Neidio i’r prif gynnwys
Logo Byddwch yn effro i breifatrwydd

Pecyn cymorth ymgyrch ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’

Mae'r pecyn cymorth yma yn cynnwys deunyddiau cyfathrebu sy’n barod i'w defnyddio ac y gall y sefydliadau partner eu copïo a'u cludo'n uniongyrchol i'w sianeli eu hunain.

Trosolwg o'r ymgyrch

Ynglŷn â'r ymgyrch

Mae ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ yn ymgyrch gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) i helpu rhieni a gofalwyr plant 4-11 oed i siarad â'u plant am breifatrwydd ar-lein.

Yn union fel y byddai rhieni’n siarad â'u plant am ddiogelwch ar y ffyrdd neu siarad â dieithriaid, mae preifatrwydd ar-lein yn sgil bywyd arall sydd ei angen ar blant wrth dyfu. Gall sgyrsiau bach, cyson helpu plant i ddeall beth yw gwybodaeth bersonol, sut mae'n cael ei defnyddio, a sut i wneud dewisiadau mwy diogel ar-lein.

Mae plant yn treulio mwy o amser ar-lein, yn aml yn defnyddio apiau, gemau a gwasanaethau sy'n casglu ac yn rhannu eu gwybodaeth bersonol yn dawel. Ar yr un pryd, mae rhieni a gofalwyr yn dweud wrthon ni eu bod nhw:

  • yn teimlo'n ansicr ble i ddechrau sgyrsiau am breifatrwydd ar-lein;
  • yn poeni am wneud pethau'n "anghywir" neu swnio'n rhy dechnegol; ac
  • yn jyglo llawer, a bod arnyn nhw angen cyngor syml, realistig.

Gall preifatrwydd ar-lein deimlo'n anweledig o'i gymharu â mathau eraill o niwed ar-lein eraill, ond mae'n siapio ôl troed digidol plant o oedran ifanc iawn. Mae helpu teuluoedd i siarad am breifatrwydd yn gynnar yn gallu ei gwneud hi'n haws i blant wneud dewisiadau gwybodus yn nes ymlaen.

Beth mae'r data yn ei ddweud wrthon ni

Mae’r ymchwil a’r ddirnadaeth y tu ôl i'r ymgyrch yn dangos:

  • bod 17% o blant 3-5 oed yn berchen ar ffôn clyfar a bod y mwyafrif o blant (79%) yn berchen ar ffôn clyfar erbyn 12 oed. 1
  • There’s an estimated 4.1m UK households with at least one child aged 4-11-year-old. 2
  • Online safety conversations begin early. 59% 3-5 year olds have discussed staying safe online with their parents or carers. This presents a strong opportunity to include online privacy. 3
  • Three quarters of parents (75%) are concerned about their child’s ability to make safe choices about online privacy, yet one in five (21%) have never talked to their child about it. 4
  • We found that most parents – even those who feel confident and informed – have significant gaps in their knowledge when it comes to online privacy. They may chat about harmful content, but they're not aware about the need to have conversations about privacy settings, location sharing, age settings, and other ways we share personal information online. 5

Sut i ddefnyddio'r pecyn cymorth yma

Mae'r pecyn cymorth yma yn cynnwys adnoddau sy’n barod i'w defnyddio i'ch helpu i gefnogi'r ymgyrch yn gyflym ac yn hyderus. Rydych chi’n gallu:

  • copïo a gludo negeseuon sydd wedi’u cymeradwyo;
  • dewis asedau sy'n cyd-fynd â'ch sianeli;
  • teilwra’r copi gan ddefnyddio'r llinellau lleol dewisol sydd wedi’u darparu; a
  • rhannu ar gyflymder sy'n gweithio i chi.

Os byddwch chi'n defnyddio'r pecyn cymorth, fe fydden ni’n wirioneddol ddiolchgar am gael eich adborth. Defnyddiwch y ffurflen adrodd fer i roi gwybod sut gallwn ni wella’n cymorth.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiynau, angen cefnogaeth, neu eisiau siarad am sut i ddefnyddio'r adnoddau yma yn eich lleoliad chi, anfonwch neges ebost at [email protected]

 


1 Ofcom, Children’s media use and attitudes report, 2025 

2 ONS, Estimated number of households containing at least one child aged 5 to 11 years UK:2019, 2020 

3 Ofcom, Children’s media use and attitudes report, 2025 

4 ICO, Survey of 1,000 parents of 4-11 year olds, February 2026

5 ICO, Depth interviews completed with parents as part of campaign planning, 2025