The ICO exists to empower you through information.

Rhagymadrodd

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw swyddfa rheoleiddiwr y ddeddfwriaeth ar hawliau gwybodaeth yn y Deyrnas Unedig. Mae hi o dan nifer o rwymedigaethau cyfreithiol o ran y Gymraeg. Nodir y rhain yn llawn yn hysbysiad cydymffurfio Safonau’r Gymraeg.

Un o’r gofynion hyn yw cyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n manylu ar y camau a gymerwyd o ran cydymffurfio â’r safonau uchod. Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod o Ebrill 2022 hyd at Fawrth 2023.

Y cefndir

Mae’r ICO yn rheoleiddiwr i’r Deyrnas Unedig gyfan, gan ymdrin â Chymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Prif swyddogaeth swyddfa ranbarthol yr ICO yng Nghymru yw sicrhau bod materion sy’n benodol i Gymru yn cael eu hadlewyrchu’n briodol yng ngwaith y sefydliad ehangach. Mae swyddfa Cymru hefyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau Cymraeg i randdeiliaid Cymraeg eu hiaith yng Nghymru.

Hysbysiad cydymffurfio

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu na chaniateir ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae’r ICO yn dod o dan y safonau hyn ac mae copi o'n hysbysiad cydymffurfio i'w weld ar ein gwefan yn www.ico.org.uk a hynny yn Gymraeg a Saesneg.

Y camau a gymerwyd dros y flwyddyn

Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi parhau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg i randdeiliaid Cymraeg eu hiaith. Rydym yn falch o nodi ein bod wedi parhau i gael adborth cadarnhaol ynglŷn â’n darpariaeth Gymraeg ac er gwaethaf cynnydd yn y galw am ein gwasanaethau dros y flwyddyn, mae’n gwasanaeth dwyieithog wedi bod yn ddi-dor. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus yr ICO i ymwneud â’r rhanddeiliaid yn Gymraeg.

Gwelir isod rai o’r camau allweddol a gymerwyd rhwng mis Ebrill 2022 a Mawrth 2023:

  • Rydym wedi parhau i weithio ar ein rhyngwyneb dwyieithog i ddefnyddwyr ar ein gwefan, sy'n caniatáu i’r ymwelwyr ddewis y Gymraeg fel eu dewis iaith ar ein bar offer hygyrchedd a llywio’n gwefan yn Gymraeg. Lle mae cynnwys Cymraeg ar gael, bydd yn cael ei ddangos yn awtomatig. Hyd yn hyn mae 230 o dudalennau ar gael i’w gweld yn ddwyieithog.
  • Rydym wedi hybu’n polisi Cymraeg corfforaethol yn fewnol ac wedi cynnal sesiynau ymwybyddiaeth i’r staff mewnol i helpu i wella dealltwriaeth o’r iaith ac i atgoffa’r staff am rwymedigaethau’r ICO o dan Fesur y Gymraeg 2011.
  • Dathlwyd Diwrnod Hawliau’r Gymraeg drwy greu fideos a phostio ar y cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg i amlygu’r gwasanaethau y mae gan bobl hawl i’w cael trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Rydym wedi parhau i ddatblygu’n system ffôn ddwyieithog i ganiatáu i’r galwyr ddewis eu hiaith ar ddechrau'r alwad, gan ganiatáu iddyn nhw gael cyngor ac arweiniad yn Gymraeg. Mae’r galwyr hefyd yn gallu gadael negeseuon llais yn eu dewis iaith a chael gwarant o alwad yn ôl yn yr iaith honno.
  • Er ein bod yn gweithio gartref i raddau helaeth, fe barhaodd ein menter "Dydd Gwener Cymraeg" drwy gyfrwng Teams, ac anogwyd pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn ein cyfarfodydd mewnol. Mae cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg mewn sgyrsiau bob dydd ymhlith siaradwyr Cymraeg wedi bod yn amlwg o gofio bod 80% o dîm yr ICO yng Nghymru yn siarad Cymraeg neu'n dysgu.

Ymholiadau

Yn ystod y flwyddyn, cafodd yr ICO 166 o ymholiadau yn Gymraeg, sef bron 8% o’r holl ymholiadau a drafodwyd gan swyddfa’r ICO yng Nghymru. Mae’r ymholiadau hyn yn ymrannu’n 39 drwy’r ebost a 127 o ymholiadau ffôn.

Gwaith achosion

Cafodd 7 achos eu cynnal yn Gymraeg ac fe ymdriniwyd â phob un yn unol â'n safonau gwasanaeth.

Cwynion

Cawsom dair cwyn ynglŷn â'n darpariaeth gwasanaethau Cymraeg, ac ymdriniwyd â’r rhain a’u datrys yn unol â'n gweithdrefn gwyno Gymraeg. I weld copi o’n gweithdrefn, cliciwch yma.

