Adnoddau ymgyrchu ar gyfer elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau i deuluoedd
Mae'r teuluoedd maen nhw'n gweithio gyda nhw yn ymddiried mewn elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau ar gyfer teuluoedd. Mae llawer eisoes yn cefnogi rhieni ar bynciau fel diogelwch plant, llesiant a mynediad digidol. Mae'r ymgyrch yma yn rhoi ffordd syml ichi ymestyn y gefnogaeth yna i breifatrwydd ar-lein, sy'n faes lle mae llawer o rieni eisiau gwneud y peth iawn ond ddim yn siŵr ble i ddechrau.
Dyw tri chwarter y rhieni ddim yn credu bod eu plant yn gallu gwneud dewisiadau diogel ynghylch pa wybodaeth bersonol maen nhw'n ei rhannu ar-lein, ond dyw un o bob pump erioed wedi siarad â nhw am y peth. Mae eich sefydliad chi mewn sefyllfa dda i helpu i bontio'r bwlch hwnnw, boed hynny trwy gylchlythyr, sgwrs mewn sesiwn deuluol, neu neges mewn grŵp cymunedol.
Adnoddau
- Testun ar gyfer cylchlythyr
- Neges WhatsApp, neges destun neu ebost i rieni
- Testun ar gyfer mewnrwyd staff
- Blociau testun ar gyfer gwefan
- Pecyn delweddau digidol i wefan
- Pecyn delweddau i’r cyfryngau cymdeithasol
- Pecyn delweddau digidol i wefan
Testun ar gyfer cylchlythyr
Ydych chi'n effro i breifatrwydd ar-lein eich plentyn chi?
Bob tro y bydd plant yn defnyddio apiau, gemau neu wefannau, mae gwybodaeth yn cael ei chasglu amdanyn nhw – yn aml heb iddyn nhw sylweddoli. Gall hyn gynnwys eu lleoliad, eu harferion a hyd yn oed eu hwyliau. Mae'r rhan fwyaf o rieni eisiau helpu, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau bob amser yn hawdd.
Dyna pam mae [ENW'R SEFYDLIAD] yn rhannu ymgyrch Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’. Mae'n adnodd am ddim i rieni a gofalwyr plant 4-11 oed, gyda chyngor syml ar siarad am breifatrwydd ar-lein gartref. Mae wedi'i adeiladu o amgylch tri cham:
- Sgwrsio gyda'ch plentyn am breifatrwydd ar-lein.
- Pigo pa wybodaeth bersonol i'w rhannu.
- Gwirio y gosodiadau pryd bynnag y bydd eich plentyn yn defnyddio dyfais neu ap newydd.
Gall sgyrsiau bach nawr wneud gwahaniaeth mawr wrth i'ch plentyn dyfu.
Find free tips, videos and conversation starters at ico.org.uk/switched-on-to-privacy/?utm_source=toolkit&utm_medium=email&utm_campaign=sotp
Neges WhatsApp, neges destun neu ebost i rieni
Fersiwn fer (~50 gair)
Helo bawb, mae [ENW'R SEFYDLIAD] yn rhannu hyn oddi wrth yr ICO. Oeddech chi'n gwybod y gallai’ch plentyn fod yn rhannu gwybodaeth bersonol ar-lein heb sylweddoli? Mae gan eu hymgyrch nhw ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ dri cam hawdd i helpu: Sgwrsio, Pigo, Gwirio..
Free tips for parents: ico.org.uk/switched-on-to-privacy/?utm_source=toolkit&utm_medium=email&utm_campaign=sotp
Fersiwn ganolig (~110 gair)
Helo bawb, roedd [ENW'R SEFYDLIAD] eisiau pasio hyn ymlaen i deuluoedd.
Bob tro y bydd ein plant yn mynd ar-lein, mae’n bosib y byddan nhw’n rhannu gwybodaeth bersonol heb yn wybod – pethau fel eu lleoliad, eu harferion a hyd yn oed eu hwyliau.
Mae gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ymgyrch o'r enw ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ i rieni a gofalwyr plant 4-11 oed. Mae'n rhoi tri cham syml ichi ddechrau siarad am breifatrwydd ar-lein gartref:
✅ Sgwrsio gyda'ch plentyn am breifatrwydd ar-lein.
✅ Pigo pa wybodaeth bersonol i'w rhannu.
✅ Gwirio y gosodiadau pryd bynnag y bydd eich plentyn yn defnyddio dyfais neu ap newydd.
You don’t need to be a tech expert. Find tips and videos at: ico.org.uk/switched-on-to-privacy/?utm_source=toolkit&utm_medium=email&utm_campaign=sotp
Rhannwch gyda rhieni a gofalwyr eraill!
Testun ar gyfer mewnrwyd staff
Byddwch yn effro i breifatrwydd: helpu’r teuluoedd rydyn ni’n gweithio gyda nhw i siarad am breifatrwydd ar-lein
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi lansio ymgyrch genedlaethol o'r enw ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’, gyda'r nod o helpu rhieni a gofalwyr plant 4-11 oed i siarad am breifatrwydd ar-lein gartref.
Mae llawer o'r teuluoedd rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn llywio bywydau digidol eu plant heb fawr o arweiniad. Mae ymchwil gan yr ICO yn dangos nad yw tri chwarter y rhieni yn credu bod eu plant yn gallu gwneud dewisiadau diogel ynghylch pa wybodaeth bersonol maen nhw'n ei rhannu ar-lein, ond dyw un o bob pump erioed wedi siarad â nhw am y peth.
Fel sefydliad dibynadwy ym mywydau teuluoedd, gall [ENW'R SEFYDLIAD] chwarae rhan werthfawr wrth helpu i gau'r bwlch hwnnw – nid trwy ddod yn arbenigwyr mewn diogelu data, ond yn syml trwy gyfeirio teuluoedd at adnodd defnyddiol, am ddim.
Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar dri cham y gall rhieni eu cymryd gartref:
- Sgwrsio gyda'ch plentyn am breifatrwydd ar-lein.
- Pigo pa wybodaeth bersonol i'w rhannu.
- Gwirio y gosodiadau pryd bynnag y bydd eich plentyn yn defnyddio dyfais neu ap newydd.
Sut gallwch chithau helpu:
- Rhannwch yr ymgyrch gyda theuluoedd trwy’ch cylchlythyrau, eich cyfryngau cymdeithasol neu’ch grwpiau cymunedol.
- Soniwch am yr ymgyrch mewn sgyrsiau gyda rhieni yn ystod ymweliadau cartref, sesiynau galw heibio neu weithgareddau teuluol.
- Dangoswch ddolen yr ymgyrch ar hysbysfyrddau mewn canolfannau cymunedol, canolfannau teuluol neu fannau aros.
- Cynhwyswch yr ymgyrch mewn unrhyw raglenni cynhwysiant digidol, rhaglenni diogelwch ar-lein neu raglenni llesiant teuluol rydych chi'n eu rhedeg.
The campaign hub is at ico.org.uk/switched-on-to-privacy/?utm_source=toolkit&utm_medium=internal&utm_campaign=sotp - it includes free tips, short videos and downloadable conversation checklist that parents can use straight away.
Blociau testun ar gyfer gwefan
Byddwch yn effro i breifatrwydd
Mae'r rhyngrwyd yn lle anhygoel i blant ddysgu, chwarae a chysylltu – ond bob tro y byddan nhw'n mynd ar-lein, mae’n bosib eu bod yn rhannu gwybodaeth bersonol heb sylweddoli hynny.
Mae [ENW'R SEFYDLIAD] yn cefnogi ymgyrch yr ICO ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’, sy'n helpu rhieni a gofalwyr plant 4-11 oed i siarad am breifatrwydd ar-lein gartref gan ddefnyddio tri cham syml: Sgwrsio, Pigo, Gwirio..
Visit ico.org.uk/switched-on-to-privacy/?utm_source=toolkit&utm_medium=Website&utm_campaign=sotp for free tips, short videos and conversation checklist you can use straight away.
Pecyn delweddau digidol i wefan
Helpu rhieni i fod yn effro i breifatrwydd ar-lein eu plentyn
Beth yw hyn?
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi lansio ymgyrch o'r enw ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’. Mae'n helpu rhieni a gofalwyr plant 4-11 oed i ddechrau sgyrsiau syml, rheolaidd am breifatrwydd ar-lein gartref.
Pam mae'n bwysig?
Bob tro y bydd plant yn mynd ar-lein – gan ddefnyddio apiau, gemau neu wefannau – mae data amdanyn nhw’n cael ei gasglu, yn aml heb yn wybod iddyn nhw. Gall hyn gynnwys eu lleoliad, eu harferion pori, eu ffrindiau a hyd yn oed eu hwyliau nhw. Dyw tri chwarter y rhieni ddim yn credu bod eu plant yn gallu gwneud dewisiadau diogel ynghylch pa wybodaeth bersonol maen nhw'n ei rhannu ar-lein, ond dyw un o bob pump erioed wedi siarad â nhw am y peth.
