Awdurdod annibynnol y Deyrnas Unedig a sefydlwyd i gynnal hawliau gwybodaeth er budd y cyhoedd, annog cyrff cyhoeddus i fod yn agored a hybu preifatrwydd data i unigolion.

Beth allaf ofyn am?

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a Rheoliadau INSPIRE yn rhoi hawliau i chi gael gafael ar wybodaeth swyddogol.

O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol mae gennych hawl i ofyn am unrhyw wybodaeth wedi'i chofnodi a gedwir gan awdurdod cyhoeddus, megis adran o'r llywodraeth, cyngor lleol neu ysgol wladol. Gellir gwneud ceisiadau am wybodaeth amgylcheddol hefyd i rai cyrff nad ydynt yn gyrff cyhoeddus sy'n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus.

  • Gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth y credwch y gallai awdurdod cyhoeddus ei chadw. Mae'r hawl ond yn cynnwys gwybodaeth wedi'i recordio sy'n cynnwys gwybodaeth a gedwir ar gyfrifiaduron, mewn e-byst ac mewn dogfennau printiedig neu ysgrifenedig yn ogystal â delweddau, recordiadau fideo a sain.
  • Dylech nodi'r wybodaeth rydych ei heisiau mor glir â phosibl.
  • Gall eich cais fod ar ffurf cwestiwn, yn hytrach na chais am ddogfennau penodol, ond nid oes rhaid i'r awdurdod ateb eich cwestiwn os byddai hyn yn golygu creu gwybodaeth newydd neu roi barn neu ddyfarniad nad yw eisoes wedi'i gofnodi.
  • Efallai na fydd rhywfaint o wybodaeth yn cael ei rhoi i chi oherwydd ei bod wedi'i heithrio, er enghraifft oherwydd y byddai'n datgelu manylion personol am rywun arall yn annheg.

Nid oes rhaid i chi wybod a yw'r wybodaeth rydych chi ei heisiau yn dod o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol neu'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Pan fyddwch yn gwneud cais, mater i'r awdurdod cyhoeddus yw penderfynu pa gyfraith y mae angen iddynt ei dilyn.

Mae'r Rheoliadau INSPIRE yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus sydd â gwybodaeth ofodol neu ddaearyddol sicrhau ei bod ar gael fel y gallwch ei chwilio mewn ffyrdd penodol.

Beth dylwn i ei wneud cyn gwneud cais?

Rydych chi’n cael gofyn am unrhyw wybodaeth a ddewiswch, unrhyw bryd, ond efallai na fyddwch chi bob amser yn llwyddo i'w chael. Cyn ichi wneud cais, gall ystyried y cwestiynau canlynol helpu.

  • Ydy'r wybodaeth yr hoffech ei chael ar gael yn barod, er enghraifft, ar wefan yr awdurdod?
    Mae’n rhaid i awdurdodau sicrhau bod gwybodaeth benodol ar gael fel rhan o’r drefn. Gallwch ganfod pa wybodaeth sydd ar gael drwy edrych ar gynllun cyhoeddi’r awdurdod neu ei arweiniad i wybodaeth. Gwnewch hyn drwy edrych ar ei wefan neu drwy gysylltu â'r awdurdod.
  • Ydy'r wybodaeth yr hoffech ei chael yn ddata personol i chi’ch hun?
    If your request is for information about yourself, such as your medical records, you should make a cais gwrthrych am wybodaeth o dan y Ddeddf Diogelu Data.
  • Ydy’r wybodaeth yn debygol o fod gan yr awdurdod?
    Gall arbed amser ichi os byddwch yn holi'r awdurdod a ydy’r wybodaeth yr hoffech ei chael yn debygol o fod ganddo. Er enghraifft, efallai na fyddwch yn siŵr a yw'r wybodaeth yr hoffech ei chael yn cael ei chadw gan eich cyngor dosbarth ynteu'r cyngor sir. Mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus roi cyngor a chymorth rhesymol i unrhyw un sy'n gofyn am wybodaeth, felly dylech deimlo'n rhydd i ofyn am help i wneud eich cais.
  • Ydy’r wybodaeth yr hoffech ei chael yn addas i'w chyhoeddi'n gyffredinol?
    Nod y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yw sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd. Yr unig wybodaeth y gallwch ei sicrhau yw gwybodaeth a fyddai'n cael ei rhoi i unrhyw un a fyddai’n gofyn amdani, neu a fyddai'n addas i'r cyhoedd ei gweld.
  • Efallai na fydd rhywfaint o wybodaeth, megis cofnodion am berthynas sydd wedi marw, neu ddogfennau y mae arnoch eu hangen at ddibenion cyfreithiol, ar gael o dan y Ddeddf bob amser. Er hynny, efallai y bydd hawl gennych i weld yr wybodaeth yr hoffech ei chael o dan ddeddfwriaeth arall. Dylai'r awdurdod cyhoeddus sy'n dal yr wybodaeth yr hoffech ei chael roi cyngor ichi.