Codi ymwybyddiaeth

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o ofynion y Safonau drwy gynnal cyflwyniadau mewnol a sesiynau ymwybyddiaeth ar ein rhwymedigaethau Cymraeg. Mae llawer iawn o waith hefyd wedi’i wneud gyda’n Tîm Cyfathrebu gyda’r nod o wella ansawdd ac argaeledd ein darpariaeth ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn wedi cynnwys staff sy'n siarad Cymraeg yn cymryd rhan mewn yng nghyfarfodydd prosiect yr adran Gyfathrebu i ddatblygu offer dwyieithog ar gyfer ein gwefan gyhoeddus.

Mae ein tîm ni yng Nghymru wedi datblygu e-fodiwl sy'n cynnwys gofynion y Safonau ac sy'n orfodol i bob aelod o’r staff ei gwblhau. Mae hwn wedi'i recordio ac mae ar gael ar ein tudalennau mewnrwyd staff i'w weld ar unrhyw adeg.

Yn ystod y flwyddyn, mae’r swyddfa yng Nghymru wedi parhau i gael cryn dipyn o gyswllt rhagweithiol gydag adrannau eraill o’r ICO mewn perthynas â’r Gymraeg, sydd wedi bod yn braf i’w nodi ac sy’n dangos effeithiolrwydd ein hymgyrch codi ymwybyddiaeth.

Cyfryngau cymdeithasol / gwefan

Mae pob neges, postiad a chais a anfonir i'n platfformau yn y cyfryngau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ymateb Cymraeg yn ddi-oed. Dros gyfnod yr adroddiad cafodd pob postiad oedd yn berthnasol i Gymru’n unig eu cyhoeddi’n ddwyieithog.

Mae’r holl ganllawiau ar ein gwefan allanol sy'n berthnasol i Gymru ar gael yn ddwyieithog ac yn cael eu cyhoeddi yr un pryd â'r fersiwn Saesneg.

Hyfforddiant

Mae’r ICO yn dal i annog ac i baratoi’r staff i allu ymdrin â rhanddeiliaid yn Gymraeg drwy gydol eu taith drwy’r gwasanaeth. Bob blwyddyn, mae pob aelod o’r staff yng Nghymru yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny, a hynny gyda chymorth gan yr ICO. Yn ystod cyfnod yr adroddiad, mae dau aelod o’r staff wedi parhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg drwy fodiwlau dysgu ar-lein wedi'u hariannu.

Asesiad o sgiliau’r staff

O'r pum aelod staff yn swyddfa Cymru, mae gan dri sgiliau Cymraeg llafar rhagorol. Anogir pob un ohonynt i ymateb i ymholiadau ysgrifenedig neu ymholiadau ebost yn Gymraeg lle maent yn teimlo'n ddigon hyderus i wneud hynny heb alw ar gyfieithydd proffesiynol. Mae hyn yn helpu i ddatblygu sgiliau ysgrifenedig mewnol a hyder.

Recriwtio

Ni chafodd unrhyw swyddi gwag eu hysbysebu yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn.

Costau cyfieithu

Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, cafodd £4378.06 ei wario ar gyfieithu dogfennau.  Cafodd cyfanswm o 47 o ddogfennau eu cyfieithu, rhai yn fewnol. Roedd y rhain yn cynnwys dogfennau gwaith achosion, hysbysiadau i’r wasg, llythyrau at siaradwyr Cymraeg a thestun ar gyfer tudalennau gwe sy'n dod o fewn cwmpas ein prosiect gwefan Gymraeg.

Camau sydd ar y gweill

  • Byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'n rhwymedigaethau Cymraeg yng Nghymru ac i sicrhau bod pob aelod o’r staff yn ein prif swyddfa yn ymwybodol o'n hymrwymiad i ymgysylltu â'n rhanddeiliaid yn Gymraeg.
  • Byddwn yn dylunio ac yn datblygu tudalen glanio Cymraeg newydd ar ein gwefan a hwnnw’n tynnu ynghyd ganllawiau defnyddiol ynghylch hawliau gwybodaeth mewn un lle i ddefnyddwyr Cymraeg eu hiaith.
  • Rydym yn anelu at greu hyb dysgu Cymraeg sy'n agored i'r holl staff ar draws yr ICO sy'n byw yng Nghymru neu sy'n mynegi diddordeb mewn dysgu Cymraeg. Ein nod yn hyn o beth yw cyfarfod yn rheolaidd i sgwrsio yn Gymraeg a helpu i ategu datblygiad sgiliau llafaredd/llythrennedd Cymraeg ymysg staff eraill ar draws y sefydliad.
  • Rydym yn anelu at gynyddu nifer y tudalennau sydd ar gael ar ein rhyngwyneb dwyieithog fel bod ymwelwyr yn gallu llywio drwy ragor o gynnwys ein gwefan yn Gymraeg.