Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Mae mwy a mwy o bobl yn cynnal eu materion personol ar-lein. Erbyn hyn, mae siopa, rhwydweithio cymdeithasol, chwilio am swyddi ar-lein a'r gallu i wneud pethau swyddogol, fel adnewyddu treth car neu gysylltu â chynghorau lleol ac adrannau'r llywodraeth ar-lein, yn rhan o fywyd bob dydd. Mae gwneud pethau ar-lein yn gallu bod yn gyfleus ac ehangu cyfleoedd, ac yn gyffredinol mae pobl yn ei werthfawrogi.

Mae gan sefydliadau sy'n casglu ac yn defnyddio’ch gwybodaeth gyfrifoldeb i'w diogelu. Er hynny, gallwch chithau gymryd gofalon amrywiol i'ch amddiffyn eich hun rhag twyll hunaniaeth neu gamddefnyddio’ch gwybodaeth, neu i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei barchu yn y ffordd y byddech chi’n dymuno.

Sut mae diogelu fy ngwybodaeth bersonol ar-lein?

Wrth wneud unrhyw drafodiad ar-lein, gallwch gymryd camau i ddiogelu’ch gwybodaeth bersonol. Defnyddiwch yr un synnwyr cyffredin ag y byddech chi pan fydd rhywun yn gofyn am wybodaeth bersonol ar bapur neu wyneb yn wyneb. Gofynnwch i chi'ch hun:

  • Pwy sy'n casglu'r wybodaeth?
  • Beth fydd yn cael ei wneud â’r wybodaeth?
  • Ydy’r wybodaeth yn angenrheidiol?
  • Beth yw'r canlyniadau i mi?

Gwiriwch hysbysiad preifatrwydd gwefan i weld beth mae'n bwriadu ei wneud â'ch gwybodaeth. Dylai hysbysiad preifatrwydd, sydd weithiau'n cael ei alw’n bolisi preifatrwydd neu ddatganiad preifatrwydd, ddweud pwy sy'n casglu’ch gwybodaeth, at beth y bydd yn cael ei defnyddio, ac a fydd yn cael ei rhannu gyda sefydliadau eraill. Mae’n bosibl y bydd yr wybodaeth yma yn cael ei darparu hefyd pan ofynnir ichi roi data personol trwy gyfrwng blwch naid neu destun sy’n symud o gwmpas eich sgrin.

Os nad yw'r bwriad yn glir, gofynnwch i'r cwmni dan sylw am ragor o fanylion cyn ichi roi unrhyw ddata personol, yn enwedig os yw'n sensitif. Efallai y bydd cwmnïau am ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol i anfon deunydd marchnata atoch neu i drosglwyddo’ch manylion i gwmnïau eraill at ddibenion marchnata. Fe ddylen nhw roi cyfle ichi optio i mewn neu allan o’r deunydd marchnata yma.

Sut mae amddiffyn fy hunaniaeth ar-lein?

Byddwch yn ofalus wrth roi’ch gwybodaeth bersonol ar-lein. Yn benodol, peidiwch â threfnu bod gormod o wybodaeth bersonol ar gael i lawer o bobl, er enghraifft drwy fod â mynediad agored ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol. Gall eich gwybodaeth bersonol gael ei defnyddio i ddwyn eich hunaniaeth a chyflawni twyll. Byddwch yn wyliadwrus os bydd unrhyw un yn gofyn am eich manylion banc neu’ch manylion cerdyn credyd, ac wrth ichi siopa ar-lein defnyddiwch wefannau diogel yn unig – mae gwefannau diogel fel arfer yn dangos symbol clo clap gwyrdd yn y bar cyfeiriad. Er hynny, nid yw hyn ar ei ben ei hun yn warant eich bod chi’n ymweld â'r wefan rydych chi'n credu eich bod chi arni: gofalwch mai'r cyfeiriad ar gyfer y wefan yw'r un y byddech chi'n disgwyl ei weld hefyd.

