Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben wrth gasglu’r wybodaeth hon yw hwyluso’r digwyddiad a darparu gwasanaeth derbyniol ichi.

Y sail gyfreithlon rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu data personol cynadleddwyr a'n staff yw Erthygl 6(1)(e) o’r GDPR, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fydd angen gwneud hynny i gyflawni’n tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Er mwyn cofrestru ar gyfer y gynhadledd bydd angen i’r cynadleddwyr gofrestru'n uniongyrchol ar y llwyfan darlledu sy'n cael ei gynnal gan Orcula.

Bydd arnon ni angen eich enw a'ch cyfeiriad ebost yn ogystal â gwybodaeth am eich swydd a'ch lefel profiad. Bydd arnon ni angen enw eich sefydliad hefyd, ei faint a'r sector rydych chi'n gweithio ynddo. Byddwn yn darparu capsiynau awtomataidd ym mhob un o'r sesiynau ar-lein ond byddwn yn gofyn ichi am fanylion unrhyw ofynion ychwanegol o ran mynediad.

Rydym yn bwriadu recordio’r gynhadledd ond fydd camerâu a sain y cynadleddwyr ddim yn cael eu defnyddio drwy gydol y gynhadledd nac yn cael eu cipio yn y recordiad. Gall unrhyw gwestiynau a gyflwynir yn y blwch Holi ac Ateb gael eu cyflwyno’n ddienw a bydd pob cwestiwn yn cael ei ddarllen yn ddienw.

Mae llwyfan darlledu'r gynhadledd yn casglu symudiadau’r cynadleddwyr rhwng y sesiynau a'r cwestiynau a gyflwynwyd.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Gall pawb sydd wedi cofrestru i ddod i DPPC2023 ddod iddi a does dim tâl. Mae gwybodaeth a gyflwynir gan y cynadleddwyr yn yr arolwg cofrestru yn cael ei defnyddio i lunio'r agenda ar gyfer y gynhadledd ar-lein.

Mae digwyddiad 2023 yn cael ei gynnal ar-lein ac rydym wedi ffurfio partneriaeth ag Amplitude Event Solutions a Orcula i ddarparu llwyfan darlledu.

Gall y cynadleddwyr gael mynediad i'r gynhadledd drwy gofrestru a darparu'r wybodaeth a amlinellir uchod. Bydd y cynadleddwyr yn cael gohebiaeth am y digwyddiad, a fydd yn cael ei hanfon yn uniongyrchol gan ein partneriaid yn Amplitude Event Solutions drwy’r ebost. Bydd hyn yn cynnwys enw defnyddiwr unigryw a chyfrinair fel y gall y cynadleddwyr gael mynediad i lwyfan y gynhadledd ar y diwrnod.

Bydd gwybodaeth am symudiadau'r cynadleddwyr rhwng y sesiynau a'r amser a dreulir ym mhob ardal yn cael ei defnyddio er mwyn i’r ICO werthuso'r gynhadledd yn unig.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler hamserlen cadw gwybodaeth..

Bydd unrhyw wybodaeth sy'n cael ei hanfon at Amplitude ac Orcula neu’n cael ei chasglu ganddyn nhw yn cael ei storio ar ôl y gynhadledd am wythnos. Rydym yn rhoi cyfarwyddyd i'r holl wybodaeth sy'n gysylltiedig â'r gynhadledd gael ei dileu ar 10 Hydref 2023.

Beth yw’ch hawliau chi?

Os hoffech optio allan o gymryd rhan yn y gynhadledd ar unrhyw adeg yna gadewch i ni wybod drwy e-bost.

Am rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler 'Eich hawliau diogelu data'.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Ydyn, rydyn ni’n defnyddio proseswyr data i helpu i hwyluso'r digwyddiad a fydd yn prosesu gwybodaeth yn unol â'n cyfarwyddiadau ni.

Ydyn ni'n neud unrhyw drosglwyddiadau data dramor?

Na.

Darparwr allanol

I helpu’r gynhadledd i redeg yn llyfn mewn amgylchedd digidol rydym wedi creu partneriaeth ag Amplitude Event Solutions ac Orcula i ddarlledu'r sesiynau. ddarllen eu polisi data nhw yma..