The ICO exists to empower you through information.

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei phrosesu yn cae ei rhoi inni’n uniongyrchol gennych chi a hynny am un o’r rhesymau a ganlyn:

  • Eich bod wedi gwneud cwyn neu ymholiad inni.
  • Eich bod wedi gwneud cais am wybodaeth inni.
  • Eich bod am ddod i ddigwyddiad, neu eich bod wedi dod i ddigwyddiad.
  • Eich bod yn tanysgrifio i’n e-gylchlythyr.
  • Eich bod wedi gwneud cais am swydd neu secondiad gyda ni.
  • Eich bod yn cynrychioli’ch sefydliad.

Rydyn ni hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, yn y sefyllfaoedd a ganlyn:

  • ein bod ni wedi cysylltu â sefydliad ynghylch cwyn a wnaethoch a bod y sefydliad yn rhoi’ch gwybodaeth bersonol i ni yn ei ymateb.
  • bod eich gwybodaeth bersonol wedi’i chynnwys mewn adroddiadau ar droseddau yn erbyn y gyfraith diogelu data (‘adroddiadau ar droseddau’) a roddwyd i ni gan sefydliadau.
  • bod achwynydd yn cyfeirio atoch yn ei ohebiaeth ynglŷn â’r gŵyn.
  • bod chwythwyr chwiban yn cynnwys gwybodaeth amdanoch wrth roi gwybodaeth inni.
  • ein bod wedi cipio gwybodaeth bersonol fel rhan o ymchwiliad.
  • oddi wrth reoleiddwyr eraill neu gyrff sy’n gorfodi’r gyfraith.
  • Lle rydych chi wedi sicrhau bod eich gwybodaeth gyswllt ar gael are eich gwefan ac rydyn yn ei defnyddio i gysylltu â chi a’ch sefydliad yn ein rôl fel rheolydd
  • bod un o’n cyflogeion yn rhoi’ch manylion cysylltu fel cysylltiad mewn argyfwng neu fel canolwr.

Os nad yw’n anghymesur neu’n niweidiol, byddwn yn cysylltu â chi i adael ichi wybod ein bod yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol.