Gosodiadau preifatrwydd
Dewiswch pa wybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu a’i rhannu neu sy’n weladwy i bobl eraill pan fydd eich plentyn ar-lein.
P’un a yw eich plentyn yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, yn rhannu fideo neu’n defnyddio ap gemio, mae’n debygol eu bod nhw’n rhoi gwybodaeth bersonol ar-lein.
Mae’r rhan fwyaf o apiau a gwefannau yn caniatáu ichi reoli pa mor gyhoeddus neu breifat yw gwybodaeth eich plentyn, a pha wybodaeth amdanyn nhw sy’n cael ei chasglu neu ei rhannu – yr enw ar y rheolaethau yma fel arfer yw gosodiadau preifatrwydd.
Dysgwch sut i wirio a dewis pa wybodaeth bersonol y bydd eich plentyn yn ei rhannu ar-lein.
Dewiswch pa wybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu a’i rhannu neu sy’n weladwy i bobl eraill pan fydd eich plentyn ar-lein.
Gall data am leoliadau ddatgelu ble mae’ch plentyn yn byw, yn astudio, yn teithio ac yn treulio amser.
Defnyddir gwybodaeth eich plentyn i siapio hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, wrth rannu fideos, neu ar apiau gemio.
Gall rheolaethau rhieni gynnig rhywfaint o reolaeth ichi dros osodiadau lleoliadau, preifatrwydd a hysbysebion.