Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Rydyn ni’n awyddus i barhau i weithio gyda phartneriaid a sefydliadau yn y Deyrnas Unedig i hybu manteision rhannu data i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed, a hynny trwy’n hymgyrch "Meddwl." Gwirio. Rhannu.".

Dylai sefydliadau a'u staff deimlo'n hyderus eu bod nhw’n cael rhannu gwybodaeth er mwyn amddiffyn plant a chael yr wybodaeth mae arnyn nhw ei hangen er mwyn gwneud hynny’n ddiogel.

Rydyn ni wedi creu pecyn cymorth o adnoddau ichi eu lawrlwytho a'u defnyddio yn eich sefydliad i hybu’r broses o rannu data’n ddiogel.

Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys fideo gan y Comisiynydd Gwybodaeth, taflenni, posteri, erthyglau ar gyfer cylchlythyr, a delweddau a thestun ar gyfer postiadau yn y cyfryngau cymdeithasol.

Gallwch weld a lawrlwytho'r adnoddau drwy ddefnyddio'r dolenni isod.

Os hoffai'ch sefydliad chi bartneru gyda ni (megis ychwanegu’ch logo at y deunyddiau marchnata), neu os oes gan eich sefydliad gwestiwn am ddosbarthu'r deunyddiau hyn, cysylltwch â ni yn [email protected].

I gael arweiniad ar sut i rannu gwybodaeth i ddiogelu plant, ewch i'n canllaw 10 cam.

Dogfennau

English

Sharing data to safeguard children: Think.Check.Share. campaign flyers

Sharing data to safeguard children: Think.Check.Share. campaign posters

Sharing data to safeguard children: Think.Check.Share. campaign web banners, newsletter, and social media images and text

Sharing data to safeguard children: Think.Check.Share campaign video

Sharing data to safeguard children: infograffig i staff

Cymraeg

Rhannu data i ddiogelu plant: taflenni ymgyrch - Meddyliwch. Gwiriwch. Rhannwch.

Rhannu data i ddiogelu plant: posteri ymgyrch - Meddyliwch. Gwiriwch. Rhannwch.

Rhannu data i ddiogelu plant: baneri gwe ymgyrch, cylchlythyr, a delweddau a thestun cyfryngau cymdeithasol - Meddyliwch. Gwiriwch. Rhannwch.

Rhannu data i ddiogelu plant: fideo ymgyrch - Meddyliwch. Gwiriwch. Rhannwch.

Rhannu data i ddiogelu plant: Ffeithlun i staff