Ffurflen ar-lein i roi gwybod am dor data
-
The Data (Use and Access) Act 2026 got Royal Assent on 19 June 2025. All the provisions affecting data protection law and the Privacy and Electronic Regulations Communications are now in force. The Department for Science and Innovation (DSIT) has set out the commencement plans. You can find more details on the Gov.uk website.
Mae'r ffurflen yma ar gyfer sefydliadau sydd wedi profi tor data. Os ydych chi'n unigolyn sydd eisiau rhoi gwybod am dor yn erbyn eich gwybodaeth bersonol, defnyddiwch einofferyn cwyno.
Sut i roi gwybod am dor ar-lein
Dylai'r ffurflen yma gymryd tua 30 munud i'w llenwi.
Os ydych ar frys, gallwch roi'r wybodaeth sylfaenol inni ac yna rhannu rhagor o fanylion trwy'r ebost yn nes ymlaen.
Cyn cyflwyno'ch adroddiad, byddwch yn gallu gweld eich atebion a'u golygu os oes angen. Byddwn ni wedyn yn anfon copi o'ch ffurflen wedi'i chwblhau atoch chi ar ôl iddi gael ei chyflwyno.
Os nad ydych yn siŵr a yw'ch digwyddiad yn cyrraedd y trothwy i roi gwybod amdano, ffoniwch ein llinell gymorth ar 0303 123 1113. Gallai arbed amser ichi, gan ei bod yn bosibl na fydd angen ichi roi gwybod amdano. Gallwn ni hefyd roi cyngor am gamau i'w cymryd yn dilyn y tor.
Cyn i chi ddechrau
Gwnewch yn siŵr bod gennych yr wybodaeth ganlynol yn barod:
- Manylion y tor– trosolwg cyffredinol o'r tor, y dyddiad a'r amser y digwyddodd a phryd y cawsoch chi wybod amdano.
- Manylion aelodau staff– oedd aelod penodol o staff yn gysylltiedig â hyn a pha hyfforddiant diogelu data maen nhw wedi'i gael.
- Manylion y data a'r bobl yr effeithir arnynt– faint o ddata a faint o bobl sydd wedi'u heffeithio a'r risg bosibl i unigolion o ganlyniad i'r tor.
- Eich ymdrechion i atal y tor- pa fesurau ataliol oedd ar waith ymlaen llaw, pa gamau rydych chi wedi'u cymryd i'w atal rhag digwydd eto a pha sefydliadau eraill rydych chi wedi dweud wrthyn nhw, neu sydd angen ichi ddweud wrthyn nhw am y tor.
Gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn barod gan na allwch chi gadw'r ffurflen a'i dychwelyd yn nes ymlaen.
Rhaid i'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi fod yn gywir. Dylech roi cymaint o fanylion â phosibl inni yn y ffurflen yma. Er hynny, gallwch gyflwyno gwybodaeth ychwanegol wedyn trwy'r ebost.
I gael gwybodaeth am sut rydyn ni’n prosesu'ch data, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd.