Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben wrth gasglu’r wybodaeth hon yw hwyluso’r digwyddiad a darparu gwasanaeth derbyniol ichi.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’ch data personol yw eich cydsyniad chi o dan erthygl 6(1)(a) o GDPR y Deyrnas Unedig. Pan fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth am ofynion deiet neu ofynion mynediad, mae arnon ni angen eich cydsyniad hefyd (o dan erthygl 9(2)(a)) gan fod y math hwn o wybodaeth yn cael ei hystyried yn ddata categori arbennig.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Os hoffech ddod i un o’n digwyddiadau, gofynnir ichi roi’ch gwybodaeth gysylltu gan gynnwys enw’ch sefydliad ac, os cynigir lle ichi, gwybodaeth am unrhyw ofynion deiet neu ddarpariaeth ar gyfer mynediad y gall fod arnoch ei hangen. Fe allen ni ofyn am daliad hefyd os oes rhaid talu i fod yn bresennol.

Pam mae arnom ei angen

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i hwyluso’r digwyddiad ac i roi gwasanaeth derbyniol ichi. Mae arnon ni angen yr wybodaeth hefyd er mwyn ymateb i chi.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Os na fyddwch yn llwyddo i gael lle, byddwn yn rhoi gwybod ichi ac yn cadw’ch manylion ar restr wrth gefn rhag ofn y daw lle ar gael.

Os bydd lle’n cael ei ddyrannu ichi mewn digwyddiad, byddwn yn gofyn am wybodaeth am unrhyw ofynion o ran deiet a mynediad. Dydyn ni ddim yn rhannu’r wybodaeth hon gyda’r lleoliad mewn unrhyw fodd sy’n eich adnabod, a byddwn yn ei dileu ar ôl y digwyddiad.

Dydyn ni ddim yn cyhoeddi rhestrau o aelodau digwyddiadau.

Yn ystod digwyddiadau ar-lein efallai y byddwn yn defnyddio Slido i greu arolygon byw rhyngweithiol, sesiynau Hawl i Holi a chwisiau. Byddwn yn cadw'r data o'r digwyddiadau hyn am 3 mis er mwyn dadansoddi'r ymatebion a mesur llwyddiant y digwyddiad. Does dim angen ichi ddefnyddio Slido er mwyn dod i’n digwyddiadau.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler ein hamserlen cadw gwybodaeth..

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn dibynnu ar eich cydsyniad er mwyn prosesu’r data personol y byddwch yn ei rhoi inni, er mwyn hwyluso’r digwyddiad. Mae hyn yn golygu bod gennych hawl i dynnu’ch cydsyniad yn ôl unrhyw bryd. Os ydych am dynnu eich caniatad ar unrhyw adeg, gallwch danfon ebost neu ffonio ni ar 0303 123 1113. Os gwnewch chi hynny, byddwn yn diweddaru’n cofnodion ar unwaith i gyd-fynd â’ch dymuniadau.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler 'Eich hawliau chi fel unigolyn’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Ydyn – rydym yn defnyddio proseswyr data i helpu i hwyluso’r digwyddiadau.

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth gofrestru trwy declyn adrodd ar-lein sy’n cael ei gynnal gan Snap Surveys, sy'n prosesu gwybodaeth yn unol â'n cyfarwyddiadau ni. Rydyn ni hefyd yn defnyddio Microsoft Forms at yr un diben.

Ar gyfer digwyddiadau wyneb yn wyneb, efallai y byddwn yn argraffu bathodynnau enw cynrychiolwyr. I wneud hyn byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda'n cwmni argraffu allanol Print-it. Gallwch ddarllen eu hysbysiad preifatrwydd yma..

Rydym hefyd yn defnyddio Orculaar gyfer cofrestru a chynnal rhai o'n digwyddiadau.

Weithiau gallwn godi ffi am ddod i ddigwyddiad. Os felly, bydd ein gohebiaeth am y digwyddiad yn rhoi manylion y prosesydd data rydyn ni’n ei ddefnyddio i gasglu’r taliadau.

Efallai y byddwn yn defnyddio Slido wrth gynnal digwyddiadau rhyngweithiol ar-lein, er enghraifft pan fyddwn am ddefnyddio polau byw, sesiynau Hawl i Holi a chwisiau. Gallwch ddarllen hysbysiad preifatrwydd Slido yma.