The ICO exists to empower you through information.

  • Bron 1.43 miliwn o alwadau wedi’u gwneud dros gyfnod o 13 mis
  • Derbynwyr y galwadau ffôn i gyd ar gofrestr "peidio â ffonio" y Deyrnas Unedig
  • Tystiolaeth bod pobl oedrannus a bregus wedi’u targedu.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi rhoi dirwy o £240,000 i gwmni Outsource Strategies Ltd (OSL) o Gaerdydd a £100,000 i Dr Telemarketing Ltd (DRT) o Lundain, ar ôl i'r cwmnïau wneud cyfanswm o bron i 1.43 miliwn o alwadau i bobl ar gofrestr "peidio â ffonio" y Deyrnas Unedig, sef y Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn (TPS).

Arweiniodd y galwadau, a wnaed rhwng 11 Chwefror 2021 a 22 Mawrth 2022, at 76 o gwynion i'r ICO a'r TPS. Dywedodd pobl a gwynodd fod y galwyr yn ymosodol ac yn defnyddio tactegau gwerthu dan bwysau i'w perswadio i gofrestru ar gyfer cynhyrchion. Canfu ymchwiliad yr ICO dystiolaeth hefyd fod y ddau gwmni yn targedu pobl oedrannus a bregus yn benodol. 

Dywedodd Andy Curry, Pennaeth Ymchwiliadau'r ICO:

"Ddylai'r holl bobl a gafodd eu targedu gan y galwadau niwsans hyn ddim bod wedi cael eu ffonio yn y lle cyntaf. Roedden nhw i gyd wedi cymryd camau i amddiffyn eu hunain trwy gofrestru gyda chofrestr "peidiwch â ffonio" y Deyrnas Unedig. 

"Mae'n annerbyniol eu bod nhw wedi cael eu galw dro ar ôl tro ac wedi dioddef proses farchnata ymosodol ac annymunol, yn enwedig gan fod rhai o'r dioddefwyr wedi dweud wrthon ni eu bod nhw’n bobl sy’n agored i niwed. Hoffwn i ddiolch i'r rhai a gymerodd yr amser i roi gwybod inni, gan fod hyn wedi helpu’n hymchwiliad ni i ddod â'r ddau gwmni hyn i gyfrif.

"Dylai pob cwmni sydd wrthi mewn marchnata uniongyrchol sylwi ar hyn. Os byddwch chi’n diystyru'r gyfraith, gallwch ddisgwyl i'r ICO ddefnyddio grym llawn eu pwerau rheoleiddio yn eich erbyn.

"Ac, fel yn yr achos hwn, does dim ots pa mor gymhleth yw'r rhwydwaith o gwmnïau ac unigolion, fe weithiwn ni drwy'r dystiolaeth i ddod o hyd i’r rhai sy’n gwneud y galwadau anghyfreithlon hyn a chymryd camau yn eu herbyn er mwyn diogelu'r cyhoedd."

Manylion y galwadau diangen

"Y gŵr gymrodd yr alwad. Mae gyda fe anawsterau cyfathrebu - mae'n fregus a dyw e ddim yn deall peidio ag ateb y ffôn. Rwy'n credu bod y cwmnïau hyn wedi gwerthu stwff iddo yn y gorffennol. Am resymau iechyd, rwy angen atal nhw rhag ffonio..."

"Dan ni wedi gofyn sawl tro am gael ein tynnu oddi ar y rhestr ond heb lwyddiant. Mae'r rhif ffôn heddiw yn un o nifer o rifau gwahanol maen nhw’n defnyddio. Erbyn hyn mae’r peth wedi mynd yn aflonyddu ar ddau berson hŷn."

"Fe drïon nhw fy nghael i i ymuno â loteri Iwerddon ac mae'n debyg mai fy manylion banc i roedden nhw eisiau. Mae’n gyrru dyn o’i go ac... yn bryderus. Dwi wedi laru’n llwyr ar y math yma o alwadau. Maen nhw hyd yn oed yn dod drwodd ar fy rhif UNLISTED i [sic]."