Byddwch yn ofalus pan fyddwch chi’n rhoi:

  • Eich enw
  • Eich cyfeiriad llawn
  • Eich dyddiad geni
  • Eich rhif ffôn
  • Eich rhif yswiriant gwladol
  • Eich ysgol/gweithle
  • Eich man geni
  • Eich cyfeiriadau blaenorol
  • Manylion eich cyfrif banc neu eich cardiau talu
  • Gwybodaeth am eich cyfrifon

Wrth ddewis cyfrinair, peidiwch â defnyddio dewisiadau amlwg fel enw morwynol eich mam, enw plentyn, enw anifail anwes, neu gyfeiriadau eraill y gallai rhywun eu darganfod trwy gyfrwng gwybodaeth rydych chi wedi'i phostio rywle arall. Ceisiwch ddefnyddio cymysgedd ar hap o rifau a llythrennau. Defnyddiwch gyfrineiriau gwahanol ar gyfer gwefannau gwahanol.

Beth yw sgamiau ar-lein a sut mae osgoi’r rhain?

Mae nifer o sgamiau ar waith i'ch cael chi i roi manylion personol, gan gynnwys manylion eich cyfrif banc neu’ch cerdyn credyd, ar gyfer twyll. Mae gwe-rwydo yn sgam sydd wedi’i seilio ar ebost yn bennaf ac sy'n eich hudo drwy gyfrwng esgus ffug i wefannau sy'n edrych yn gyfreithlon er mwyn eich cael chi i roi gwybodaeth bersonol. Mae'n ymddangos fel pe bai’r negeseuon ebost hyn yn dod o ffynonellau adnabyddadwy fel banciau, ond mewn gwirionedd maen nhw’n cysylltu â gwefannau twyllodrus.

  • Os oes amheuaeth, peidiwch ag agor negeseuon ebost neu atodiadau.
  • Cyn ichi ddatgelu unrhyw wybodaeth bersonol ar-lein, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod gyda phwy rydych chi'n delio.
  • Byddwch yn amheus o unrhyw un sy'n gofyn am fanylion eich cerdyn credyd neu sy'n gofyn am eich cyfrinair.
  • Edrychwch yn ofalus ar gyfeiriad y sawl sydd wedi anfon y neges ebost cyn ei hagor, a pheidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni nac atodiadau ebost oni bai eich bod yn siŵr pwy yw’r anfonwr.
  • Gwiriwch fod y ddolen yn edrych yn gywir cyn ichi glicio arni - os ydych chi'n defnyddio gwebost mewn porwr, dylai hofran dros y ddolen gyda'ch cyrchwr adael ichi weld y ddolen wirioneddol yng nghornel chwith isaf eich porwr

Fel rheol, peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni mewn negeseuon ebost oni bai eich bod wedi gofyn am y neges - ewch i'r wefan mae’r neges yn gofyn ichi fynd iddi trwy ddefnyddio'ch dull arferol, e.e. teipio’r cyfeiriad i mewn â llaw, defnyddio nod tudalen neu ddefnyddio peiriant chwilio.

Alla i optio allan o hysbysebion a marchnata ar-lein?

Mae yna wahanol ffyrdd o hysbysebu i bobl ar-lein. Mae rhai yn cynnwys dangos yr un hysbysebion i bawb sy'n ymweld â gwefan benodol. Mae hysbysebu ymddygiadol ar-lein yn golygu dangos detholiad o hysbysebion i chi sydd wedi’u seilio ar wefannau rydych chi wedi ymweld â nhw o'r blaen, yn ogystal â’ch cydadwaith chi â sefydliadau, ar-lein ac all-lein. Nod y dull wedi'i dargedu yma yw sôn wrthoch chi am gynhyrchion neu wasanaethau y mae'n debygol y bydd gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw.

Mae sefydliadau a chwmnïau bob amser wedi defnyddio gwybodaeth am eu cwsmeriaid i farchnata nwyddau a gwasanaethau iddyn nhw. I rai pobl, bydd hyn yn nodwedd ddefnyddiol ar ddefnyddio'r rhyngrwyd sydd i’w chroesawu, yn enwedig wrth siopa ar-lein. Er hynny, dyw pobl eraill ddim yn hoffi'r dull yma a dydyn nhw ddim am i'w harferion prynu a phori gael eu defnyddio fel hyn.

