Adnoddau ymgyrchu i ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar a sefydliadau addysg
Mae ysgolion eisoes yn addysgu plant am ddiogelwch ar-lein fel rhan o'r cwricwlwm. Mae'r ymgyrch yma yn ymestyn y gwaith hwnnw i'r cartref trwy roi offer syml, ymarferol i rieni a gofalwyr gael sgyrsiau cyson am breifatrwydd ar-lein gyda'u plant.
Dyw tri chwarter y rhieni ddim yn credu bod eu plant yn gallu gwneud dewisiadau diogel ynghylch pa wybodaeth bersonol maen nhw'n ei rhannu ar-lein, ond dyw un o bob pump erioed wedi siarad â nhw am y peth. Mae ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar mewn sefyllfa unigryw i bontio'r bwlch yma gan fod rhieni yn ymddiried ynoch chi, a bod gennych chi eisoes y sianeli cyfathrebu i gyrraedd teuluoedd.
Adnoddau
- Testun ar gyfer cylchlythyr ysgol
- Neges WhatsApp, neges destun neu ebost i rieni
- Testun ar gyfer mewnrwyd staff
- Blociau testun ar gyfer gwefan ysgol
- Sgript briffio ar gyfer athrawon a staff rheng flaen
- Pecyn delweddau i’r cyfryngau cymdeithasol
- Pecyn delweddau digidol i wefan
- Peerscroller resource pack
Testun ar gyfer cylchlythyr ysgol
Ydych chi'n effro i breifatrwydd ar-lein eich plentyn chi?
Yn [ENW'R YSGOL], rydyn ni’n dysgu’r plant am gadw'n ddiogel ar-lein fel rhan o'n cwricwlwm. Ond dyw diogelwch ar-lein ddim yn stopio wrth glwyd yr ysgol. Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr i blentyn 4-11 oed, mae yna ymgyrch newydd a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w diogelwch nhw ar-lein.
Bob tro y bydd plant yn defnyddio apiau, gemau neu wefannau, mae gwybodaeth yn cael ei chasglu amdanyn nhw – a hynny heb iddyn nhw sylweddoli yn aml. Gall hyn gynnwys eu lleoliad, eu harferion a hyd yn oed eu hwyliau nhw.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi lansio ymgyrch am ddim o'r enw ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ i helpu rhieni a gofalwyr plant 4–11 oed i ddechrau'r sgyrsiau yma. Mae’r ymgyrch wedi'i hadeiladu o amgylch tri cham syml:
- Sgwrsio gyda'ch plentyn am breifatrwydd ar-lein.
- Pigo pa wybodaeth bersonol i'w rhannu.
- Gwirio y gosodiadau pryd bynnag y bydd eich plentyn yn defnyddio dyfais neu ap newydd.
Yn union fel rydyn ni'n dysgu plant i groesi'r ffordd yn ddiogel, gallwn eu helpu nhw i adeiladu arferion clyfar ar-lein. Gall sgyrsiau bach nawr wneud gwahaniaeth mawr wrth i'ch plentyn dyfu.
Find free tips, videos and conversation starters at ico.org.uk/switched-on-to-privacy/?utm_source=toolkit&utm_medium=email&utm_campaign=sotp.
Neges WhatsApp, neges destun neu ebost i rieni
Fersiwn fer (~50 gair)
Helo bawb, mae [ENW'R YSGOL] yn rhannu hyn oddi wrth yr ICO. Oeddech chi'n gwybod y gallai’ch plentyn fod yn rhannu gwybodaeth bersonol ar-lein heb sylweddoli? Mae gan eu hymgyrch nhw ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ dri cham hawdd i helpu: Sgwrsio, Pigo, Gwirio.
Free tips for parents: ico.org.uk/switched-on-to-privacy/?utm_source=toolkit&utm_medium=email&utm_campaign=sotp
Fersiwn ganolig (~150 gair)
Helo bawb, roedd [ENW'R YSGOL] eisiau rhannu hyn gyda'r holl rieni a gofalwyr.
Bob tro y bydd ein plant yn mynd ar-lein, mae’n bosib eu bod nhw’n rhannu gwybodaeth bersonol heb yn wybod – pethau fel eu lleoliad, eu harferion a hyd yn oed eu hwyliau. Mae'r plant yn dysgu am ddiogelwch ar-lein yn yr ysgol, ond mae'n help mawr pan fyddwn ni’n siarad amdano gartref hefyd.
