw, teitl swydd, cyfeiriad, ebost a rhif ffôn) y person sydd wedi'i ddewis i gael gohebiaeth ar ran y sefydliad;  
  • manylion y Swyddog Diogelu Data (gan gynnwys ychwanegu SDD);
  • enwau masnachu (enwau eraill y gall y sefydliad fod yn hysbys iddynt); a
  • haen talu.

Bydd angen:

  • eich cyfeirnod cofrestru, e.e. yn dechrau â Z, A neu C; a
  • eich rhif diogelwch. (Os mai chi yw'r cyswllt a enwebwyd ac na allwch ddod o hyd i'ch rhif diogelwch, gallwch ofyn am nodyn atgoffa isod.)

I newid eich:

  • Enw'r sefydliad, ffoniwch ein llinell gymorth ar 0303 123 1113 neu cysylltwch â ni drwy’r ebost*; neu
  • Manylion banc ar gyfer debyd uniongyrchol, cwblhewch a dychwelwchcyfarwyddiadau debyd uniongyrchol.

Tip: Os ydych chi'n diweddaru'ch enwau masnachu, bydd defnyddio'r gwasanaeth yma yn disodli unrhyw enwau masnachu presennol rydych chi wedi'u rhoi inni yn barod, felly rhowchholl enwau masnachu rydych chi am eu cyhoeddi hyd yn oed os oes gennym ni eisoes. Gallwch restru hyd at bum enw masnachu gan ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

Os hoffech chi newid eichEnw'r sefydliad, bydd angen i chi ffonio ein llinell gymorth gofrestru ar 0303 123 1113. Bydd angen eich cyfeirnod cofrestru a'ch rhif diogelwch arnoch. Fel arall, os nad oes gennych eich rhif diogelwch, cysylltwch â ni drwy e-bost.*

Canslo

Os nad ydych chi angen talu ffi diogelu data, llenwi’n ffurflen ar-lein .

Os byddwch yn canslo cofrestriad sy'n cael ei dalu drwy ddebyd uniongyrchol, bydd angen ichi hefyd ganslo'r debyd uniongyrchol gyda'r banc neu'r gymdeithas adeiladu.

Angen anfon e-bost atom?

*Os nad ydych chi'n gallu defnyddio'r gwasanaeth i newid neu ddiweddaru eich manylion,anfonwch e-bost atom gyda'ch cais gan ddyfynnu eich cyfeirnod cofrestru.