Dylai gwefannau roi esboniadau clir ichi o'r hyn maen nhw'n ei gasglu am eich arferion pori, sut maen nhw'n defnyddio'r wybodaeth yma i ddangos hysbysebion ichi, a rhoi ffordd hawdd ichi optio allan o brosesu'ch data personol fel hyn. Mae'n bwysig nodi nad yw hyn yn golygu eich bod chi’n cael optio allan o’r hysbysebion sy’n cael eu dangos.

Fe ddylen nhw ddweud wrthoch chi pryd mae cwcis yn cael eu defnyddio a rhoi dewisiadau ichi o ran a ydych chi’n cytuno i'r defnydd hwn ai peidio.

Mae'r Swyddfa Hysbysebu ar y Rhyngrwyd yn darparu gwybodaeth am sut mae hysbysebu ymddygiadol ar-lein yn gweithio, ac yn rhoi dolenni i sawl sefydliad sy'n eich galluogi i optio allan o hysbysebion ymddygiadol.

Pa fesurau diogelwch alla i eu cymryd?

Bydd gan eich porwr rhyngrwyd – sef y feddalwedd rydych chi'n ei defnyddio i bori'r we, er enghraifft Microsoft Edge, Firefox, Chrome neu Safari – ddulliau sydd wedi’u hadeiladu i mewn iddo i helpu i ddiogelu’ch gwybodaeth bersonol. Cymerwch amser i ddysgu am y gosodiadau diogelwch a phreifatrwydd yn eich porwr. Mae rhai dulliau’n eich helpu i reoli faint o wybodaeth bersonol rydych chi'n ei rhoi ar-lein; mae eraill yn eich galluogi i ddileu manylion y gwefannau rydych chi wedi ymweld â nhw, neu chwiliadau rydych chi wedi'u gwneud, o'ch cyfrifiadur.

Dylech chi hefyd osod meddalwedd gwrthfeirws a meddalwedd diogelwch ddibynadwy y gallwch ymddiried ynddi, gan ddiweddaru’r feddalwedd yma yn gyson. Mewn rhai achosion, efallai y bydd meddalwedd o'r fath wedi'i hymgorffori yn system weithredu eich dyfais.

Beth dylwn i ei ystyried wrth rwydweithio’n gymdeithasol?

P'un a ydych chi'n defnyddio gwefan rhwydweithio cymdeithasol, gwefan detio ar-lein neu ond yn sgwrsio ar fwrdd negeseuon neu fforwm, mae'n debyg eich bod chi'n rhoi gwybodaeth bersonol ar-lein. Unwaith y bydd yr wybodaeth allan yna, allwch chi ddim rheoli beth sy'n digwydd iddi. Gall hyn greu risg i'ch preifatrwydd neu hyd yn oed i’ch diogelwch personol.

Felly cyn ichi greu proffil, postio llun neu ddweud wrth y byd ar-lein beth rydych chi'n ei wneud, meddyliwch sut i sicrhau eich bod chi'n ddiogel.

Wrth bostio gwybodaeth ar-lein mae'n werth meddwl hefyd pwy allai ei gweld hi ar wahân i'ch cynulleidfa arfaethedig - a fyddai'r pethau rydych chi'n eu hysgrifennu neu'r lluniau rydych chi'n eu postio yn creu embaras mewn bywyd go iawn? Sut fyddech chi'n teimlo pe bai’ch cyflogwr presennol neu’ch darpar gyflogwr yn gweld yr hyn sydd wedi’i bostio?

Mae'r mwyafrif o wefannau yn caniatáu ichi reoli pa mor gyhoeddus neu breifat yw’ch gwybodaeth chi – a’r enw ar y rheolaethau hyn fel arfer yw gosodiadau preifatrwydd. Er bod rhai gwefannau’n gosod y gosodiadau preifatrwydd yn awtomatig ar eu lefel fwyaf preifat, ar eraill fe allai’ch holl wybodaeth fod ar gael i unrhyw un oni bai eich bod chi’n newid y gosodiad preifatrwydd. Os nad ydych chi'n deall beth mae gosodiad preifatrwydd penodol yn ei olygu yn ymarferol, peidiwch â phostio dim gwybodaeth nes eich bod wedi cael gwybod.

