Beth mae angen imi ei gynnwys yn fy nghais?
Dylech anfon eich cais drwy'r ebost neu drwy lythyr.
Os ydych chi'n gwneud cais am wybodaeth o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR) cewch wneud hynny ar lafar, ond rydyn ni'n argymell y dylech chi wneud hynny mewn ysgrifen. Mae'n haws ichi gadw cofnodion o'r hyn y gwnaethoch chi ofyn amdano a pha bryd.
Wrth ichi ysgrifennu'ch cais mae'n rhaid ichi gynnwys:
-
- eich enw go iawn; a
- chyfeiriad ebost neu gyfeiriad post.
Does dim angen ichi:
-
- wybod pa gyfraith rydych chi'n gwneud cais odani (e.e. y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol neu INSPIRE); na
- dweud pam yr hoffech chi gael yr wybodaeth, er y bydd yr wybodaeth hon yn ei gwneud hi'n llawer haws i'r awdurdod cyhoeddus.
Gallwch ddefnyddio'n templed neges ebost neu lythyr i gyflwyno'ch cais.
[Cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth]
[DYDDIAD]
Annwyl Syr/Madam
O dan y [Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth/Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol], hoffwn wneud cais am yr wybodaeth a ganlyn:
Wrth ofyn am wybodaeth, byddwch yn benodol ac osgowch ofyn cwestiynau cyffredinol. Cynhwyswch fanylion fel dyddiadau ac enwau os gallwch chi.]
Hoffwn ichi ddarparu'r wybodaeth hon yn y fformat a ganlyn:
[dewisol: dywedwch a oes yna fformat penodol yr hoffech gael yr wybodaeth ynddo]
Mae croeso ichi gysylltu â mi ar [eich rhif ffôn neu'ch cyfeiriad ebost] os oes angen eglurhad ynglŷn ag unrhyw agwedd ar fy nghais.
Yn gywir
[Enw]