Cyngor ar osodiadau lleoliadau gan Childnet
Gwybodaeth fanwl i athrawon a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc ar wasanaethau lleoliadau.
Mae gosodiadau lleoliad yn rheoli sut mae cwmnïau yn cyrchu ac yn defnyddio lleoliad daearyddol eich plentyn.
Bydd llawer o apiau, gemau symudol, cyfryngau cymdeithasol a dyfeisiau yn gofyn am ganiatâd i gael mynediad at wybodaeth am leoliad. Mae’n bwysig dewis yn ofalus oherwydd gall rhannu lleoliad ddatgelu ble mae’ch plentyn yn byw, yn astudio, yn teithio ac yn treulio amser.
Gall rhannu lleoliad fod yn ddefnyddiol weithiau ond mae’n syniad da gwirio pob ap ac ystyried a oes ei angen mewn gwirionedd.
Mae’r rhan fwyaf o apiau yn cynnig dewis rhwng rhannu union leoliad, lleoliad bras, neu ddim lleoliad. Gallech chi hefyd ystyried caniatáu mynediad lleoliad tra bo’r ap yn cael ei ddefnyddio yn unig, yn hytrach na galluogi olrhain parhaus yn y cefndir.
Mae rhai apiau yn diffodd y dewis o rannu lleoliad yn awtomatig ar gyfer plant dan 18 oed. Ond os nad yw’ch plentyn yn defnyddio’u hoedran go iawn, bydd hyn yn analluogi’r holl amddiffyniadau sydd ar gael iddyn nhw.
Gwybodaeth fanwl i athrawon a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc ar wasanaethau lleoliadau.
Defnyddir gwybodaeth eich plentyn i siapio hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, wrth rannu fideos, neu ar apiau gemio.
Gall rheolaethau rhieni gynnig rhywfaint o reolaeth ichi dros osodiadau lleoliadau, preifatrwydd a hysbysebion.
Dewiswch pa wybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu a’i rhannu neu sy’n weladwy i bobl eraill pan fydd eich plentyn ar-lein.