Neidio i’r prif gynnwys

Yr Etholiad Cyffredinol a fy data personol - beth i ddisgwyl?

  • Dyddiad 30 Mai 2024
  • Math Blog

Gyda Etholiad Cyffredinol yn dod lan ar 4 Gorffennaf, rydyn ni'n gwybod bydd llawer o bobl yn cael cwestiynau ynghylch sut bydd eu data yn cael ei ddefnyddio yn ystod y ymgyrch etholiad. Mae data personol yn rhan pwysig o ymgyrchoedd gwleidyddol - mae'n galluogi pleidiau gwahanol i ledaenu negeseuon allweddol i bleidleiswyr ac yn helpu i adnabod y problemau mwyaf i bobl gwahanol hefyd.

Rydyn ni'n deall pa mor pwysig i'r cyhoedd cael hyder yn sut mae eu gwybodaeth personol yn cael ei ddefnyddio yn ystod etholiadau. A felly, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda rheoleiddwyr arall, gyda sefydliadau, a phobl bydd yn delio gyda'ch gwybodaeth personol yn ystod yr ymgyrch etholiadol i wneud yn siwr mae 'r disgwyliadau yn clir. Rydyn ni wedi gweithio gyda'r Awdurdod Ty'r Cyffredin i wella'r cymorth ar gael i MPs sy'n delio gyda gwaith achos etholaethau. Ac yr wythnos yma, mae John Edwards, y Comisiynydd Gwybodaeth wediwedi'i ysgrifennu i bleidiau gwleidyddolatgoffa nhw o'u obligiadau diogelu data.

Rydyn ni wedi gosod atebion i rai o'r cwestiynau cyffredin a ofynnir inni yn ystod etholiadau, gan nodi'r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennyn ni yn ystod y cyfnod cyn etholiad.

Beth ddylwn i ei ddisgwyl gan bleidiau ac ymgyrchwyr gwleidyddol?

Disgwyl gwybodaeth preifatrwydd clir

Dylai fod yn clir o'r dechrau sut ydy plaid gwleidyddol yn defnyddio eich gwybodaeth personol, a dylai bod yn hawdd i ddeall.

Er enghraifft, os bydd plaid wleidyddol yn anfon ffurflen atoch fel y gallwch gofrestru ar gyfer pleidlais drwy’r post yna fe ddylai fod yn glir sut y bydd y blaid wleidyddol yn defnyddio’ch gwybodaeth. Ddylech chi ddim cael eich synnu bod y data hwnnw'n cael ei ddefnyddio fel rhan o ymgyrch etholiadol. Darllenwch ragor am eich hawl i wybod.

Os ydych chi'n eisiau gwybod mwy am sut ydy eich gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio, dylai fod yn y hysbysiad preifatrwydd y plaid, fel arfer ar ei wefan.

Disgwyl i gael ei ddweud os mae plaid gwleidyddol yn defnyddio technegau proffilio

Mae gan bleidiau gwleidyddol hawl i gael copi o'r cofrestr etholiadol llawn, mae hyn yn cynnwys gwybodaeth fel eich enw a chyfeiriad. Mae pleidiau gwleidyddol yn adeiladu eui ddiddordebau o bleidleiswyr gwahanol gyda trafodaethau uniongyrchol gyda aelodau o'r cyhoedd, gyda data sydd ar gael yn cyhoeddus fel data sensws a gan prynu data o gwmniau data (busnesau sy'n casglu data personol o ffynnonellau gwahanol fel cyfryngau cymdeithasol, wedyn storio, rhoi i fewn i gategoriau a gwerthu y data yma).

Os yw plaid wleidyddol yn cyfuno gwybodaeth amdanoch chi o sawl ffynhonnell wahanol, yr enw ar hyn yw proffilio. Pleidiau gwleidyddol yn ddefnyddio y techneg yma i ddysgu mwy am bleidleiswyr ac i anfon marchnata wedi'i dargedu.

Os ydy plaid gwleidyddol yn defnyddio technegau proffilio, dylai bod yn clir yn eu hysbysiad preifatrwydd. Os mae gennych chi pryderon ynghylch technegau proffilio sy'n cael ei ddefnyddio, gallwch chi cysylltu y plaid.

Disgwyl gwybodaeth clir am hysbysebu cyfryngau cymdeithasol

Mae hysbysebion yn y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio gan bob plaid i hybu eu gwaith, ond mae'n bwysig ei bod yn glir i bobl a ydyn nhw’n cael eu targedu. Dylai pleidiau gwleidyddol ei gwneud yn glir y bydd gwybodaeth bersonol pobl yn cael ei defnyddio i anfon hysbysebion penodol yn y cyfryngau cymdeithasol atyn nhw..

Rhagor o wybodaeth am hawliau gwybodaeth mewn ymgyrchoedd ar-lein.

Disgwyl i gael ei ddweud sut mae gwybodaeth o ddeiseb neu arolwg yn cael ei ddefnyddio

Os mae plaid gwleidyddol yn gofyn i chi i gwblhau holiadur neu deiseb, dylen nhw fod y clir sut mae'r data hwnna'n mynd i gael ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mewn nifer o achosion, ni fyddai'n addas i blaid neu ymgeisydd sydd wedi casglu gwybodaeth am deiseb neu holiadur sbesiffig i ail-bwrpasi y gwbodaeth am ymgyrchoedd gwleidyddol.

Os ydych chi'n poeni am sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, gallwch arfer eich hawl i wrthwynebu.

