Os ydych chi newydd gael canlyniadau’ch arholiadau, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut rydych chi wedi cael eich marcio, a'r sylwadau sydd wedi’u gwneud amdanoch chi a'ch papur arholiad. Efallai y byddwch chi hyd yn oed am apelio yn erbyn marc sydd wedi’i roi ichi.
Alla i gael mwy o wybodaeth am ganlyniadau fy arholiadau?
Mae GDPR y Deyrnas Unedig yn rhoi hawl ichi weld gwybodaeth sy’n cael ei chadw amdanoch chi. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n cael gofyn am wybodaeth amdanoch chi a'ch perfformiad mewn arholiadau, gan gynnwys:
- eich marc;
- sylwadau a gafodd eu hysgrifennu gan yr arholwr; a
- chofnodion unrhyw banel apelau arholiadau.
Ond nid yw'n rhoi hawl ichi gael copïau o'ch atebion i gwestiynau arholiad.
Sut ca i weld fy ngwybodaeth i?
I weld yr wybodaeth sy’n cael ei chadw amdanoch chi, ysgrifennwch at y lle sy'n cadw'r wybodaeth. Efallai y byddwch yn gallu cael y cyfeiriad drwy weithdrefn apelio eich ysgol neu’ch prifysgol. I weld gwybodaeth sy’n cael ei chadw amdanoch gan ysgol wladol yn yr Alban, dylech ysgrifennu at yr awdurdod lleol y lleolir yr ysgol yn ei ardal.
Gallwch ddefnyddio ebost. Cadwch gopi o beth bynnag y byddwch chi’n ei anfon, ac ysgrifennwch y dyddiad y cafodd ei anfon.
Pa mor hir y bydd hyn yn ei gymryd?
Cyn belled â bod canlyniadau'r arholiad wedi'u cyhoeddi, mae’n rhaid i'ch ysgol neu'ch prifysgol ymateb i'ch cais am eich gwybodaeth o fewn mis.
Os byddwch yn gofyn am y canlyniadau cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi, rhaid i'ch ysgol neu'ch prifysgol ymateb:
- o fewn pum mis ar ôl dyddiad y cais; neu
- o fewn 40 niwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi (p’un bynnag sydd gyntaf).
Ga i ofyn am wybodaeth am fy ysgol i?
Gallwch gael gwybodaeth swyddogol – fel polisïau a gweithdrefnau ysgol neu brifysgol – o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Rhaid i'ch ysgol neu'ch prifysgol ymateb i gais rhyddid gwybodaeth o fewn 20 diwrnod gwaith.
Mae gwybodaeth swyddogol sy’n cael ei chadw gan awdurdodau cyhoeddus yr Alban (gan gynnwys ysgolion a phrifysgolion) yn dod o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (Yr Alban) 2002. Mae hyn yn cael ei reoleiddio gan Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth yr Alban.
Sut mae gwneud apêl?
Mae GDPR y Deyrnas Unedig yn golygu bod rhaid i'r marc a ddyfarnwyd i chi gan yr arholwr gael ei gofnodi’n gywir, ond nid yw'n rhoi hawl ichi herio penderfyniad yr arholwr.
Er hynny, efallai y byddwch yn gallu apelio yn erbyn marc sydd wedi’i roi ichi mewn arholiad o dan weithdrefnau'r bwrdd arholi ei hun os ydych chi’n credu:
- bod gweithdrefn heb gael ei dilyn yn gywir;
- bod yna duedd neu ragfarn wrth i’r penderfyniadau gael eu gwneud; neu
- fod yr arholwr wedi gwneud camgymeriad.
Yn gyntaf, mynnwch gopi o drefn apelio eich ysgol neu’ch prifysgol. Gall hyn fod ar gael ar eu gwefan, os oes un ganddyn nhw, neu drwy gysylltu â'u prif swyddfa. Bydd hyn yn dweud beth mae angen ichi ei wneud, a phwy y dylech gysylltu â nhw.
Ydy ysgolion yn cael rhoi fy nghanlyniadau arholiadau i'r cyfryngau i'w cyhoeddi?
Mae cyhoeddi canlyniadau arholiadau yn arfer cyffredin sy’n cael ei dderbyn. Mae llawer o fyfyrwyr yn mwynhau gweld eu henw mewn print, yn enwedig yn y wasg leol ac nid yw GDPR y Deyrnas Unedig yn atal hyn rhag digwydd. Ond, o dan GDPR y Deyrnas Unedig mae'n rhaid i ysgolion weithredu'n deg wrth gyhoeddi canlyniadau, a phan fo gan bobl gwynion ynglŷn â chyhoeddi eu gwybodaeth nhw neu wybodaeth eu plentyn, mae’n rhaid i’r ysgolion gymryd y cwynion hynny o ddifrif.
Dylai’r ysgolion sicrhau bod pob disgybl a'u rhieni neu eu gwarcheidwaid yn ymwybodol mor gynnar â phosibl a fydd canlyniadau arholiadau yn cael eu cyhoeddi a sut. Dylai’r ysgolion esbonio hefyd sut bydd yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi. Er enghraifft, os bydd canlyniadau’n cael eu rhestru yn nhrefn yr wyddor, neu yn nhrefn y graddau.
Yn gyffredinol, oherwydd bod gan ysgol reswm dilys dros gyhoeddi canlyniadau arholiadau, does dim angen i ddisgyblion na'u rhieni neu eu gwarcheidwaid roi eu caniatâd iddyn nhw gael eu cyhoeddi. Er hynny, os oes gennych chi gŵyn benodol ynglŷn â chyhoeddi’ch canlyniadau, mae gennych chi hawl i wrthwynebu. Dylai’r ysgolion ystyried gwrthwynebiadau gan ddisgyblion a rhieni cyn gwneud penderfyniad i gyhoeddi. Byddai angen i ysgol gael rheswm da dros wrthod gwrthwynebiad rhywun i gyhoeddi eu canlyniadau arholiadau.
A gaiff plentyn wneud cais am ei wybodaeth?
Nid yw GDPR y Deyrnas Unedig yn pennu oedran pan gaiff plentyn ofyn am ganlyniadau arholiad neu ofyn i’r canlyniad beidio â chael ei gyhoeddi. Pan fydd plentyn yn gwneud cais, dylai'r rhai sy'n gyfrifol am ymateb ystyried:
- a yw'r plentyn eisiau i'w riant (neu rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto) gymryd rhan; ac
- a yw’r plentyn yn deall yn iawn beth sy'n gysylltiedig â hyn.
Mae gallu pobl ifanc i ddeall ac arfer eu hawliau yn debygol o ddatblygu neu ddod yn fwy soffistigedig wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. O ran canllaw cyffredinol, disgwylir i blentyn 12 oed neu drosodd fod yn ddigon aeddfed i ddeall y cais y mae'n ei wneud. Wrth gwrs, fe all plentyn fod yn ddigon aeddfed yn gynharach neu efallai na fydd yn ddigon aeddfed nes bod y plentyn yn hŷn, ac felly dylai ceisiadau gael eu hystyried fesul achos unigol.