Dyma ychydig o bethau y dylech eu hystyried cyn postio gwybodaeth neu ddelweddau ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol:

  • Ystyriwch sut y bydd y rhwydwaith cymdeithasol ei hun yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ac a ydych chi o’r farn bod hynny'n briodol.
  • Mynnwch wybod sut gall y gosodiadau preifatrwydd sy’n cael eu cynnig gyfyngu mynediad i'ch gwybodaeth bersonol.
  • Newidiwch eich gosodiadau preifatrwydd fel bod gwybodaeth am eich teulu a'ch plant yn cael ei rhannu gyda'r rhai rydych chi'n eu nabod yn dda yn unig.
  • Peidiwch â chynnwys gormod o wybodaeth bersonol a allai eich gwneud chi’n agored i dwyll hunaniaeth.
  • Meddyliwch yn ofalus cyn postio gwybodaeth - a fyddech chi eisiau i'ch cyflogwr neu’ch darpar gyflogwr weld y lluniau amheus yna?
  • Adolygwch eich gwybodaeth yn gyson - efallai na fydd yr hyn oedd yn edrych fel syniad da ar y pryd yn edrych fel syniad mor dda rai misoedd neu flynyddoedd wedyn.
  • Mynnwch gydsyniad pobl cyn uwchlwytho’u lluniau neu eu gwybodaeth bersonol.
  • Defnyddiwch gyfrineiriau a dulliau mewngofnodi cryf i atal eich cyfrif rhag cael ei gamddefnyddio.

Cofiwch nad oes rhaid i wefannau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ddilyn yr egwyddorion hyn, felly gwiriwch bolisi preifatrwydd y wefan bob amser.

Sut dylwn i ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol?

Dylai pob gwefan rhwydweithio cymdeithasol ddibynadwy fod â gosodiadau preifatrwydd clir a gweladwy. Fel arfer, gallwch gyrchu’r rhain o brif dudalen eich cyfrif, ynghyd ag opsiynau cyffredinol eraill. Gallwch addasu’r gosodiadau preifatrwydd i reoli pwy gaiff weld eich gwybodaeth, a faint y cân nhw ei weld.

Dyma rai awgrymiadau ar ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd:

  • Ystyriwch ddefnyddio'r gosodiadau preifatrwydd uchaf pan fyddwch chi'n creu'ch proffil yn gyntaf, yna eu haddasu'n raddol a chaniatáu nodweddion rhwydweithio dim ond pan fyddwch chi'n teimlo'n gyffyrddus. Fel hyn, fyddwch chi ddim yn gadael i wybodaeth fod ar gael oni bai eich bod chi wir eisiau gwneud hynny.
  • Meddyliwch am yr hyn rydych chi am ddefnyddio'ch proffil ar ei gyfer. Os ydych chi eisiau cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau agos yn unig, gosodwch eich proffil fel mai dim ond y bobl hynny all gael mynediad ato.
  • Gallwch sefydlu’ch proffil fel y gall pobl gael mynediad ato dim ond os ydych chi wedi’u cymeradwyo. Unwaith y byddwch chi’n derbyn rhywun fel ffrind, fe fyddan nhw’n gallu cael mynediad at yr holl wybodaeth a lluniau sydd gennych ar eich proffil. Gallwch chi bob amser dynnu ffrindiau neu ddilynwyr os byddwch chi'n newid eich meddwl, ond erbyn hynny efallai y byddan nhw eisoes wedi gweld eich manylion.
  • Ar rai gwefannau rhwydweithio cymdeithasol, bydd pobl nad ydyn nhw’n ffrindiau sydd wedi’u cymeradwyo yn dal yn gallu gweld rhai manylion ar eich proffil. Mae'n werth edrych ar yr hyn y gallan nhw ei weld. Er enghraifft, ar Facebook, gallwch ddewis gwneud pobl yn 'ffrindiau cyfyngedig', felly dim ond fersiwn cyfyngedig o'ch proffil fydd ganddyn nhw.
  • Os nad ydych chi’n deall sut i addasu’ch gosodiadau neu os ydych chi’n teimlo nad oes digon o opsiynau gennych chi, cysylltwch â gweinyddwr y wefan neu’r tîm gwasanaethau cwsmeriaid. Os ydych chi'n dal yn anfodlon, ystyriwch beidio â defnyddio'r wefan.

