Neidio i’r prif gynnwys
Logo Byddwch yn effro i breifatrwydd

Rheolaethau rhieni

Oedolyn a phlentyn yn edrych ar laptop

Beth yw rheolaethau rhieni?

Mae gan y rhan fwyaf o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, rhannu fideo, a gemau symudol reolaethau rhieni.

Mae’r rhain yn caniatáu ichi:

  • diffodd y broses o rannu lleoliad;
  • gosod terfynau amser ar y llwyfan;
  • gwirio gweithgarwch eich plentyn;
  • cymeradwyo ceisiadau ffrindiau neu gysylltiadau eich hun; ac
  • atal nodweddion fel negeseuon, ffrydio byw, neu sylwadau.

Ydw i’n gallu rheoli rheolaethau rhieni?

Gall rheolaethau rhieni gynnig rhywfaint o reolaeth dros osodiadau lleoliadau, preifatrwydd a hysbysebu ond mae bob amser yn werth gwirio’r gosodiadau hyn ar wahân hefyd ar gyfer unrhyw gêm, ap neu ddyfais newydd y bydd eich plentyn yn eu defnyddio.

Gallwch hefyd osod rheolaethau rhieni ar eich band eang, eich consol gemau, eich ffôn symudol a’ch dyfeisiau eraill.

Mae rheolaethau rhieni yn aml wedi’u lleoli yn ‘Settings’, o dan adrannau fel ‘Family’, ‘Privacy’, neu ‘Parental controls’.

Mae rhai llwyfannau yn ei gwneud yn ofynnol i rieni greu cyfrif rhiant ar wahân neu ddefnyddio apiau rheolaeth deuluol trydydd parti fel Apple Screen Time neu Google Family Link.

Sut mae sefydlu gosodiadau dyfais?

Ble i fynd nesaf

Gosodiadau preifatrwydd

Dewiswch pa wybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu a’i rhannu neu sy’n weladwy i bobl eraill pan fydd eich plentyn ar-lein.

Gosodiadau lleoliadau

Gall data am leoliadau ddatgelu ble mae’ch plentyn yn byw, yn astudio, yn teithio ac yn treulio amser.

Gosodiadau hysbysebu

Defnyddir gwybodaeth eich plentyn i siapio hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, wrth rannu fideos, neu ar apiau gemio.