Neidio i’r prif gynnwys
Logo Byddwch yn effro i breifatrwydd

Gwneud preifatrwydd yn rhan o drefn ar-lein fy mhlentyn

Menyw a phlentyn yn edrych ar ffôn

Does dim rhaid ichi fynd i’r afael â phob agwedd ar breifatrwydd ar-lein ar unwaith – weithiau mae’n well dal ati a dod yn ôl ato mewn sgyrsiau byr dros gyfnod o amser.

Mae hyn yn helpu plant i amsugno gwybodaeth yn raddol ac yn rhoi lle i chithau feddwl yn ofalus am yr hyn sy’n gweithio orau i’ch teulu. Mae hefyd yn fodd ichi addasu wrth iddyn nhw dyfu ac wrth i’w harferion ar-lein newid.

Rydyn ni wedi nodi’r pum pwnc preifatrwydd ar-lein y mae angen i’r rhan fwyaf o deuluoedd feddwl amdanyn nhw, ynghyd â chwestiynau yr hoffech eu hystyried o bosibl.

Does dim disgwyl i chi fod â’r atebion i gyd. Y peth pwysicaf yw sgwrsio â’ch plentyn am breifatrwydd ar-lein, fel eu bod yn deall bod ganddyn nhw ddewisiadau dros sut mae eu gwybodaeth yn cael ei rhannu ar-lein ac yn dechrau adeiladu arferion craff i gadw’n ddiogel ar-lein.

Gosodiadau preifatrwydd

  • Ydy’r proffiliau wedi’u gosod ar breifat?
  • Pwy all weld postiadau, tagio’ch plentyn neu anfon neges atyn nhw?

Gosodiadau lleoliadau

  • Pa ddyfeisiau, apiau neu gemau symudol sy’n cyrchu data am leoliad?
  • Oes angen rhannu lleoliad neu allech chi ddiffodd y broses yma?
  • Pwy arall all weld manylion lleoliad eich plentyn?
  • Ydy’ch plentyn yn clicio’n awtomatig ar ‘agree’ pan fydd cais gosodiadau lleoliadau yn codi?

Gosodiadau hysbysebu

  • Ydych chi’n hapus i’ch plentyn gael hysbysebion, cwcis neu ddeunydd marchnata wedi’u personoli neu wedi’u targedu (lle mae’r hysbysebwyr yn eu targedu ar sail eu diddordebau, eu demograffeg, eu hymddygiad, neu eu defnydd ar apiau)?
  • Pa wefannau, apiau neu gemau symudol sy’n casglu gwybodaeth bersonol eich plentyn neu’n olrhain eu gweithgarwch?
  • Ydy’r gwefannau, yr apiau neu’r gemau symudol hyn hefyd yn rhannu’r wybodaeth gyda thrydydd partïon eraill?

Rheolaethau rhieni a gosodiadau oedran

  • Ydych chi wedi sefydlu rheolaethau rhieni?
  • Ydy gwefannau, apiau neu gemau symudol yn gwybod oedran go iawn eich plentyn? Os na, beth maen nhw’n credu yw oedran eich plentyn?

Gwybodaeth bersonol

  • Ydych chi wedi cytuno pryd mae’n iawn rhannu gwybodaeth bersonol (fel cyfeiriad, rhif ffôn, ysgol, cyfeiriad ebost neu luniau) a gyda phwy?
  • Beth am AI? Oes unrhyw fanylion, fel gwybodaeth iechyd, y byddai’n well gennych i’ch plentyn beidio â’i rhannu gydag offer AI fel ChatGPT, Gemini neu Claude?

 

AWGRYM – Gosodwch broc i’r cof ynghylch preifatrwydd

Mae gwirio’ch gosodiadau preifatrwydd yn rheolaidd yn arfer craff a all eich cadw’n ddiogel – yn union fel edrych i’r ddau gyfeiriad cyn croesi’r ffordd.

Mae rhoi awgrym syml, cyfarwydd i’ch plentyn yn gallu helpu i sicrhau nad yw’r cam pwysig yma yn cael ei anghofio.

Felly, bob tro y byddwch chi’n cael dyfais, ap neu gêm newydd – gwiriwch eich gosodiadau preifatrwydd.

Ble i fynd nesaf

Gosodiadau preifatrwydd

Dewiswch pa wybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu a’i rhannu neu sy’n weladwy i bobl eraill pan fydd eich plentyn ar-lein.

Gosodiadau lleoliadau

Gall data am leoliadau ddatgelu ble mae’ch plentyn yn byw, yn astudio, yn teithio ac yn treulio amser.

Gosodiadau hysbysebu

Defnyddir gwybodaeth eich plentyn i siapio hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, wrth rannu fideos, neu ar apiau gemio.

Rheolaethau rhieni

Gall rheolaethau rhieni gynnig rhywfaint o reolaeth ichi dros osodiadau lleoliadau, preifatrwydd a hysbysebion.