Swyddfa Cymru
Mae tîm Materion Cymreig yr ICO wedi'i leoli yng Nghaerdydd ac mae'n cynrychioli'r ICO yng Nghymru a Chymru yn yr ICO. Mae'r tîm yn rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru, gan gynnwys y llywodraeth a'r sector cyhoeddus ehangach. Mae'r tîm yn ymwneud â pholisi, deddfwriaeth a rhaglenni cenedlaethol perthnasol ac yn codi ymwybyddiaeth o'r ICO a’r deddfau ar hawliau gwybodaeth.
Safonau’r Gymraeg
Mae'r ICO yn croesawu galwadau a negeseuon ebost yn Gymraeg, ac mae'n tîm Materion Cymreig yn darparu gwasanaethau yn unol â'n Hysbysiad Cydymffurfio, a gyhoeddwyd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Dylid gwneud cwynion a chanmoliaeth sy'n ymwneud â'n cydymffurfiaeth â'r Gymraeg yn ysgrifenedig a'u cyfeirio at swyddfa Cymru gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. Ymdrinnir â'r rhain yn unol âein safonau gwasanaetha'n gweithdrefn gwyno bresennol. Ar ôl cwblhau'r broses gwyno, gellir rhoi gwybod am bryderon heb eu datrys i Gomisiynydd y Gymraeg.
Manylion cysylltu’r ICO yng Nghymru
Ebost: [email protected]
Gallwch gyrraedd ein gwasanaeth ffôn Cymraeg drwy ffonio 0303 123 1113 a dewis yr opsiwn Cymraeg