Beth yw'r gofynion cyfreithiol ynglŷn â chais?

Er mwyn i'ch cais gael ei drin yn unol â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae’n rhaid ichi:

  • cysylltu â'r awdurdod perthnasol yn uniongyrchol;
  • gwneud y cais mewn ysgrifen, er enghraifft mewn llythyr neu neges ebost. Gallwch wneud cais am wybodaeth amgylcheddol ar lafar neu mewn ysgrifen;
  • rowch eich enw go iawn; a
  • rhoi cyfeiriad y gall yr awdurdod ymateb iddo. Gall hwn fod yn gyfeiriad post neu ebost.

Does dim angen ichi:

  • crybwyll y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, er y gallai gwneud hynny fod o gymorth;
  • gwybod a yw'r wybodaeth yn dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ynteu'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol; na
  • dweud pam mae arnoch chi eisiau'r wybodaeth.

Mae'n synhwyrol ysgrifennu'r dyddiad ar unrhyw lythyrau neu negeseuon ebost y byddwch yn eu hanfon a chadw copi, fel bod gennych chi gofnod dibynadwy o'ch cais. Os byddwch yn gwneud cais llafar am wybodaeth amgylcheddol, rydym yn argymell eich bod yn nodi gyda phwy y buoch chi’n siarad, y dyddiad, a pha wybodaeth y gwnaethoch chi gais amdani, ac efallai yr hoffech chi ddilyn y cais llafar â llythyr neu neges ebost yn cadarnhau eich cais. Byddai cofnod ysgrifenedig o gais llafar yn fuddiol os bydd angen ichi wneud cwyn yn nes ymlaen.

Gall fod yn ddefnyddiol gwirio a yw'r awdurdod yn argymell eich bod yn anfon eich cais at berson neu gyfeiriad ebost penodol. Mae rhai awdurdodau yn caniatáu ichi ofyn am wybodaeth drwy gyfrwng eu gwefan. Gallwch hefyd wneud cais ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook neu Twitter.

Mae rhai gwefannau eraill yn caniatáu ichi gysylltu ag awdurdodau cyhoeddus a gwneud cais drwy'r wefan. Gwiriwch y bydd y wefan yn caniatáu i'r awdurdod cyhoeddus ymateb, neu fel arall nid yw'n gais dilys.

Os ydych yn ei chael hi'n amhosibl neu'n afresymol o anodd gwneud cais mewn ysgrifen, efallai y bydd rhaid i awdurdod cyhoeddus wneud addasiad rhesymol ichi o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (neu Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yng Ngogledd Iwerddon). Gallai hyn olygu, er enghraifft, bod rhaid i'r awdurdod cyhoeddus ystyried trin cais llafar am wybodaeth fel pe bai'n gais rhyddid gwybodaeth dilys.

