The ICO exists to empower you through information.

Ar y tudalen hwn

Addasu gwasanaethau

A ninnau’n awdurdod cyhoeddus ac yn ddarparwr gwasanaethau i’r cyhoedd, rydyn ni o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010).

Mae hyn yn golygu bod angen inni wneud addasiadau gwasanaeth i unrhyw un ag anabledd sy’n cysylltu â ni mewn unrhyw swyddogaeth, er mwyn dileu unrhyw rwystrau sy’n ei atal rhag cyrchu’n gwasanaethau. Ein sail ni dros brosesu’r wybodaeth hon yw erthygl 6(1)(c) o’r GDPR gan ein bod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu hyn. Caiff ein gwaith i brosesu data categori arbennig, megis gwybodaeth am iechyd y byddwch yn ei rhoi inni, ei seilio ar erthygl 9(2)(a), sy’n golygu bod arnon ni angen eich cydsyniad.

Byddwn yn creu cofnod o’ch anghenion am addasiadau. Bydd y rhain yn rhoi’ch enw, eich manylion cysylltu a’r math o addasiad y mae ei angen, ynghyd â disgrifiad byr o’r rheswm pam y mae ei angen. Gall y staff perthnasol weld hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyfathrebu â chi yn y ffordd angenrheidiol.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am hyn, gweler ein hamserlen cadw gwybodaeth.

Beth yw’ch hawliau chi?

Gan fod arnom angen eich cydsyniad i brosesu’ch data categori arbennig, mae gennych chi hawl i dynnu’ch cydsyniad yn ôl unrhyw bryd.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau fel unigolyn’.