Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Beth mae angen ei wneud cyn bod modd cwyno i'r ICO?

Gallwch gwyno i'r ICO am y ffordd y mae sefydliad wedi trin gwybodaeth bersonol.

Ran amlaf, cyn ichi gwyno i ni, mae angen ichi:

  • bod wedi cwyno'n uniongyrchol i'r sefydliad;
  • wedi gofyn am eglurhad gan y sefydliad os ydych chi wedi cael ymateb nad ydych yn ei ddeall; ac
  • wedi dilyn pethau gyda’r sefydliad os ydych chi heb gael ymateb ar ôl 30 diwrnod.

Os ydych chi wedi dilyn yr holl gamau hyn neu os nad ydych chi wedi cael ymateb gan y sefydliad, gallwch gyflwyno’ch cwyn. Dylech chi wneud hyn o fewn tri mis ar ôl eich cyswllt diwethaf â'r sefydliad.