The ICO exists to empower you through information.

I gael trosolwg sylfaenol ar yr wybodaeth isod, gweler ein ffeithlun 'what we do with your personal data when you...'.

Cynnwys

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben ni yw ymchwilio a chymryd camau rheoleiddio yn unol â’n dyletswyddau statudol.

Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o’r GDPR, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fydd angen gwneud hynny i gyflawni’n tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.

Os yw’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu ynglŷn â’ch adroddiad yn cynnwys data categori arbennig, megis gwybodaeth am iechyd neu grefydd neu wybodaeth ethnig, y sail rydyn ni’n dibynnu arni er mwyn ei phrosesu yw erthygl 9(2)(g) o’r GDPR, sydd hefyd yn ymwneud â’n tasg gyhoeddus a diogelu’ch hawliau sylfaenol chi, ac Atodlen 1 rhan 2(6) o Ddeddf Diogelu Data 2018 sy’n ymwneud â dibenion statudol a dibenion y llywodraeth.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Rydym yn casglu gwybodaeth rydych chi wedi’i rhoi inni am alwadau a negeseuon testun niwsans rydych chi wedi’u cael ac yr hoffech roi gwybod inni amdanyn nhw. Bydd ein hofferyn rhoi gwybod yn gofyn ichi roi gwybodaeth benodol.

Rydyn ni’n gofyn ichi roi’r rhif ffôn y cawsoch y neges niwsans arno, a gwybodaeth gysylltu rhag ofn y bydd angen inni gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth wrth inni ymchwilio i sefydliad. Ond does dim rhaid ichi roi dim o’ch data personol yn ystod y broses rhoi gwybod.

Byddwn yn gofyn am ran gyntaf eich cod post er mwyn inni greu adroddiadau dienw ynghylch pam mae pobl yn rhoi gwybod am alwadau a negeseuon niwsans.

Pam mae arnom ei angen

Er mwyn inni anfon y cyhoeddiadau rydych chi wedi gofyn amdanyn nhw.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Dim ond i ddarparu’r gwasanaeth hwn yr ydyn ni’n defnyddio’r manylion cysylltu. Rydyn ni’n rhedeg adroddiadau ystadegol ar y mathau a’r niferoedd o gyhoeddiadau y gofynnir amdanyn nhw at ddibenion monitro, ond nid yw’r rhain yn cynnwys unrhyw wybodaeth a all gael ei hadnabod yn bersonol.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler ein hamserlen cadw gwybodaeth.

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydych yn rhoi’ch data personol inni er mwyn inni weithredu yn rhinwedd ein swyddogaeth swyddogol fe rheoleiddiwr, felly mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallem wrthod eich gwrthwynebiad, sy’n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Nac ydyn