Efallai nad yw llawer o'r teuluoedd rydych chi'n gweithio gyda nhw wedi cael y cyfle na'r hyder i ddechrau'r sgyrsiau hyn. Gall sylw syml gan rywun maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw wneud gwahaniaeth go iawn.
Beth gall rhieni ei wneud?
Mae'r ymgyrch yn rhoi tri cham syml i rieni:
- Sgwrsio gyda'ch plentyn am breifatrwydd ar-lein.
- Pigo pa wybodaeth bersonol i'w rhannu.
- Gwirio y gosodiadau pryd bynnag y bydd eich plentyn yn defnyddio dyfais neu ap newydd.
Beth galla i ei ddweud wrth deuluoedd?
Dyma tri awgrym o ran ffyrdd i godi hyn yn naturiol:
- Yn ystod ymweliad cartref, sesiwn galw heibio neu weithgaredd teuluol: "Ydych chi wedi dod ar draws yr ymgyrch ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’? Mae'n dod o'r ICO ac mae yna awgrymiadau syml, ymarferol ar gyfer sgwrsio â'ch plant am yr hyn maen nhw'n ei rannu ar-lein. Mae'n rhad ac am ddim a does angen ichi fod yn arbenigydd technoleg. Gallwch chi weld yr ymgyrch yn ico.org.uk/SwitchedOn.”
- Mewn sgwrs gyflym neu anffurfiol: "Mae yna wefan am ddim ddefnyddiol gydag awgrymiadau ar siarad â phlant am breifatrwydd ar-lein – mae'n cael ei galw'n ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ yn ico.org.uk/SwitchedOn. Efallai y byddai'n werth edrych arni os yw'ch plant chi’n defnyddio apiau neu gemau."
- Os bydd rhiant yn codi pryderon am weithgaredd ar-lein eu plentyn: "Mae hynny'n bryder cyffredin iawn. Mae yna adnodd am ddim gan yr ICO o'r enw ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ a allai helpu. Mae'n rhoi tri cham syml ichi ar gyfer siarad â'ch plentyn am yr hyn maen nhw'n ei rannu ar-lein. Mae yn ico.org.uk/SwitchedOn. Galla i sgrifennu hynny i lawr ichi os yw hynny'n ddefnyddiol."
Pwynt allweddol: Dylai'r tôn bob amser fod yn gefnogol ac yn galonogol. Mae hyn yn ymwneud â grymuso teuluoedd i adeiladu arferion ar-lein clyfar gyda'i gilydd – nid dweud wrth rieni eu bod nhw’n gwneud rhywbeth o'i le. Gofalwch fynd at y teuluoedd lle maen nhw ac addasu'r neges i'r hyn sy'n teimlo'n naturiol ar gyfer y sgwrs.
Pecyn delweddau i’r cyfryngau cymdeithasol
Fersiwn fer (250 o nodau)
Mae llawer o deuluoedd eisoes yn siarad am gadw'n ddiogel ar-lein a gall preifatrwydd ar-lein fod yn rhan o hynny hefyd.
Mae ymgyrch yr ICO ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ yn rhannu awgrymiadau syml, bob dydd i rieni plant 4-11 oed.
👉 ico.org.uk/switched-on-to-privacy/?utm_source=toolkit&utm_medium=social&utm_campaign=sotp
Fersiwn canolig (600 o nodau)
Bob tro y bydd plant yn mynd ar-lein, mae’n bosib y byddan nhw’n rhannu gwybodaeth bersonol fel eu lleoliad neu eu harferion heb yn wybod. Mae llawer o rieni eisiau helpu, ond dydyn nhw ddim bob amser yn teimlo'n hyderus wrth ddechrau'r sgyrsiau yma.
Dyna pam y creodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’. Mae'n ymgyrch am ddim i rieni a gofalwyr plant 4–11 oed, wedi'i hadeiladu o amgylch tri cham syml: Sgwrsio, Pigo, Gwirio.
Mae'n ymarferol, yn cynnig sicrwydd ac yn hawdd ei ffitio i fywyd bob dydd.
Find free tips and short videos at 👉ico.org.uk/switched-on-to-privacy/?utm_source=toolkit&utm_medium=social&utm_campaign=sotp
Pecyn delweddau digidol i wefan
Gallwch lawrlwytho delweddau a fideos ac yna eu huwchlwytho i'ch sianeli yn y cyfryngau cymdeithasol. Cynhwyswch destun amgen gyda delweddau i helpu hygyrchedd.
Gofalwch ein tagio ni ar ein sianeli ni yn y cyfryngau cymdeithasol: Facebook, Instagram, LinkedIn, TikTok, X.