- Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto
- Yr hyn y bydd arnom ei angen
- Yr hyn a wnawn gydag ef
- Pa mor hir y byddwn yn ei chadw
- Beth yw’ch hawliau chi?
- Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?
Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto
Caiff data personol ei brosesu at ddibenion hwyluso cynllun peilot a gynhelir fel rhan o'r astudiaeth i-Advice. Bydd y cynllun peilot yn profi'r ystyriaethau dylunio gwasanaeth sy'n gysylltiedig â gweithredu gwasanaeth cynghori uniongyrchol ar gyfer sefydliadau sy'n arloesi gyda'r defnydd o ddata personol.
Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) (tasg gyhoeddus) o’r GDPR y DU i brosesu’r data personol.
Yr hyn y bydd arnom ei angen
Byddwn yn prosesu eich enw, cyfeiriad ebost ac unrhyw fanylion cyswllt eraill a ddarperir gennych.
Yr hyn a wnawn gydag ef
Byddwn yn defnyddio eich enw a'ch manylion cyswllt i ymgysylltu â chi fel rhan o'r ymarfer peilot i-Advice.
Bydd eich enw a'ch manylion cyswllt yn cael eu cyflwyno i PA Consulting sef ein proseswyr data ar gyfer yr astudiaeth i-Advice. Bydd PA Consulting yn defnyddio'r wybodaeth honno i ymgysylltu â chi fel rhan o'r ymarfer peilot i-Advice.
Pa mor hir y byddwn yn ei chadw
Bydd yr ICO yn cadw'r data a ddarperir gennych am 3 blynedd yn unol â'n hamserlen Cadw a Gwaredu.
Beth yw’ch hawliau chi?
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler '‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.
Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?
Ydyn - PA Consulting.