The ICO exists to empower you through information.

Cyfyngu cysylltiad

Gallwn osod cyfyngiad ar eich mynediad i’n gwasanaethau os bydd angen gwneud hynny i ddiogelu’n staff rhag ymddygiad annerbyniol, fel y mae hynny wedi’i ddiffinio yn ein polisi ‘Rheoli cysylltiadau cwsmeriaid’.

Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arno i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fydd angen gwneud hynny er mwyn cyflawni’n tasgau fe rheoleiddiwr.

Os gwnawn ni hyn, byddwn yn esbonio’r cyfyngiad rydyn ni wedi’i ddefnyddio a pham rydyn ni’n teimlo bod angen y cyfyngiad. Byddwn yn creu cofnod o’r cyfyngiad at ddibenion gweinyddol, fel bod aelodau perthnasol o’r staff yn gwybod bod y cyfyngiad wedi’i osod. Bydd hyn yn cynnwys eich enw, eich manylion cysylltu a disgrifiad o pam rydyn ni wedi gosod y cyfyngiad.

Bydd y penderfyniad i osod cyfyngiad yn cael ei wneud, a’i adolygu, gan reolwr. Byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio pam rydyn ni wedi gosod y cyfyngiad. Byddwn yn adolygu’r cyfyngiad o dro i dro. Byddwn yn tynnu’r cyfyngiad os byddwn yn teimlo bod eich ymddygiad wedi newid neu os nad ydych yn cyfathrebu â ni mwyach.

Un pwynt cysylltu

Gallwn ddarparu un pwynt cysylltu os byddwch chi neu ni (neu’r ddau) yn credu y bydd hynny’n helpu i greu gwell canlyniad i bawb.

Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o’r GDPR, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fydd angen gwneud hynny i gyflawni’n tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.

Os bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ynglŷn â’ch un pwynt cysylltu yn cynnwys data categori arbennig, megis gwybodaeth am iechyd neu grefydd neu wybodaeth ethnig, y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i’w brosesu yw erthygl 9(2)(g) o’r GDPR, sydd hefyd yn ymwneud â’n tasg gyhoeddus ac â diogelu’ch hawliau sylfaenol chi, ac Atodlen 1, rhan 2(6) o Ddeddf Diogelu Data 2018 sy’n ymwneud â dibenion statudol a dibenion y llywodraeth.

Bydd penderfyniad i roi un pwynt cysylltu i chi yn cael ei wneud gan reolwr. Gall hyn ddigwydd lle mae gennych sawl cwyn a’n bod ni’n cytuno y bydd yn fwy effeithlon inni ymdrin â nhw fel hyn. Byddwn yn gwneud cofnod o’r ffaith bod gennych un pwynt cysylltu. Bydd yr holl staff perthnasol yn gwybod am ddefnyddio hyn i reoli’r cyfathrebu rhwng ein swyddfa ni a chithau. Bydd yn cynnwys eich enw, eich manylion cysylltu a disgrifiad o’r angen am gael un pwynt cysylltu. Byddwn yn adolygu’r angen hwn o dro i dro.

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn gweithredu yn rhinwedd ein swyddogaeth swyddogol fel rheoleiddiwr ynglŷn â chyfyngu’r cysylltiad neu’ch un pwynt cysylltu (neu’r ddau hyn), felly mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallem wrthod eich cais, sy’n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.