Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben ni wrth brosesu'r wybodaeth hon yw trefnu a chynnal archwiliad gyda sefydliad i asesu a ydy’r sefydliad yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y Deyrnas Unedig, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni’n tasgau cyhoeddus yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Pan fyddwn yn cynnal archwiliad, cymerwn enw a manylion cysylltu prif bwynt cysylltu’r sefydliad a manylion cysylltu’r aelodau eraill o’r staff fydd yn cael cyfweliad.

Mae'n bosibl y byddwn ni hefyd yn cael data personol ychwanegol pan fo hwnnw wedi'i gynnwys mewn unrhyw dystiolaeth a gasglwn fel rhan o'r broses archwilio.

Pam mae arnom ei angen

Rydym yn defnyddio'r data sy'n cael ei gasglu i drefnu'r archwiliad, cynnal cyfweliadau â’r staff perthnasol, profi prosesau a gweithdrefnau, a rhoi tystiolaeth o ganfyddiadau'r archwiliad.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Efallai byddwn ni'n cyhoeddi crynodeb o'r archwiliad yr ydyn ni wedi wneud gyda'ch sefydliad, ond ni fydd hyn yn cynnwys unrhyw data personol.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler einhamserlen cadw gwybodaeth..

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn prosesu data personol wrth gynnal archwiliadau yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr, felly mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallem wrthod eich cais, sy’n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

Am rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler 'Eich hawl fel unigolyn'.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Ydw - rydyn ni'n defnyddio meddalwedd rheoli archwiliad i wneud nifer o'n archwiliadau.