Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

I ddarllen y datganiad yn Cymraeg, cliciwch yma.

Heddiw mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ac Ofcom wedi nodi sut y byddwn yn cydweithio i sicrhau cydlynedd rhwng y gyfundrefn diogelu data a'r gyfundrefn diogelwch ar-lein newydd.

Mae ein cyd-ddatganiad yn adeiladu ar ein dull cydweithredol presennol o reoleiddio – ac ar ein perthynas waith agos a sefydlwyd fel cyd-sylfaenwyr Fforwm Cydweithrediad Rheoleiddio Digidol.

Gan rag-weld y bydd Ofcom yn ymgymryd â dyletswyddau newydd yn 2023 o dan y Bil Diogelwch Ar-lein, mae'r datganiad yn gosod ein nodau rheoleiddio cyffredin. Rydyn ni am weld:

  • pobl sy'n defnyddio gwasanaethau ar-lein yn hyderus y bydd eu diogelwch a'u preifatrwydd yn cael eu cynnal ac y byddwn ninnau’n cymryd camau prydlon ac effeithiol pan fydd darparwyr yn methu yn eu rhwymedigaethau; a
  • darparwyr gwasanaethau ar-lein o bob maint yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau gan barhau i arloesi a thyfu, gyda chefnogaeth eglurder yn y gwaith rheoleiddio ac yn rhydd rhag gormod o feichiau.

I gyflawni hyn, bydd yr ICO ac Ofcom yn cydweithio'n agos i gyflawni'r aliniad a’r cysondeb mwyaf posibl rhwng y gyfundrefn diogelu data a’r gyfundrefn diogelwch ar-lein. Fe fyddwn ni:

  • yn sicrhau’r cydlynedd mwyaf posibl drwy sicrhau bod ein polisïau'n gyson â gofynion rheoleiddio ein gilydd – gan ymgynghori'n agos wrth baratoi codau a chanllawiau. Byddwn yn chwilio am atebion sy'n gwella diogelwch defnyddwyr ac yn cadw eu preifatrwydd. Lle ceir tensiwn rhwng amcanion preifatrwydd a diogelwch, byddwn yn rhoi eglurder ar sut y gellir sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddwy gyfundrefn; ac
  • • yn hybu cydymffurfiaeth drwy osod disgwyliadau clir i’r diwydiant o ran yr hyn mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud i fodloni eu gofynion diogelwch ar-lein a’u gofynion diogelu data. Mae hynny'n cynnwys cefnogaeth benodol drwy'r cyfnod pontio i gwmnïau bach a chwmnïau sy'n dod i'r amlwg i'w helpu i ffynnu a thyfu. Byddwn yn gweithredu yn erbyn gwasanaethau nad ydyn nhw’n cyflawni eu rhwymedigaethau, gan rannu gwybodaeth a deallusrwydd fel y bo'n briodol a chydlynu dulliau gorfodi.

Darllenwch y datganiad yn llawn yma.