The ICO exists to empower you through information.

I gael trosolwg sylfaenol ar yr wybodaeth isod, gweler ein ffeithlun 'what we do with your personal data when you...'.

Cynnwys

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Pan fyddwch yn cysylltu â ni i wneud ymholiad, rydym yn casglu gwybodaeth, gan gynnwys eich data personol, er mwyn inni ymateb i’r ymholiad a chyflawni’n cyfrifoldebau rheoleiddio.

Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o’r GDPR, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fydd angen gwneud hynny i gyflawni’n tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.

Os bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ynglŷn â’ch ymholiad yn cynnwys data categori arbennig, megis gwybodaeth am iechyd neu grefydd neu wybodaeth ethnig, y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i’w brosesu yw erthygl 9(2)(g) o’r GDPR, sydd hefyd yn ymwneud â’n tasg gyhoeddus ac â diogelu’ch hawliau sylfaenol chi, ac Atodlen 1, rhan 2(6) o Ddeddf Diogelu Data 2018 sy’n ymwneud â dibenion statudol a dibenion y llywodraeth.

Yr hyn y bydd arnom ei angen a pham mae arnom ei angen

Mae arnon ni angen digon o wybodaeth gennych i ateb eich ymholiad. Os byddwch yn galw’r llinell gymorth, fyddwn ni ddim yn recordio’r sain a fydd dim angen fel arfer inni gymryd gwybodaeth bersonol gennych. Ond o dan amgylchiadau penodol fe allwn ni wneud nodiadau er mwyn rhoi gwasanaeth arall ichi yn ôl yr angen.

Os byddwch yn cysylltu â ni drwy’r ebost neu’r post bydd arnon ni angen cyfeiriad i anfon ymateb iddo.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Byddwn yn creu ffeil achos ar ein system rheoli cwynion i gofnodi’ch achos ac er mwyn inni ei drosglwyddo i’r adran gywir o’r busnes i gael ei drafod. Byddwn yn cadw cofnod o’n hymateb ni hefyd. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a roddir inni er mwyn ymdrin â’r ymholiad ac unrhyw faterion dilynol a allai godi, ac i wirio lefel y gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler ein hamserlen cadw gwybodaeth.

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn gweithredu yn rhinwedd ein swyddogaeth swyddogol i ymateb i’ch ymholiad, felly mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallem wrthod eich cais, sy’n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Nac ydyn.