Neidio i’r prif gynnwys
Logo Byddwch yn effro i breifatrwydd

Gwaith yr ICO ar amddiffyn plant ar-lein

Mae plant yn tyfu mewn byd digidol nad yw wedi’i adeiladu ar eu cyfer. Fel rheoleiddiwr diogelu data’r Deyrnas Unedig, mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn gweithio i newid hynny trwy sicrhau bod pobl ifanc yn gallu archwilio, dysgu a chwarae ar-lein heb aberthu eu preifatrwydd na’u diogelwch. 

Mae ein cod Plant yn gosod safonau ar sut mae’n rhaid i wasanaethau ar-lein drin data pobl ifanc. Rydyn ni eisoes wedi creu effaith wirioneddol trwy wthio cwmnïau i newid eu harferion, ac fe allai’n gwaith ni wella preifatrwydd ar-lein i hyd at 11.7 miliwn o blant. 

Pan fydd cwmnïau’n methu, rydyn ni’n gweithredu: anfonodd ein dirwyon yn erbyn Reddit, MediaLab a TikTok neges glir nad yw amddiffyn preifatrwydd plant yn agored i’w drafod. 

Mae gorfodi ac ymgysylltu yn offer rheoleiddio hanfodol, ond dim ond un rhan o’n cenhadaeth ehangach yw lleihau risgiau systemig ar-lein a chynnal hawliau plant. Rydyn ni hefyd yn cydnabod bod diogelwch ar-lein yn gofyn am ddull cymdeithas gyfan, gan gynnwys teuluoedd wedi’u grymuso a phlant sy’n hyderus yn ddigidol.

Dyna pam y lansion ni’r ymgyrch ‘Byddwch yn effro i breifatrwydd’ i helpu rhieni i adeiladu sgiliau bywyd digidol eu plant trwy gael sgyrsiau cyson, hyderus am breifatrwydd ar-lein. Trwy ymgorffori preifatrwydd ar-lein o fewn llythrennedd digidol o’r cychwyn cyntaf, gallwn sicrhau bod pob plentyn yn tyfu i fyny yn gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch pa wybodaeth bersonol maen nhw’n ei rhannu ar-lein.