Sut i sgwrsio â’ch plentyn
Cyngor ar sut i ddechrau sgwrs ar breifatrwydd ar-lein gyda dim ond tri cham syml.
Mae preifatrwydd ar-lein yn golygu bod gan bobl y gallu i reoli a dewis pa wybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu, ei defnyddio a’i rhannu pan fyddan nhw ar-lein.
Gall y rhyngrwyd fod yn lle anhygoel i blant ddysgu, chwarae a chysylltu ond rydyn ni hefyd am iddyn nhw wybod sut i gadw’n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys gwybod sut i ddiogelu eu gwybodaeth bersonol a chymryd rheolaeth dros eu hôl troed digidol.
Mae gwybodaeth bersonol yn cynnwys eu henw, eu hoedran, a ble maen nhw’n byw. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth lai amlwg fel eu hanes pori, pethau maen nhw wedi’u prynu, eu lluniau, eu nodiadau llais a’u cyfryngau cymdeithasol neu eu gweithgareddau gemio.
Pan fydd eich plentyn yn defnyddio gwefannau, apiau neu gemau ar ffonau symudol, mae gwybodaeth yn cael ei chasglu am eu diddordebau, eu harferion, a hyd yn oed eu lleoliad. Os byddan nhw’n clicio ar ‘like’, ‘accept’, neu ‘sign up’, efallai y byddan nhw’n datgelu mwy o wybodaeth amdanyn nhw eu hunain nag y maen nhw’n sylweddoli. Gall hyn gynnwys pethau fel eu hwyliau, eu ffrindiau, a hyd yn oed yr amser maen nhw’n deffro ac yn mynd i’r gwely.
Ac nid cwmnïau yn unig sydd wrthi. Weithiau gall pobl eraill ddefnyddio gwybodaeth bersonol eich plentyn heb yn wybod ichi. Er enghraifft, gall pobl ddefnyddio’r wybodaeth rydyn ni’n ei rhannu yn ein proffiliau yn y cyfryngau cymdeithasol i weithio allan ein cyfrineiriau neu hyd yn oed ddarganfod ble rydyn ni’n byw.
Hyd yn oed os ydych chi’n rheoli’r hyn y bydd eich plentyn yn ei weld a’i wneud ar-lein, mae’n dal yn bwysig eu bod nhw’n dysgu’r sgiliau i wneud dewisiadau craff am eu preifatrwydd ar gyfer y dyfodol.
Mae helpu’ch plentyn gyda phreifatrwydd ar-lein yn dechrau gyda’n rhestr wirio syml mewn tri cham
Cyngor ar sut i ddechrau sgwrs ar breifatrwydd ar-lein gyda dim ond tri cham syml.
Rydyn ni yma i’ch helpu i ddeall y camau nesaf, ac ai cwyno i’r ICO yw’r cam cywir i chi.