Sut galla i helpu fy mhlant i gadw'n ddiogel ar-lein?

Mae plant yn defnyddio'r rhyngrwyd yn gyson ac mae’n bosibl eu bod yn cymryd rhan mewn mwy o weithgareddau ar-lein na'u rhieni. Efallai y bydd gan rai plant fwy o wybodaeth dechnegol na'u rhieni, ond efallai na fyddan nhw’n gallu adnabod y risgiau o roi gormod o wybodaeth bersonol ar-lein, ac efallai na fyddan nhw’n gallu adnabod sgamiau mor rhwydd ag oedolion. Felly:

  • Cymerwch yr amser i gymryd rhan yn nefnydd eich plant ar y rhyngrwyd a'u dysgu am ddiogelwch ar-lein.
  • Esboniwch i blant na ddylen nhw roi unrhyw wybodaeth bersonol ar-lein, e.e. enw llawn, cyfeiriad, rhif ffôn symudol, cyfeiriad ebost, enw'r ysgol etc, os na fydden nhw am iddi fod ar gael yn ddirwystr yn y byd all-lein.
  • Esboniwch y gallai pobl ar-lein fod yn dweud celwydd am bwy ydyn nhw, a gwnewch yn siŵr bod eich plant yn gwybod bod rhaid iddyn nhw gael eich caniatâd chi bob amser cyn cytuno i gwrdd â neb.
  • Rhowch wybod i blant am negeseuon ebost sbam neu sothach ac eglurwch na ddylen nhw agor negeseuon ebost neu negeseuon testun gan rywun nad ydyn nhw'n eu nabod.
  • Byddwch yn ymwybodol y bydd angen ichi roi caniatâd i'ch plentyn ddefnyddio gwasanaeth ar-lein os ydyn nhw o dan 13 oed.
  • Os yw plant yn defnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol, gwnewch yn siŵr eu bod yn defnyddio gosodiadau preifatrwydd priodol.
  • Byddwch yn ymwybodol y gall plant fod yn defnyddio'r rhyngrwyd trwy eu consol gemau neu eu ffôn symudol.
  • Ystyriwch ddefnyddio meddalwedd hidlo a monitro rhyngrwyd ar gyfer cyfrifiaduron, ffonau symudol neu gonsolau gemau sy’n perthyn i’ch plant neu'n cael eu defnyddio ganddyn nhw.
  • Byddwch yn ymwybodol y gall fod gan eich plant yr hawl i ofyn am ddileu data personol sy'n cael ei bostio ar rai gwasanaethau.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch plant ar y rhyngrwyd a deunyddiau buddiol sydd wedi'u hanelu at blant, rhieni ac athrawon, gweler y canlynol:

Beth alla i ei wneud os bydd rhywun yn dweud rhywbeth amdana i ar-lein nad ydw i'n ei hoffi?

Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud:

  • Mae gan y mwyafrif o wefannau rhwydweithio cymdeithasol bolisi ar gyfer ymdrin â phostiadau anghywir neu ddifrïol. Chwiliwch ar y wefan am eu gweithdrefn ar gyfer cwyno am bostiad neu ofyn am dynnu rhywbeth.
  • Os na allwch chi ddod o hyd i weithdrefn neu ffurflen ar y wefan, yna ceisiwch gysylltu â gweinyddwr y wefan ynglŷn â'ch cwynion.
  • Codwch y mater yn uniongyrchol gyda'r sefydliad neu'r unigolyn sydd wedi postio'r sylwadau amdanoch chi, os ydych chi’n credu y gallai hyn helpu.
  • Os ydych chi'n credu bod y postiad yn ddifrïol, neu os ydych chi'n teimlo eich bod yn cael eich bygwth neu'ch aflonyddu, ystyriwch gymryd cyngor cyfreithiol neu gysylltu â'r heddlu.

Os na fyddwch chi’n datrys pethau drwy ddilyn y cyngor uchod, yna rydyn ni’n gyfyngedig o ran yr hyn y gallwn ninnau ei wneud i'ch helpu.