Mae gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ymgyrch am ddim o'r enw ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ i rieni plant 4–11 oed. Mae'n rhoi tri cham syml ichi:
✅ ✅ Sgwrsio gyda'ch plentyn am breifatrwydd ar-lein.
✅ Pigo pa wybodaeth bersonol i'w rhannu.
✅ Gwirio y gosodiadau pryd bynnag y bydd eich plentyn yn defnyddio dyfais neu ap newydd.
You don’t need to be a tech expert. Find tips and videos at: ico.org.uk/switched-on-to-privacy/?utm_source=toolkit&utm_medium=email&utm_campaign=sotp
Rhannwch gyda rhieni a gofalwyr eraill!
Testun ar gyfer mewnrwyd staff
Byddwch yn effro i breifatrwydd: sut gallwn ni helpu teuluoedd i siarad am breifatrwydd ar-lein
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi lansio ymgyrch genedlaethol o'r enw ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’, gyda'r nod o helpu rhieni a gofalwyr plant 4-11 oed i siarad am breifatrwydd ar-lein gartref.
Rydyn ni’n gwybod bod addysg diogelwch ar-lein eisoes wedi'i hymgorffori yn ein cwricwlwm. Mae'r ymgyrch yma yn adeiladu ar y gwaith hwnnw trwy roi offer syml, ymarferol i deuluoedd barhau â'r sgyrsiau yma y tu allan i'r ysgol. Mae ymchwil gan yr ICO yn dangos nad yw tri chwarter y rhieni yn credu bod eu plant yn gallu gwneud dewisiadau diogel ynghylch pa wybodaeth bersonol maen nhw'n ei rhannu ar-lein, ond nad yw un o bob pump erioed wedi siarad â nhw am y peth. Fel addysgwyr, rydyn ni mewn sefyllfa gref i helpu i bontio'r bwlch yma.
Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar dri cham y gall rhieni eu cymryd gartref:
- Sgwrsio gyda'ch plentyn am breifatrwydd ar-lein.
- Pigo pa wybodaeth bersonol i'w rhannu.
- Gwirio y gosodiadau pryd bynnag y bydd eich plentyn yn defnyddio dyfais neu ap newydd.
Sut gallwch chithau helpu:
- Rhannwch yr ymgyrch gyda rhieni drwy gylchlythyrau, ebost, hysbysfyrddau neu nosweithiau rhieni.
- Soniwch amdani yn ystod sgyrsiau gyda rhieni wrth gasglu neu ollwng y plant neu wrth ymgynghori â rhieni.
- Defnyddiwch yr ymgyrch i ategu’ch gwersi diogelwch ar-lein eich hun – anogwch y plant i siarad â'u teuluoedd hefyd.
Ystyriwch yr ymgyrch fel cyfeiriad defnyddiol mewn diweddariadau ynglŷn â diogelu neu mewn cyfarfodydd staff.
The campaign hub is at ico.org.uk/switched-on-to-privacy/?utm_source=toolkit&utm_medium=internal&utm_campaign=sotp - it includes free tips, short videos and downloadable conversation checklist that parents can use straight away.
Blociau testun ar gyfer gwefan ysgol
Byddwch yn effro i breifatrwydd
Yn [ENW'R YSGOL], rydyn ni’n dysgu’r plant am gadw'n ddiogel ar-lein. Ond mae preifatrwydd ar-lein yn sgil bywyd sydd angen ei ymarfer gartref hefyd.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi lansio ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ – ymgyrch i helpu rhieni a gofalwyr plant 4-11 oed i ddechrau sgyrsiau syml am breifatrwydd ar-lein gan ddefnyddio tri cham: Sgwrsio, Pigo, Gwirio.
Visit ico.org.uk/switched-on-to-privacy/?utm_source=toolkit&utm_medium=Website&utm_campaign=sotp for free tips, short videos and conversation checklist you can use straight away.
Sgript briffio ar gyfer athrawon a staff rheng flaen
Helpu rhieni i fod yn effro i breifatrwydd ar-lein eu plentyn
Beth yw hyn?
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi lansio ymgyrch o'r enw ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’. Mae'n helpu rhieni a gofalwyr plant 4-11 oed i ddechrau sgyrsiau syml, cyson am breifatrwydd ar-lein gartref, gan adeiladu ar yr hyn rydyn ni eisoes yn ei ddysgu yn yr ysgol.
Pam mae'n bwysig?