"... Roedd fy holl fanylion personol i ganddo fo ac mi ddwedodd ei fod o wedi’u cael nhw gan [wedi’i olygu] ... Trio fy mherswadio i brynu tocynnau am bris is ar gyfer Loteri Iwerddon roedd o ... Dwedes i na fyswn i’n rhoi dim manylion cerdyn dros y ffôn gan nad oedd gen i unrhyw ffordd o wybod o ble roedd o’n galw. Gofynnes iddo anfon neges e-bost imi er mwyn imi wneud diwydrwydd dyladwy ar y cynnig yma a'r cwmni yma. Dwedodd na fedra fo wneud hynny oni bai mod i’n prynu'r tocynnau yn gynta. Doeddwn i ddim yn fodlon gwneud ac felly mi ddaeth yr alwad i ben. Pan wnes i chwilio am y rhif, roedd hi’n ymddangos bod Google yn awgrymu bod y rhif yn gysylltiedig â chwmni sgamio. Roeddwn i'n poeni achos bod [wedi’i olygu] ... yn targedu pobl hŷn a allai gael eu drysu a’u perswadio i ymuno â rhywbeth fel hyn mor hawdd."

Manylion y dirwyon

Gwnaeth Outsource Strategies Ltd, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, 1,346,503 o alwadau marchnata digroeso rhwng 11 Chwefror 2021 a 22 Mawrth 2022 i rifau a gofrestrwyd gyda'r TPS. Cafodd yr ICO 74 o gwynion gan bobl a ddywedodd eu bod wedi cael galwadau dro ar ôl tro er gwaethaf eu ceisiadau am atal y galwadau a bod y galwyr yn ymosodol. 

Yn ystod yr ymchwiliad, honnodd OSL mai eu partneriaid mewn contract oedd yn gyfrifol am sgrinio’r TPS gan ddweud hefyd fod ganddyn nhw systemau mewnol ar waith i sicrhau na fyddai hyn yn digwydd. Gwelodd yr ICO fod hyn yn anghywir, gan fod 141,914 o alwadau wedi’u gwneud i bobl oedd wedi'u nodi â "peidiwch â’u ffonio" ar eu systemau eu hunain. 

Datgelodd yr ymchwiliad hefyd fod Cyfarwyddwyr OSL yn ymwneud â chwmni ar wahân a gafodd ddirwy o'r blaen gan yr ICO. Mae OSL hefyd wedi cael hysbysiad gorfodi. Mae OSL wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad cosb ariannol a'r hysbysiad gorfodi.

Gwnaeth Dr Telemarketing Ltd, sydd wedi'i leoli yn Llundain, 80,240 o alwadau marchnata digroeso rhwng 11 Chwefror 2021 a 22 Mawrth 2022 i rifau a gofrestrwyd gyda'r TPS. Daeth cyfanswm o ddwy gŵyn i law. Cafodd y galwadau digroeso hynod ecsbloetiol i gyd eu gwneud ynglŷn â Lotto Express ac fe'u targedwyd ar bobl sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau'r elw mwyaf posibl.

Yn ystod yr ymchwiliad, datgelodd yr ICO yr hyn oedd yn ymddangos fel rhwydwaith o bump o bobl ac wyth o gwmnïau i gyd yn ymwneud â gwneud y galwadau digroeso yn fwriadol. Dadleuodd DRT fod y manylion ynglŷn ag optio i mewn wedi'u cyflenwi gan eu partner busnes a bod y gwaith sgrinio yn cael ei wneud gan gwmni arall. Canfu'r ICO nad oedd dull ar waith i nodi galwadau digroeso ac i warchod yn erbyn gwneud galwadau diangen ac nad oedd y gwaith sgrinio wedi'i gontractio i gynnwys yr holl ddarparwyr data dan sylw.

Er gwaethaf ymdrechion dro ar ôl tro i gyfathrebu â'r cwmni, rhoddodd DRT y gorau i ymwneud â'r ICO yn ystod yr ymchwiliad a methodd â darparu esboniad boddhaol am y galwadau ynglŷn â Lotto Express. Mae DRT hefyd wedi cael hysbysiad gorfodi. Nid yw DRT wedi talu'r ddirwy nac wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad felly mae'r ICO yn dechrau camau adfer ariannol.

