The ICO exists to empower you through information.

people looking at tablet

Sut i wneud y gorau o’ch cais

Rydym wedi cynllunio’r canllaw hwn yn unswydd i chi. Felly, cyn ichi ddechrau llenwi’ch cais, darllenwch yr adran hon. Mae’ch ffurflen gais yn hanfodol inni wrth inni asesu’ch addasrwydd ar gyfer y rôl. Cymerwch amser felly i ystyried yr wybodaeth sydd gennych a’r ffordd orau i ddangos eich gwybodaeth a’ch profiad er mwyn dangos mai chi fyddai’r person gorau yn y swydd.

Dyma rai cwestiyna ac atebion cyffredin, ynghyd â phwyntiau sylfaenol y mae’n hawdd anghofio amdanyn nhw:

  • Llenwch bob rhan o’r ffurflen mor gyflawn ag y gallwch.
  • Edrychwch drwy’r fanyleb swydd a chymerwch amser i roi sylw i bob un o’r pwyntiau arni.
  • Ar gyfer pob un o’r meini prawf, esboniwch sut mae’ch gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad yn ateb gofynion y rôl. Gallech roi enghreifftiau yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Gofalwch eich bod yn rhoi disgrifiad clir a llawn. Cofiwch hefyd eich bod yn cael rhoi enghreifftiau o’r tu allan i’r gwaith os ydyn nhw’n berthnasol.
  • Ar ôl ei llenwi, gwiriwch fod eich ffurflen yn gywir ac yn glir cyn ei chyflwyno.

Beth sy’n digwydd yn y broses o lunio’r rhestr fer?

Rydym yn cymharu’r wybodaeth yn eich ffurflen gais â’r meini prawf perthnasol yn y fanyleb swydd er mwyn penderfynu a ddylech chi gael eich cynnwys ar y rhestr fer. Mae’n werth nodi mai dim ond yr hyn sydd wedi’i nodi’n glir ar y ffurflen a all gael ei ystyried – allwn ni ddim rhagdybio dim.

Beth dylwn i ei ddefnyddio i lenwi’r ffurflen?

Gan fod eich ffurflen yn cael ei llungopïo, ysgrifennwch yn glir mewn inc du neu deipio mewn du.

Beth dylwn i ei wneud os nad yw adran yn berthnasol imi?

Nodwch nad yw’n gymwys drwy ysgrifennu ‘D/G’.

Ydych chi’n derbyn CVs yn lle ffurflen gais?

Nac ydyn. Dim ond y ffurflen gais swyddogol sy’n cael ei derbyn. Allwn ni ddim derbyn CVs – hyd yn oed fel atodiad i’ch ffurflen gais.

Beth os oes arna i angen rhagor o le i unrhyw ateb?

Os oes arnoch angen rhagor o le i ateb unrhyw gwestiwn, defnyddiwch y ‘Ddalen barhau’. Peidiwch â newid diwyg y ffurflen i greu lle ychwanegol, gan arwain at dudalennu ychwanegol yn y ddogfen derfynol. Er hynny, fe gewch chi newid maint y ffont ar gyfer testun rhydd, ond cofiwch gadw at faint y bydd yn hawdd i’r panel recriwtio ei ddarllen.

Sut mae cyflwyno’r ffurflen?

Postiwch hi at yr ICO, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Neu, os yw’n well gennych anfonwch drwy’r ebost at: [email protected], neu ffoniwch ein Tîm Adnoddau Dynol i ofyn am ein rhif ffacs.

Oes ffyrdd eraill i gyflwyno’r ffurflen?

Os ydych yn anabl a bod arnoch angen cyflwyno’ch ffurflen ar ffurf amgen, cysylltwch ag aelod o’n Tîm Adnoddau Dynol ar 0303 545 678.