Os yw'r person sy'n postio sylwadau amdanoch chi yn unigolyn arall sy'n mynegi ei farn bersonol, fyddwn ni ddim yn gallu cymryd camau yn eu herbyn.

Weithiau rydym yn gweithio gyda gwefannau rhwydweithio cymdeithasol i'w helpu i sicrhau bod eu gweithdrefnau ar gyfer delio ag anghydfodau ynghylch postiadau anghywir neu ddifrïol yn ddigonol. Os yw eu gweithdrefnau'n ddigonol, yna rydym yn annhebygol o ystyried cwynion yn erbyn gwefannau am bostiadau unigol, ac os gwnawn ni hynny, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod yr hawl i ryddid mynegiant sydd wedi’i gwarantu gan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Pa hawliau eraill sydd gen i?

Mae gennych chi hawl hefyd i atal sefydliadau rhag defnyddio'ch gwybodaeth i anfon deunydd marchnata uniongyrchol atoch. Fe ddylech chi gael y cyfle i optio i mewn neu optio allan o dderbyn deunydd marchnata o'r fath pan fyddwch chi’n rhoi’ch manylion personol. Dylech chi hefyd gael cyfle i newid eich dewis yn nes ymlaen os byddwch chi’n newid eich meddwl.

Os hoffech chi weld neu gywiro gwybodaeth bersonol sy’n cael ei chadw amdanoch chi, neu os ydych chi’n credu bod problem o ran sut cafodd eich gwybodaeth bersonol ei chasglu ar-lein, neu sut mae'n cael ei defnyddio, dylech gysylltu â'r person neu'r sefydliad sy'n gyfrifol am gasglu'r wybodaeth yn gyntaf.

Dylai darparwr y gwasanaeth neu'r wefan rydych chi wedi rhoi'r wybodaeth iddyn nhw roi manylion am sut y gallwch gysylltu â'r rhai sy'n gyfrifol – yn aml mae'r wybodaeth hon i’w gweld yn yr hysbysiad preifatrwydd ar eu gwefan.

Os byddwch chi’n cwyno i sefydliad am gasglu neu ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol, fe ddylen nhw allu esbonio ichi sut maen nhw’n prosesu’ch gwybodaeth bersonol yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data.

Oes gen i unrhyw gyfrifoldebau wrth bostio data personol am bobl eraill ar-lein?

Mewn swyddogaeth bersonol

Os ydych chi'n gweithredu mewn swyddogaeth bersonol yn unig wrth bostio data personol pobl eraill ar-lein, yna dydych chi ddim yn dod o dan y Ddeddf Diogelu Data.

Er hynny, hyd yn oed os ydych chi wedi'ch esemptio o'r egwyddorion diogelu data mae'n dal yn bosibl ichi dorri'r gyfraith mewn ffyrdd eraill wrth bostio ar-lein. Er enghraifft, fe allech chi gael eich erlyn o dan Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997 neu Ddeddf Cyfathrebu 2003.

Gallech hefyd fod yn agored i hawliad yn y llysoedd sifil am iawndal, neu gellid dyfarnu eich bod wedi dirmygu’r llys. Gan hynny, mae'n bwysig meddwl yn ofalus am yr hyn rydych chi'n bwriadu ei ddweud cyn postio gwybodaeth.

Mewn swyddogaeth nad yw'n bersonol

Os ydych chi'n cynrychioli sefydliad neu'n hybu’ch buddiannau busnes yna, hyd yn oed os ydych chi'n gwneud hynny drwy gyfrwng eich tudalennau rhwydweithio cymdeithasol eich hun, byddwch chi'n dod o dan y GDPR ac efallai y bydd angen ichi gydymffurfio â'r egwyddorion diogelu data.

Yn flaenorol, rydyn ni wedi llunio canllawiau ynghylch pryd mae gofynion y Ddeddf Diogelu Data yn gymwys i rwydweithio cymdeithasol a fforymau, ac mae yna ddolen i hyn isod. Rydyn ni’n bwriadu diweddaru'r canllawiau hyn i egluro gofynion y GDPR maes o law, ond yn y cyfamser efallai y byddwch yn gweld rhai o'r egwyddorion cyffredinol sy’n cael eu trafod yn ddefnyddiol.