Canllawiau cam wrth gam ar breifatrwydd ar-lein
Canllawiau gan Internet Matters ar gyfer sefydlu rheolaethau rhieni ar fand eang, dyfeisiau, apiau, a gemau i helpu i gadw plant yn fwy diogel ar-lein.
Gall gosodiadau preifatrwydd eich helpu i reoli pa wybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu a’i rhannu neu sy’n weladwy i bobl eraill pan fydd eich plentyn ar-lein.
Mae hyn yn cynnwys dewis a yw proffil eich plentyn yn breifat ynteu’n gyhoeddus, pwy gaiff ofyn am fod yn ffrind iddyn nhw neu eu dilyn, a phwy gaiff anfon neges neu sylwadau atyn nhw ar eu postiadau.
Mae gosodiadau preifatrwydd yn cynnig mwy o amddiffyniad i’ch plentyn trwy gyfyngu ar bwy gaiff weld eu cynnwys a rhyngweithio â nhw. Gall hyn helpu i atal bwlio, niwed emosiynol, a chyswllt diangen gan ddieithriaid.
Mae gan y rhan fwyaf o ddyfeisiau, apiau a gemau symudol osodiadau preifatrwydd yn eu dewislen ‘Settings’ neu ‘Account’.
Mae’n syniad da adolygu gosodiadau preifatrwydd yn rheolaidd gan fod cwmnïau weithiau’n diweddaru eu polisïau neu’n ychwanegu nodweddion newydd a allai effeithio ar breifatrwydd ar-lein eich plentyn. Gall defnyddio dyddiad cofiadwy, fel pen-blwydd, fod yn ddefnyddiol i’ch atgoffa ei bod hi’n bryd gwirio’r gosodiadau.
Canllawiau gan Internet Matters ar gyfer sefydlu rheolaethau rhieni ar fand eang, dyfeisiau, apiau, a gemau i helpu i gadw plant yn fwy diogel ar-lein.
Awgrymiadau, cyngor, canllawiau ac adnoddau gan Ganolfan Rhyngrwyd Fwy Diogel y Deyrnas Unedig i helpu rhieni a gofalwyr i gadw plant yn ddiogel ar-lein.
Gall data am leoliadau ddatgelu ble mae’ch plentyn yn byw, yn astudio, yn teithio ac yn treulio amser.
Defnyddir gwybodaeth eich plentyn i siapio hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, wrth rannu fideos, neu ar apiau gemio.
Gall rheolaethau rhieni gynnig rhywfaint o reolaeth ichi dros osodiadau lleoliadau, preifatrwydd a hysbysebion.