Beth wna i os bydda i'n anfodlon ar yr ymateb i'm cais?
Os ydych chi'n anfodlon ar yr ymateb, mae angen ichi gwyno'n uniongyrchol i'r awdurdod cyhoeddus.
Mae'n rhaid i awdurdodau cyhoeddus ystyried cwynion am geisiadau o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Fe ddylen nhw ystyried cwynion am geisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Dylech gael ymateb i'ch cwyn o fewn 40 diwrnod gwaith.
Rhaid i'r awdurdodau cyhoeddus gynnwys gwybodaeth am sut i gwyno yn eu hymateb i'ch cais. Bydd y broses gwyno yn cael ei galw'n 'adolygiad mewnol'.
Gallwch ddefnyddio'n templed neges ebost neu lythyr i'ch helpu i godi'ch cwyn gyda'r awdurdod cyhoeddus.
[Cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth]
[DYDDIAD]
Annwyl Syr/Madam
Rhif Cyf: [os yw'n gymwys]
Diolch ichi am eich ymateb i'm chais am wybodaeth, a anfonais ar [ddyddiad], copi wedi'i atodi.
Rwy'n anfodlon ar y modd yr ymdriniwyd â'm cais am y rheswm/rhesymau a ganlyn:
Esboniwch pam rydych chi'n anfodlon ar ganlyniad eich cais. Er enghraifft:
- Rwy'n anghytuno â chanlyniad y prawf budd cyhoeddus oherwydd...
-
Dwy ddim yn credu y byddai cost darparu'r wybodaeth yn uwch na'r terfyn costau oherwydd...
-
Rydych chi heb roi digon o gymorth imi fireinio fy nghais.
-
Rwy'n anghytuno bod yr esemptiad yn gymwys oherwydd
-
Rwy'n anghytuno â chanlyniad y prawf budd cyhoeddus oherwydd...
Byddwn i'n ddiolchgar petaech yn cynnal adolygiad mewnol o'r modd yr ymdriniwyd â'm cais ac ystyried newid eich safbwynt.
Rwy'n edrych ymlaen at gael eich ymateb o fewn yr 20 diwrnod gwaith nesaf, fel yr amlinellir yng nghanllawiau'r Comisiynydd Gwybodaeth:
"Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn argymell y dylai awdurdodau cyhoeddus gynnal adolygiadau mewnol o fewn 20 diwrnod gwaith. O dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol mae yna ofyniad cyfreithiol bod rhaid i adolygiadau mewnol gael eu cynnal cyn gynted â phosib ac o fewn 40 diwrnod gwaith."
Yn gywir
[Enw]