Rheolaethau rhieni
Gall rheolaethau rhieni gynnig rhywfaint o reolaeth ichi dros osodiadau lleoliadau, preifatrwydd a hysbysebion.
Gall popeth a wnawn ni ar-lein adael ychydig o ôl troed digidol. Yn aml, dyw plant ddim yn sylweddoli y gall cwmnïau gasglu a defnyddio’u gwybodaeth bersonol i adeiladu proffil amdanyn nhw a siapio’r hysbysebion maen nhw’n eu gweld ar-lein.
Fe allai’r broses o gasglu data:
Mae gan y rhan fwyaf o apiau, gwefannau neu gemau symudol osodiadau hysbysebu, cwcis neu osodiadau marchnata yn eu dewislen ‘Settings’ neu ‘Account’.
Mae’r gosodiadau hyn yn rheoli:
Anogwch eich plentyn i fod yn wyliadwrus ynglŷn â cheisiadau am hysbysebion, cwcis neu farchnata ‘wedi’u personoli’ neu ‘wedi’u targedu’ pan fyddan nhw’n cyrchu ap, gwefan neu gêm symudol newydd. Ar ddyfeisiau Apple, mae gosodiad ‘Tracking’ ar lefel y system hefyd, ac mae gan ddyfeisiau Android ‘Opt out of ads personalisation’.
Gall rheolaethau rhieni gynnig rhywfaint o reolaeth ichi dros osodiadau lleoliadau, preifatrwydd a hysbysebion.
Dewiswch pa wybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu a’i rhannu neu sy’n weladwy i bobl eraill pan fydd eich plentyn ar-lein.
Gall data am leoliadau ddatgelu ble mae’ch plentyn yn byw, yn astudio, yn teithio ac yn treulio amser.