Nid yw’r ICO yn cael gofyn am wybodaeth gan awdurdod arall ar eich rhan. Dylech gyfeirio’ch cais yn uniongyrchol at yr awdurdod. Does dim angen ichi anfon copi o'ch cais aton ni.

Sut dylwn i eirio fy nghais er mwyn cael y canlyniad gorau?

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn arfer eu hawliau mewn modd cyfrifol ond rydym hefyd yn cydnabod bod rhai unigolion a sefydliadau yn cyflwyno ceisiadau a allai, boed yn ddamweiniol ynteu’n fwriadol, achosi lefel o aflonyddwch neu anniddigrwydd i awdurdod cyhoeddus sydd a’r rheiny gyfiawnhad neu yn anghymesur. Gall rhai ceisiadau achosi gofid i aelodau staff mewn awdurdod cyhoeddus.

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cynnwys dull i ddiogelu awdurdodau cyhoeddus rhag gorfod delio â cheisiadau o'r fath (sy’n cael eu galw’n geisiadau blinderus o dan Adran 14). Yn achos yr EIR, mae yna ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer ceisiadau sy'n amlwg yn afresymol [Rheoliad 12(4)(b)].

Mae pob cais yn creu rhywfaint o alw ar adnoddau awdurdod cyhoeddus o ran costau ac amser staff, ac rydym yn disgwyl iddyn nhw amsugno lefel benodol o aflonyddwch ac annifyrrwch i gyflawni eu hymrwymiad sylfaenol i dryloywder a bod yn agored o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r EIR. Rydyn ni hefyd yn derbyn y gall ceisiadau fod yn anodd o ran eu hiaith ond mae defnyddio iaith fygythiol neu sarhaus yn cynyddu'r risg y bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Mae’n gallu bod yn anodd i geiswyr ddeall sut mae gwybodaeth yn cael ei labelu a'i threfnu gan awdurdodau cyhoeddus. Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth sy'n sicrhau bod rhaid i awdurdodau cyhoeddus ystyried a ddylen nhw roi cyngor a chymorth i chi, o fewn terfynau rhesymol.

Er hynny, ni ddylai'r amser a'r adnoddau y mae'n rhaid i awdurdod cyhoeddus eu defnyddio wrth ymateb i gais fod yn gwbl anghymesur â gwerth a phwrpas y cais hwnnw.

Mae angen ichi ystyried y canllawiau isod ar bethau i’w gwneud a phethau i beidio â’u gwneud. Meddyliwch am eich cais yn wrthrychol: ydy’r cais yn sbarduno unrhyw ganllawiau ar beth i’w beidio â’i wneud? Os felly, efallai y byddwch am ailystyried eich cais am wybodaeth neu fel arall efallai y caiff ei wrthod fel cais blinderus.

Os nad oes gan eich cais unrhyw ddiben difrifol neu glir neu os nad yw'n canolbwyntio ar gaffael gwybodaeth, yna mae'n debyg nad yw'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r EIR yn ffordd briodol o fynd ar drywydd eich cwyn. Efallai y byddwch yn gwneud yn well i ystyried a oes sianeli eraill mwy addas i fynd i'r afael â'r mater gyda'r awdurdod.

Dylech chi gofio hefyd fod y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cynnwys mesur diogelu yn erbyn ceisiadau sy'n mynd yn uwch na'r terfynau cost ar gyfer cydymffurfio (Adran 12). Unwaith eto, y ddarpariaeth gyfatebol yn yr EIR yw Rheoliad 12(4)(b) – ceisiadau sy’n amlwg yn geisiadau afresymol.

Felly, os ydych chi’n bwriadu gofyn am lawer iawn o wybodaeth, neu wneud cais cyffredinol iawn, dylech ystyried yn gyntaf a allech chi leihau’r cais neu ailffocysu rhychwant y cais, gan y gallai hyn eich helpu i sicrhau’r hyn yr hoffech ei gael mewn gwirionedd a lleihau unrhyw faich neu gostau diangen ar yr awdurdod. Fel arall, gallech geisio cysylltu â'r awdurdod cyhoeddus i gael cyngor a chymorth i'ch helpu i leihau rhychwant eich cais a lleihau’r costau cydymffurfio: maen nhw o dan ddyletswydd i ystyried pa gyngor a chymorth y gallan nhw eu darparu.

Does dim rhaid ichi ddweud pam yr hoffech chi gael yr wybodaeth, ond os ydych chi’n fodlon gwneud hynny, gallai osgoi llawer o wastraffu amser a bod yn fwy tebygol o sicrhau’r hyn yr hoffech ei gael.

Ydy awdurdod cyhoeddus yn cael codi tâl am gais?

Ydy, mae awdurdod cyhoeddus yn cael codi tâl arnoch chi am gostau anfon yr wybodaeth, fel llungopïo a phostio. Yr enw ar y rhain yw 'alldaliadau’.

Gair i gall wrth wneud cais am wybodaeth

Rydyn ni wedi llunio’r rhestr ganlynol o gyfarwyddiadau ar bethau i’w gwneud a phethau i beidio â’u gwneud, a hynny fel canllaw cyflym i helpu’r defnyddwyr i wneud ceisiadau effeithiol ynglŷn â rhyddid gwybodaeth.

Bydd eich cais yn llawer mwy effeithiol os yw'n glir, yn benodol ac yn bendant ac os nad yw’n fygythiol.

Cofiwch:

Peidiwch:

canfod at bwy y dylech chi anfon eich cais. Os byddwch yn cyfeirio’ch cais yn uniongyrchol at y cyswllt priodol yn yr awdurdod, efallai y cewch chi ymateb mwy prydlon. â defnyddio iaith sarhaus neu fygythiol.
cynnwys eich enw, eich cyfeiriad a’ch manylion cysylltu eraill yn y cais. â gwneud cyhuddiadau di-sail yn erbyn yr awdurdod neu ei staff.
nodi’n glir eich bod yn gwneud eich cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth/Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. â gwneud ymosodiadau personol yn erbyn gweithwyr.
bod mor benodol â phosibl am yr wybodaeth y mae arnoch ei heisiau yn hytrach na gofyn cwestiynau cyffredinol. Ceisiwch gynnwys manylion fel dyddiadau ac enwau pryd bynnag y gallwch. Gall hefyd helpu’r awdurdod i ddod o hyd i'r wybodaeth os byddwch yn esbonio'r diben y tu ôl i'ch cais. â defnyddio Rhyddid Gwybodaeth i ailagor cwynion sydd eisoes wedi cael sylw llawn gan yr awdurdod, neu sy'n destun ymchwiliad annibynnol heb unrhyw dystiolaeth o gamweddau.
ail-ddarllen eich cais i wirio am unrhyw eiriad sy'n aneglur neu'n agored i'w ddehongli. â gwneud rhagdybiaethau ynghylch sut mae'r awdurdod yn trefnu ei wybodaeth na dweud wrthyn nhw sut i chwilio am yr wybodaeth yr hoffech ei chael.
defnyddio iaith syml, gwrtais; osgowch seilio’ch cais neu’ch cwestiwn ar ragdybiaethau neu farn, neu gymysgu ceisiadau â chwynion neu sylwadau. â chladdu’ch cais mewn gohebiaeth hir ar faterion eraill neu gwynion isorweddol
nodi a oes gennych unrhyw ddewisiadau o ran sut yr hoffech chi gael yr wybodaeth, er enghraifft os byddai'n well gennych gael copi papur neu gael neges ebost. â defnyddio ceisiadau fel ffordd o 'sgorio pwyntiau' yn erbyn awdurdod
rhoi digon o gyfle i'r awdurdod fynd i'r afael ag unrhyw geisiadau blaenorol a wnaethoch cyn cyflwyno rhai newydd. ag anfon geisiadau rhy gyffredinol am wybodaeth (fel 'rhowch bopeth sydd gennych am 'x') pan nad ydych yn siŵr pa ddogfennau penodol i ofyn amdanyn nhw. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, rhowch gynnig ar chwilio ar wefan yr awdurdod neu holi a oes unrhyw fynegeion a rhestrau ffeiliau ar gael. Fel arall, gofynnwch i'r awdurdod am rywfaint o gyngor a chymorth wrth lunio'ch cais.
canolbwyntio ar y trywydd ymholi rydych chi'n ei ddilyn. Peidiwch â gadael i'ch sylw ddechrau llithro i faterion sy'n bur amherthnasol. â chyflwyno ceisiadau gwamal neu ddibwys; cofiwch fod prosesu unrhyw gais am wybodaeth yn golygu rhywfaint o gost i'r pwrs cyhoeddus.
meddwl ai gwneud cais yw'r ffordd orau o gyflawni'r hyn rydych chi ei eisiau. Os oes gennych chi gwyn yna efallai y byddai'n well mynd â'ch cwyn at yr ombwdsmon perthnasol a gadael iddyn nhw ymchwilio. ag aflonyddu ar awdurdod cyhoeddus drwy gyfrwng pwysau’ch ceisiadau neu faint o wybodaeth rydych chi’n gofyn amdani. P'un a ydych chi’n gweithredu ar eich pen eich hun ynteu ar y cyd ag eraill, mae hyn yn gamddefnydd clir o'r Ddeddf a chamdriniaeth ar eich 'hawl i wybod'.
ceisio bod yn hyblyg os yw'r awdurdod yn dweud na all fodloni'r cais llawn ar sail cost a’i fod yn gofyn ichi leihau’r cais. Ceisiwch weithio gyda'r sefydliad i lunio fersiwn symlach o'r cais sy'n dal i gynnwys yr wybodaeth graidd sydd bwysicaf i chi. â 'physgota' yn fwriadol am wybodaeth drwy gyflwyno ceisiadau eang iawn neu ar hap yn y gobaith y byddan nhw’n dal rhywbeth nodedig neu fel arall yn ddefnyddiol. Dylech gyfeirio ceisiadau at sicrhau gwybodaeth am fater penodol, yn hytrach na dibynnu ar lwc i weld a gaiff unrhyw beth o ddiddordeb ei ddatgelu.
  â gwneud ceisiadau ailadroddus oni bai bod amgylchiadau, neu'r wybodaeth ei hun, wedi newid i'r graddau bod yna sail gyfiawn i ofyn am yr wybodaeth eto.

Beth sy'n digwydd ar ôl imi wneud fy nghais?

Rhaid i'r awdurdod eich ateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Mae’r awdurdod yn cael:

  • rhoi'r wybodaeth rydych chi wedi gofyn amdani i chi;
  • dweud wrthoch chi nad yw’r wybodaeth ganddyn nhw;
  • dweud wrthoch chi fod yr wybodaeth gan awdurdod arall neu drosglwyddo'r cais ar eich rhan;
  • o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, dweud bod yr wybodaeth ganddyn nhw a chynnig ei darparu os byddwch yn talu ffi iddyn nhw (ond mae rheolau ynghylch faint maen nhw’n cael ei godi);
  • o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, codi ffi resymol am ddarparu gwybodaeth yn unol â'r rhestr daliadau y maen nhw wedi’i chyhoeddi. Sylwch: os yw'r awdurdod yn caniatáu ichi weld cofrestr gyhoeddus neu wybodaeth arall yn bersonol, mewn man o'u dewis nhw, dydyn nhw ddim yn cael codi tâl am hyn;
  • gwrthod rhoi'r wybodaeth ichi, ac egluro pam; neu
  • o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, dweud bod angen rhagor o amser i ystyried y budd cyhoeddus wrth ddatgelu neu atal yr wybodaeth, a dweud wrthoch chi pryd i ddisgwyl ymateb. Ddylai hyn ddim bod yn hwyrach na 40 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad eich cais. Dim ond o dan amgylchiadau penodol y cân nhw ymestyn y dyddiad cau, a rhaid iddyn nhw egluro pam maen nhw’n credu y gallai'r wybodaeth gael ei hesemptio;
  • o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, dweud bod angen rhagor o amser am fod yr wybodaeth rydych chi’n gofyn amdani yn arbennig o gymhleth a bod llawer ohoni i'w darparu. Mewn achosion o'r fath, gall y terfyn amser gael ei ymestyn 20 diwrnod gwaith arall, cyn belled â bod yr awdurdod yn ymateb o fewn y terfyn amser cychwynnol gan nodi pryd y mae'n credu y bydd yn gallu ymateb yn llawn.