Gwaith yr ICO i fynd i'r afael â chyfathrebu niwsans

Yr ICO sy’n gorfodi Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003 (PECR), sy'n cynnwys y rheolau i sefydliadau sy'n dymuno gwneud galwadau, neu anfon negeseuon testun neu negeseuon ebost marchnata uniongyrchol.

Mae canllawiau’r ICO ar farchnata uniongyrchol yn ei gwneud yn glir bod rhaid i sefydliadau sy'n prynu rhestrau marchnata gan drydydd parti gyflawni gwiriadau trylwyr i’w bodloni eu hunain fod yr wybodaeth bersonol wedi'i sicrhau'n deg ac yn gyfreithlon. Rhaid i’r sefydliadau:

  • esbonio i bobl pam maen nhw eisiau defnyddio’u gwybodaeth;
  • dweud wrth bobl os byddan nhw’n rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill; a
  • sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'u hawliau diogelu data.

Mae'r ICO wedi rhoi mwy na £2.59 miliwn mewn dirwyon yn erbyn cwmnïau sy'n gyfrifol am alwadau, negeseuon testun a negeseuon ebost niwsans ers mis Ebrill 2023. Dechreuodd rhai o'r ymchwiliadau hyn gydag un gwyn gan aelod o'r cyhoedd.

I gael rhagor o wybodaeth am waith yr ICO i fynd i'r afael â galwadau, negeseuon ebost a negeseuon testun niwsans, ewch i 'Galwadau niwsans'.

Cyngor i'r cyhoedd

I’ch helpu chi, eich ffrindiau a'ch perthnasau i beidio â chael galwadau marchnata, negeseuon testun neu negeseuon ebost anghyfreithlon, fe allwch chi:

  • cofrestru rhif eich llinell dir a’ch ffôn symudol gyda'r Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn (TPS) a'r Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn Corfforaethol (CTPS) a hynny yn rhad ac am ddim. Mae'r TPS a'r CTPS yn gofrestrau a ddefnyddir gan gwmnïau marchnata dilys i nodi pobl a busnesau sydd wedi dweud nad ydyn nhw am gael galwadau marchnata. Fel arall, gallwch ddweud wrth y cwmni yn uniongyrchol nad ydych chi am iddyn nhw gysylltu â chi.
  • Rhoi gwybod bod negeseuon testun marchnata digroeso wedi dod i law ar eich ffôn symudol i Wasanaeth Adrodd Sbam Ffonau Symudol y Deyrnas Unedig trwy anfon y neges ymlaen i 7726.
  • Cyfeirio pryderon eich bod chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef twyll at Action Fraud (yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) a Police Scotland (yn yr Alban). Gallwch gyfeirio pryderon ehangach am arferion busnes at yr adran Safonau Masnach. Rhowch wybod i Ofcom am unrhyw alwadau rydych chi wedi’u cael sydd wedi'u gadael ar eu hanner wedyn.
  • Holi'ch rhwydwaith ffôn am atebion blocio galwadau a allai fod ganddyn nhw. Mae llawer o'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu am ddim.
  • Rhoi gwybod am alwadau, negeseuon testun neu negeseuon ebost niwsans i'r ICO drwy ein gwefan.
Nodiadau i olygyddion
  1. Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw rheoleiddiwr annibynnol y Deyrnas Unedig ar gyfer y gyfraith ar ddiogelu data a hawliau gwybodaeth, gan gynnal hawliau gwybodaeth er budd y cyhoedd, hybu natur agored ymysg cyrff cyhoeddus a phreifatrwydd data i unigolion.
  2. Mae gan yr ICO gyfrifoldebau penodol sydd wedi’u nodi yn Neddf Diogelu Data 2018 (Deddf 2018), Rheoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data (GDPR y Deyrnas Unedig), Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Deddf 2000), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR) a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003 (PECR) a phump o ddeddfau a rheoliadau eraill.
  3. Mae’r ICO yn cael cymryd camau i fynd i'r afael ag ymddygiad ac i newid ymddygiad sefydliadau ac unigolion sy'n casglu, yn defnyddio ac yn cadw gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn cynnwys erlyniadau troseddol, gorfodaeth nad yw’n droseddol ac archwiliadau.
  4. I roi gwybod am bryder i'r ICO, ffoniwch ein llinell gymorth 0303 123 1113 neu ewch i ico.org.uk/concerns.