Bob tro y bydd plant yn mynd ar-lein – gan ddefnyddio apiau, gemau neu wefannau – mae data amdanyn nhw’n cael ei gasglu, yn aml heb yn wybod iddyn nhw. Gall hyn gynnwys eu lleoliad, eu harferion pori, eu ffrindiau a hyd yn oed eu hwyliau. Mae ymchwil gan yr ICO yn dangos nad yw tri chwarter y rhieni yn credu bod eu plant yn gallu gwneud dewisiadau diogel ynghylch pa wybodaeth bersonol maen nhw'n ei rhannu ar-lein, ond dyw un o bob pump erioed wedi siarad â nhw am y peth.
Beth gall rhieni ei wneud?
Mae'r ymgyrch yn rhoi tri cham syml i rieni:
- Sgwrsio gyda'ch plentyn am breifatrwydd ar-lein.
- Pigo pa wybodaeth bersonol i'w rhannu.
- Gwirio y gosodiadau pryd bynnag y bydd eich plentyn yn defnyddio dyfais neu ap newydd.
Beth galla i ei ddweud wrth rieni?
Dyma ddau awgrym o ran ffyrdd i godi hyn yn naturiol:
- Ar noson rieni neu yn ystod ymgynghoriad rhieni: "Efallai y bydd hyn o gymorth ichi – mae gan yr ICO ymgyrch o'r enw ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ gydag awgrymiadau syml iawn ar siarad â phlant am breifatrwydd ar-lein gartref. Mae'n cysylltu'n dda â'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn yr ysgol. Gallwch chi gael gafael arno yn ico.org.uk/SwitchedOn.”
- • Wrth godi a gollwng plant neu mewn sgwrs gyflym: "Ydych chi wedi gweld yr ymgyrch ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’? Mae yna awgrymiadau defnyddiol ar sgwrsio â'r plant am yr hyn maen nhw'n ei rannu ar-lein. Mae'r ymgyrch yn ico.org.uk/SwitchedOn – mae’n werth edrych arni."
Pwynt allweddol: Dylai'r tôn bob amser fod yn gefnogol ac yn galonogol. Mae hyn yn ymwneud â grymuso teuluoedd i adeiladu arferion ar-lein clyfar gyda'i gilydd, nid dweud wrth rieni eu bod nhw’n gwneud rhywbeth o'i le.
Pecyn delweddau i’r cyfryngau cymdeithasol
Fersiwn fer (240 o nodau)
Oeddech chi'n gwybod y gallai’ch plentyn fod yn rhannu gwybodaeth bersonol ar-lein heb sylweddoli? Mae ymgyrch yr ICO ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ yn helpu rhieni plant 4-11 oed i ddechrau sgyrsiau syml gartref.
👉 ico.org.uk/switched-on-to-privacy/?utm_source=toolkit&utm_medium=social&utm_campaign=sotp
Fersiwn hir (519 o nodau)
Yn yr ysgol, mae plant yn dysgu sut i gadw'n ddiogel ar-lein. Ond mae preifatrwydd ar-lein yn sgil bywyd y gallwch chithau siarad amdano gartref hefyd.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi lansio ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ – ymgyrch am ddim i helpu rhieni a gofalwyr plant 4-11 oed i siarad am ba wybodaeth bersonol y mae plant yn ei rhannu ar-lein.
Mae wedi'i adeiladu o amgylch tri cham syml: Sgwrsio, Pigo, Gwirio..
Find tips, short videos and conversation starters at 👉 ico.org.uk/switched-on-to-privacy/?utm_source=toolkit&utm_medium=social&utm_campaign=sotp
Pecyn delweddau digidol i wefan
Gallwch lawrlwytho delweddau a fideos ac yna eu huwchlwytho i'ch sianeli yn y cyfryngau cymdeithasol. Cynhwyswch destun amgen gyda delweddau i helpu hygyrchedd.
Gofalwch ein tagio ni ar ein sianeli ni yn y cyfryngau cymdeithasol: Facebook, Instagram, LinkedIn, TikTok, X.
Lawrlwytho'r ffeil zip o ddelweddau - Saesneg
Lawrlwytho'r ffeil zip o ddelweddau - Cymraeg
Peerscroller resource pack
Peerscroller has worked in collaboration with the Information Commissioner’s Office to produce a Switched on to privacy resource pack for schools, parents and carers. The pack includes a series of bitesize explainer videos developed by young people for parents, carers and educators to watch alongside children aged 4-11 years.