Disgwyl i bleidiau gwleidyddol i ddilyn y gyfraith pan mae'n dod i farchnata uniongyrchol

Mae angen i bleidiau gwleidyddol i ddilyn rheolau marchnata uniongyrchol pan yn ymgyrchu. Byddwn yn gwneud hyn mewn nifer o ffurfoedd, gan gynnwys:

  • Post sydd wedi cyfeirio atoch chi yn personol: Efallai bydd y dull yma yn cael ei ddefnyddio i gysylltu gyda chi heblaw rydych chi wedi gofyn y sefydliad i beidio ag ysgrifennu atoch chi neu i beidio ag anfon chi deunyddion marchnata trwy'r post. Hefyd, mae gyfraith etholiadol yn gosod allan pryd mae plaid gwleidyddol, ymgeisydd neu ymgyrchwr referendwm yn cael yr hawl i anfon post unigol etholiad neu referendwm trwy Freepost. Mae'r hawl sbesiffig yma yn dod mewn hyd yn oed os ydych chi wedi gofyn i'r sefydliad i beidio cysylltu gyda chi.
  • Negeseuon ebost, negeseuon testun a negeseuon eraill i ffonau symudol neu negeseuon llais, neu negeseuon ffacs: Gellir defnyddio'r dull yma i gysylltu â chi lle rydych chi wedi rhoi cydsyniad i'r sefydliad wneud hynny at ddibenion penodol.
  • Galwadau ffôn: Gellir defnyddio'r dull yma i gysylltu â chi oni bai bod gan y sefydliad sail i gredu na fyddech chi am iddo gysylltu â chi, megis os ydych chi wedi cofrestru gyda'r Gwasanaeth Dewis Ffôn (TPS).
  • Galwadau ffôn awtomataidd: Gellir defnyddio'r dull yma i gysylltu â chi lle rydych chi wedi rhoi cydsyniad penodol i'r sefydliad wneud hynny at ddibenion penodol.

Dyw post heb gyfeiriad neu wedi cyfeirio yn syml i'r 'y deiliad' ddim wedi gorchuddio o ddan y rheolau yma.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am ymgyrchu gwleidyddol marchnata uniongyrchol.

Os ydych yn meddwl bod plaid yn camddefnyddio eich data, gallwch chi gwneud cwyn i ni.

Disgwyl i hen MPs a rhai newydd a rhai sy'n dychwelyd i ddelio gyda'ch data yn y man cywir

Yn ogystal gyda'r trosiant arferol o MPs, bydd yr etholiad cyffredin yma yn gweld newidiadau i ffiniau etholaethau, felly efallai byddwch yn ffeindio eich hunain yn aelod o etholaeth gwahanol nawr.

Bydd unrhyw MP sy'n camu i lawr, dim yn cael ei ethol eto, neu yn cael ffiniau etholaethau sy'n newid, yn rheoli y trosglwyddo o ddata a gwaith achos etholwyr. Felly, os ydych yn cael achos gyda eich MP cyfoes, efallai byddech yn cysylltu gyda chi i ofyn am ganiatad i rannu eich data gyda'ch MP newydd.

Dylech bod yn ymwybodol os dydych chi ddim yn rhoi caniatad, bydd y data neu'r gwaith achos yn cael ei ddileu.

Beth i ddisgwyl ar ddydd yr etholiad?

Disgwyliwch orfod dangos ID Pleidleisiwr

Er bod pleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon yn gorfod dangos ID Llun i bleidleisio ers 2003, am y tro cyntaf mewn Etholiad Cyffredinol bydd angen i bleidleiswyr ledled y Deyrnas Unedig ddangos math o ID Llun erbyn hyn. Dim ond i staff yr orsaf bleidleisio y bydd angen ichi ddangos eich ID, a gallwch ofyn iddo gael ei wirio'n breifat. Os nad oes gennych chi ID derbyniol â ffotograff, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwefan comisiwn etholiadol.

Beth i ddisgwyl o'r ICO?

Disgwyliwch adnoddau i'ch cadw chi’n wybodus

Rydyn ni wedi creu adnoddau i bleidleiswyr ddysgu mwy am eu hawliau gwybodaeth yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol.

Disgwyl ni i gydymffurfio gyda ein rhwymedigaethau o gyn yr etholiad

Fel llawer o sefydliadau cyhoeddus arall, byddwn yn fwy tawel nag arfer er mwyn dilyn ein obligiadau cyn yr etholiad.

Byddwn yn gwneud llai o gyhoeddiadau cyhoeddus ac efallai yn gohirio rhai cyhoeddiadau tan ar ol y diwrnod pleisio. Mae hyn yn i wneud yn siwr rydyn yn ddiduedd a dydyn ni ddim yn tynnu sylw o neu'n cael unrhyw dylanwad dros yr ymgyrch llydan.

Byddwn yn parhau i berfformio ein gweithrediad rheolieddiol yn unrhyw ffordd arall. Gallwch chi dal cysylltu ni fel arfer. Os ydych chi'n cael cwyn yn ystod yr amser hyn, gallwch chi dal anfon fe i ni.

Mae gennych chi hawl i fod yn hyderus bod pleidiau gwleidyddol yn trin eich gwybodaeth bersonol yn gyfrifol ac yn unol ag arferion da. Os ydych chi'n anfodlon ar sut mae’ch data’n cael ei ddefnyddio, mae gennyn ni ganllawiau i'ch helpu i godi pryder.