Beth alla i ei ddisgwyl os oes gen i hawliau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 neu Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993?

O dan y gyfraith cydraddoldeb, mae’r sefydliad o dan ddyletswydd i sicrhau bod ei wasanaethau'n hygyrch i bawb sy’n defnyddio gwasanaethau. Gallwch ofyn am ymateb mewn fformat penodol sy'n hygyrch i chi, fel Braille, print bras, ebost neu fformat sain.

Os ydych chi’n credu bod sefydliad wedi methu â gwneud addasiad rhesymol, gallwch wneud hawliad o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 neu Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae cyngor pellach ar gael o:

Fydda i bob amser yn cael yr wybodaeth rwy’n gofyn amdani?

Nid bob amser. Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cydnabod y bydd rhesymau dilys pam y gallai rhai mathau o wybodaeth gael eu dal yn ôl, megis pe bai rhyddhau’r wybodaeth yn niweidio diogelwch gwladol neu fuddiannau masnachol. Ar gyfer rhai esemptiadau, rhaid i'r awdurdod cyhoeddus ystyried a yw budd y cyhoedd o ran atal yr wybodaeth yn drech na budd y cyhoedd wrth ei rhyddhau. Os yw'n penderfynu nad oes modd rhyddhau'r wybodaeth, rhaid iddo ddweud wrthoch chi ac egluro pam. Does dim rheidrwydd ar awdurdodau cyhoeddus i ddelio â cheisiadau blinderus neu ailadroddus neu mewn rhai achosion os yw'r gost yn fwy na therfyn priodol. Ar ben hynny, nid yw'r Ddeddf yn rhoi hawl i weld gwybodaeth bersonol amdanoch chi'ch hun. Yn hytrach, mae’r hawl hon ar gael o dan y Ddeddf Diogelu Data, unwaith eto yn amodol ar rai eithriadau, a’r enw ar hyn cais testun am weld gwybodaeth.

Ga i gwyno os bydd awdurdod cyhoeddus yn gwrthod fy nghais neu os ydw i’n anfodlon â'r modd y cafodd y cais ei drin?

Cewch. Dylech gwyno i'r awdurdod yn gyntaf a gofyn iddyn nhw gynnal adolygiad mewnol. Yn achos cwynion am ryddid gwybodaeth, rydym yn argymell eich bod yn gwneud hyn cyn gynted â phosibl ac o fewn dau fis ar ôl cael ymateb terfynol yr awdurdod.

O ran gwybodaeth amgylcheddol, dylech wneud eich cwyn o fewn 40 diwrnod gwaith.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn argymell bod awdurdodau cyhoeddus yn cynnal adolygiadau mewnol o fewn 20 diwrnod gwaith. O dan y Rheoliadau Amgylcheddol, mae'n ofynnol yn gyfreithiol cynnal adolygiadau mewnol cyn gynted â phosibl ac o fewn 40 diwrnod gwaith. Nid yw’r awdurdod yn cael codi tâl am gynnal adolygiad mewnol.

Os ydych chi’n credu nad yw'r awdurdod cyhoeddus wedi delio â'ch cwyn yn iawn, neu os nad oes ganddyn nhw weithdrefn gwyno, efallai y gallwn ni helpu.