Faint o amser sydd gan yr awdurdod cyhoeddus i ymateb i'm cais?
Mae gan awdurdodau cyhoeddus 20 diwrnod gwaith i ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth, ceisiadau am wybodaeth amgylcheddol, neu geisiadau am ailddefnyddio gwybodaeth.
A gaiff awdurdod cyhoeddus wrthod fy nghais?
Caiff. Mae nifer o amgylchiadau lle caiff awdurdod cyhoeddus wrthod cais am wybodaeth.
Pan fydd awdurdod cyhoeddus yn gwrthod cais neu'n gwrthod cais yn rhannol, mae'n rhaid iddyn nhw egluro'n glir pam. Os nad ydyn nhw'n egluro hyn, gallwch fynd yn ôl atyn nhw a gofyn am eglurder.
Dyma'r rhesymau mwyaf cyffredin dros wrthod cais:
-
- nad yw'r wybodaeth y gwnaethoch gais amdani gan yr awdurdod cyhoeddus;
- y bydd eich cais yn costio mwy na'r terfyn uchaf;
- bod yr wybodaeth yn cynnwys data personol; neu
- fod yr wybodaeth yn fasnachol sensitif.
Ceisiadau blinderus neu afresymol
Caiff yr awdurdod cyhoeddus wrthod eich cais os ydyn nhw'n credu eich bod chi'n gwneud y cais mewn ffordd fygythiol. Maen nhw hefyd yn cael gwrthod os ydyn nhw'n credu eich bod chi'n gwneud y cais er mwyn creu gwaith neu aflonyddwch diangen a hynny'n fwriadol.
Ceisiadau drud neu feichus
Os bydd awdurdod cyhoeddus yn amcangyfrif y byddai cydymffurfio â'ch cais/ceisiadau yn costio mwy na £600 (os ydyn nhw'n rhan o'r llywodraeth ganolog, Senedd San Steffan a'r lluoedd arfog) neu £450 (yn achos awdurdodau cyhoeddus eraill), yna maen nhw'n cael gwrthod eich cais.
Mae bod mor benodol â phosibl yn eich cais yn helpu i leihau cost yr ymateb a byddwch yn debycach wedyn o gael yr wybodaeth.
Esemptiadau
Mae nifer o resymau dilys eraill pam y gall awdurdod cyhoeddus wrthod eich cais am wybodaeth neu ei wrthod yn rhannol. Rydyn ni'n galw'r rhain yn 'esemptiadau'.
Os cawsoch chi ymateb i gais lle mae awdurdod cyhoeddus wedi defnyddio esemptiad, efallai y byddwch am ddarllen ein canllawiau ni er mwyn deall a wnaethon nhw ddefnyddio'r esemptiad yn gywir. Canllawiau ar gyfer sefydliadau yw'r rhain, ond fe ddylen nhw fod yn ddefnyddiol i chithau o hyd.